Cofeb rhyfel Pwllheli
Cofeb rhyfel Pwllheli, Ffordd y Cob
Codwyd y gofeb yn 1924 i goffáu bobl leol a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf . Ychwanegwyd enwau'r rhai a fu farw yn yr Ail Ryfel Byd yn ddiweddarach.
I ddarllen eu manylion, dewiswch gategori isod. Rydym wedi cynnwys enwau a manylion nifer o bobl nad ydynt yn cael eu henwi ar y gofeb ond sydd yn gysylltiedig â'r ardal.
Yn anarferol, mae categori ar wahân ar gyfer nyrsys a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Bu farw nyrs arall o'r ardal, Elizabeth Jones, yn yr Ail Ryfel Byd ac y mae ei henw ar y rhestr ar y gofeb.
Hefyd fe enwir ar y gofeb ddyn lleol a fu farw yn y gwrthdaro yn Ynysoedd y Falklands yn 1982. Gweler isod am ei fanylion.
Dadorchuddiwyd y gofeb ym Mehefin 1924 gan y cyn-Brif Weinidog David Lloyd George, a hanai o Lanystumdwy gerllaw. Mae'r gofeb yn cynnwys cerflun efydd o filwr ar blinth o wenithfaen caboledig.
O dan y cyflwyniad (yn y Gymraeg) i bobl y dref a syrthiodd yn y Rhyfel Mawr, fe welir y cwpled:
Yn nwfn swyn ei fynwes O
Caf lonydd, caf le i huno.
Daw’r cwpled o gerdd gan y bardd o’r Rhondda Ben Bowen (1878-1903) , a oedd yn weinidog gyda'r Bedyddwyr hyd nes y diarddelwyd ef gan ei eglwys am ei farn ar ddiwinyddiaeth.
Y Rhyfel Byd Cyntaf
Yr Ail Ryfel Byd
Gwrthdaro’r Falklands
- Hughes, William John, Sergeant 24076141. Gwasanaeth Awyr Arbennig (Special Air Service). Bu farw 21/05/1982, yn 34 oed, mewn damwain hofrennydd. Fe’i gladdwyd ym Mynwent Eglwys Sant Martin, Henffordd.
![]() |
![]() ![]() |