Safle Parlwr Mawr, Conwy

button-theme-history-for-all-WBritish Sign Language logo

 

Adeiladwyd tŷ tref a alwyd yn Parlwr Mawr yn hwyr yn yr 16eg ganrif. Roedd ganddo neuadd ar y llawr gwaelod a siambr fawr uwchben. Cafodd ei addasu yn y 17eg ganrif pan roedd John Williams yn preswylio yno. Roedd ef yn un o’r dynion mwyaf dylanwadol ym Mhrydain ar adegau gwahanol yn ei fywyd.

Mae ei arfbais, wedi'i fodelu mewn plastr, yn un o’r ystafelloedd ar y llawr gwaelod. Bu i’r adeilad fynd yn adfail a chafodd ei ddymchwel yn 1950. Gwelir y llun o’r adeilad yma drwy garedigrwydd Gwasanaeth Archifau Conwy.

Old photo of Parlwr Mawr, ConwyAr ôl ei ordeinio, cafodd ei gymeradwyo gan y Brenin James. Daeth yn Ddeon San Steffan yn 1620, a Lord Keeper of the Great Seal ac Esgob Lincoln yn 1621. Cafodd y darlun hwn ei wneud yn 1620au mae'n debygol (mae'r pennawd Lladin yn cyfeirio at Lincoln) ac mae yn Eglwys Corpus Christi, Tremeirchion.

Ar ôl i’r Brenin James farw, bu i John golli'r cymeradwyaeth. Defnyddiodd ei gyfrwystra i osgoi cael ei erlyn gan Star Chamber enwog y Brenin Siarl I, ond cafodd ei garcharu yn Nhŵr Llundain o 1637 tan 1640.

Portrait of Bishop John WilliamsDaeth John yn Archdderwydd Efrog yn 1641, ond bu i’w safbwyntiau gwleidyddol achosi iddo gael ei anfon i’r Tŵr eto yn yr un flwyddyn. Cafodd ei ryddhau o’r carchar chwe mis yn ddiweddarach, teithiodd i Swydd Efrog – ond daeth yn ôl i’r Parlwr Mawr ar ôl i’w safbwyntiau di flewyn ar dafod arwain at fygythiad o farwolaeth.

Fel yr oedd y Rhyfel Cartref yn nesáu, bu iddo atgyweirio Castell Conwy a waliau'r dref ar draul ei hun. Addawyd iddo y byddai'n cael aros yn geidwad tan yr oedd y brenin wedi talu ei dreuliau yn ôl, ond roedd ei gymeradwyaeth â'r brenin yn dirwyo eto ac ym mis Mai 1645, cafodd ei droi allan. Bu i’r dirmyg hwn ei wthio i newid teyrngarwch. Bu ei wybodaeth fewnol helpu’r aelodau seneddol gael tref Conwy ac wedyn, ar ôl gwarchae, y castell yn 1646. Bu i Williams gymryd rhan yn yr ymosodiad a chafodd ei anafu ychydig.

Bu iddo farw yn 1650 yn Neuadd Gloddaeth, Llandudno, a chladdwyd yn Llandygai, Bangor.

Cod post: LL32 8BP    Map

Gwefan Gwasanaeth Archifau Conwy