Castell Conwy
Dyma un o gadwyn o gestyll a adeiladwyd ar arfordir Cymru o Fflint i Aberystwyth gan Frenin Edward I o Loegr. Adeiladwyd y castell rhwng 1283 a 1287 ar yr un pryd â’r dref gaerog, bwrdeistref hynafol fwyaf Gogledd Cymru. Mae’r rhan fwyaf o waliau’r dref wedi’i aros yn ei chyfanrwydd. Mae’r waliau a’r castell yn rhan o Safle Treftadaeth Y Byd UNESCO sydd hefyd yn cynnwys cestyll Biwmares, Caernarfon a Harlech.
Mae’r castell yn sefyll yn osgeiddig ar garreg frig lle mae nant Gyffin yn llifo i aber Conwy. Dyluniwyd y castell gan Meistr James o San Sior, a ddaeth o Savoy (bellach yn rhan o dde Ffrainc). Roedd Edward I dan warchae tu mewn i’r Castell yn ystod y gwrthryfel Cymreig yn 1295.
Mae gan y castell wyth o dyrau, dau rhagfur (pyrth caerog) a daeargell glasurol – pydew dwfn heb ffenest! Mae ymwelwyr yn cael syniad da o siâp y castell wrth iddyn nhw gerdded ar dop y waliau.
Rhannwyd ochr ddwyreiniol y castell oddi wrth weddill yr adeilad gydag amddiffyniad mewnol (wal fawr a ffos). O fewn y rhan hwn oedd ystafelloedd wedi'u cadw ar gyfer y brenin a'r frenhines, becws (mae popty anferth i'w gweld yno o hyd) a storfa fwyd. Mae grisiau yn arwain yn uniongyrchol i lan yr aber.
Meddiannodd byddin Owain Glyndŵr y castell yn 1403. Erbyn y Rhyfel Cartref roedd y castell yn adfail ond fe atgyweiriodd John Williams, Cyn Archesgob Efrog, y castell yn ogystal â waliau’r dref o boced ei hun er budd yr achos Brenhinol. Yn fuan wedi hynny cafodd ei anwybyddu ac o ganlyniad penderfynodd cefnogi’r gelyn drwy helpu’r Seneddwyr i gipio’r castell yn 1646. Difrodwyd tŵr y becws yn 1655 fel nad oedd modd defnyddio’r castell fel amddiffyniad.
Ymddangosodd y darlun o’r 18fed ganrif (a welir yma trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru) yn llyfrau Thomas Pennant. Mae’n dangos mynedfa ddwyreiniol y castell a mur y dref cyn eu difrodi gan adeiladu pont grog Thomas Telford a’r ffordd yn y 1820au.
Fe gymerodd y peiriannwr rheilffyrdd, Robert Stephenson ofal i ddylunio ei lwybr o gwmpas ochr ddeheuol y castell ar grib wedi’i adeiladu’n arbennig gan addurno tyrau ei bont gyda chastelliad. Yn 1880au canmolwyd Rheilffyrdd Llundain a'r Gogledd Orllewin am atgyweirio tŵr y becws. Efallai bod hynny’n ymddangos yn hael ond roedd y tŵr yn beryglus o agos i'r traciau!
I gael cipolwg o'r tŵr wedi malu o lan nant Gyffin, ewch i'n tudalen am baentiad gan JMW Turner. Mae paentiad o 1794 gan JC Ibbetson yn dangos sut edrychai’r castell (yng ngolau’r lleuad) cyn adeiladu’r pontydd a’r cei.
Cadw sydd yn gyfrifol am y castell heddiw. Mae Cadw yn gorff cadwraeth Llywodraeth Cymru.
Cod post : LL32 8AY Map