Gorsaf bad achub Pwllheli

button-theme-womenGorsaf bad achub Pwllheli

pwllheli_lifeboat_launching_trials_ c.1930sSefydlwyd bad achub ym Mhwllheli ym 1891. Roedd gan y cwt cychod gwreiddiol drysau yn y ddau ben, i hwyluso lansio'r bad i'r harbwr ar y naill ochr neu i'r môr ar y llall.

Ym mis Hydref 1917 gwirfoddolodd Elizabeth Black o South Beach pan oedd y bad achub yn brin o ddynion (o bosibl oherwydd bod cymaint o ddynion yn ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf). Nododd Yr Herald Cymraeg iddi wneud “ei rhan fel un o’r dynion am oriau meithion yng nghanol ystorm erwin”. Er gwaethaf ei ffitrwydd, bu farw Elizabeth ym mis Tachwedd 1919 yn 48 oed.  

Ni ddefynyddid y tŷ cychod o 1930 hyd 1953, tra y cedwid y bad achub wrth angorfa yn yr harbwr. Gyda chynnydd yn y silt yng ngheg yr harbwr, penderfynwyd i ddychwelyd at yr arfer o gadw’r cwch ar y tir a lansio efo cerbyd.

Mae’r lluniau o tua’r 1930au (gyda diolch i’r RNLI) yn dangos treialu lansio’r bad efo’r cerbyd, a chriw bad achub Pwllheli yn eu dillad pob tywydd.

Ym 1964 agorodd gorsaf bad achub gyda’r glannau (inshore) ym Mhwllheli, efo bad achub dosbarth D. Ym 1997 daeth bad newydd dosbarth D, City of pwllheli_lifeboat_crew_c1930sChester, i weithio ym Mhwllheli ar ôl ymgyrch i godi arian gan ddinas Caer. Ym 1990 ailadeiladwyd y tŷ tractor fel cartref i dractor newydd a bad achub newydd o ddosbarth Merswy. Roedd llwyfan gwylio i’r cyhoedd yn rhan o’r cynllun.

Yn 2007 cyflwynodd yr RNLI llythyr o ddiolch mewn ffrâm i’r llywiwr Andrew Green, a llythyrau o gydnabyddiaeth i ddau aelod o’r criw, Stephen Glyn Jones a Carl Summersgill, ar ôl iddynt achub 50 o forwyr mewn un diwrnod! Roedd y morwyr yn rasio 17 dingi pan gododd storm.

Darperir gwasanaeth bad achub y DU nid gan y llywodraeth ond gan elusen yr RNLI. Ers ei sefydli ym 1824, amcangyfrifir i’r RNLI achub tua 140,000 o fywydau. Mae’n cyflogi rhai aelodau criw on mae’r mwyafrif, rhyw 40,000, yn wirfoddolwyr sy’n gadael eu gwaith, teuluoedd neu gwelyau i ateb galwadau brys.

Côd post: LL53 5AY    Map

Gwefan yr RNLI

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button