Tŷ weindio A3, Chwarel Dinorwig

Tŷ weindio A3, Chwarel Dinorwig

Dyma un o'r tai weindio yn y cyflwr gorau yn hen chwarel Dinorwig, a gaeodd ym 1969. Mae'n dirnod ger y llwybr troed sy'n dilyn yr incleiniau sydd mewn cyflwr da rhwng Llwybr Main a phonc Melinau'r chwarel.

Roedd y tŷ weindio yn rheol disgyniad wagenni lein-gul wedi'u llwytho â llechi. Roedd eu pwysau yn tynnu'r wagenni gwag ar y trac gerllaw. Roedd pob grŵp o wagenni wedi'i gysylltu ag un o'r ceblau a welwch ar y drwm weindio.

Y breciwr, yn gweithio o'r cwt y drws nesaf i'r tŷ weindio, oedd yn rheoli'r cyflymder yn ofalus. O bryd i'w gilydd, pan fyddai brêc y drwm weindio yn methu, byddai'r wagenni llawn yn rhuthro i lawr y llethr, a'r rhai gwag yn cyrraedd y pen uchaf ar gyflymder uchel ac yn cael eu codi ar y drwm. Byddai hyn yn creu difrod mawr, gan anafu, neu hyd yn oed ladd pobl.

Ym mhen gogledd-ddwyreiniol y tŷ weindio mae set o bwyntiau rheilffordd wedi goroesi, yn y man lle'r oedd dau drac yr inclein yn cyfarfod. Fel arfer mae gan bwyntiau bâr o lafnau sy'n llithro o ochr i ochr i symud yr olwynion i'r trac cywir. Yma mae pâr o blatiau siâp-V a wnaed o haearn bwrw. Byddai'r chwarelwyr yn defnyddio'u sgiliau a'u cryfder i symud y wagenni i un o'r ddau drac.

Ceir cydran fwrw arall ymhellach ymlaen, lle mae rheiliau mewnol y ddau drac inclein yn cyfarfod. Fe'i hadnabyddir fel broga ('frog' - meddyliwch am siâp y breichiau a'r coesau ar led!). Roedd gan weithdai'r chwarel, sef yr Amgueddfa Lechi bresennol, batrymau pren ar gyfer bwrw y rhain ynghyd a llawer o gydrannau eraill.

Diben y tŷ weindio hwn oedd rheoli'r wagenni ar inclein A3, y trydydd mewn cyfres oedd yn cychwyn gydag inclein A1 (ger yr amgueddfa) ac yn gorffen gyda A10, tua 650 metr uwchben lefel y môr.

Yma byddai'r wagenni yn cyrraedd o'r incleiniau uwch neu o Bonc Pen Diffwys, sef y bonc oedd yn arwain i gyfeiriad y gorllewin wrth droed inclein A4. Pan gynhaliwyd gŵyl lenyddol gan weithwyr y bonc hon ym 1878, testun un o'r traethodau oedd effeithiau niweidiol tybaco. Un o'r unawdwyr oedd y gof John Morris. Byddai'r digwyddiad yn para 2.5 awr, a byddai’n cynnwys cystadleuaeth hollti cerrig.

Cyllidwyd y cyfieithiad hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a'r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) a Chyngor Gwynedd.

Map