Castell Amroth

acc-logo button-theme-crime

Codwyd Plas Earwear yn 1455 gan John Elliott ger castell Normanaidd Llanrhath. Roedd twnel i gyfeiriad yr arfordir, ond ni wyddys beth oedd ei amcan gwreiddiol. Pabyddion oedd y teulu ac mae’n bosibl fod y twnel wedi’i ddefnyddio i gynnal Offeren yn dilyn y Diwygiad Protestannaidd. Mae gweithgareddau smyglo yn bosibilrwydd arall. Cododd un olynydd ysgol ar y stad, y tu ôl i’r porth bwaol sy’n wynebu ffordd yr arfordir.

Prynwyd y stad gan y Capten James Ackland yn 1790 ac ef a roddodd wedd gastellog i’r plas. Caeodd y twnel. Mabwysiadwyd yr enw Castell Llanrhath. Bu’r Arglwydd Nelson a’r Arglwyddes Hamilton yn aros yma yn ystod ymweliad â dociau Sir Benfro yn 1802.

Yn 1851 agorodd Dr John Howard Norton, y perchen, academi i gleifion seiciatrig yma. Roedd yr academi wedi ei thrwyddedu i drin wyth ar hugain o gleifion gwryw ac wyth ar hugain o gleifion benyw. Daeth archwilwyr yn fuan o hyd i dlodion o gleifion yn byw yn y stablau. Roedd un claf wedi ei rhwymo i gadair a gwregys am ei chanol bron yn barhaol. Dilewyd y drwydded wedi pum mlynedd ond roedd o leiaf un ar bymtheg o gleifion wedi marw (eu hoed ar gyfartaledd oedd 46). Er hynny, newidiwyd enw Chantry Lane i The Norton er parch i’r meddyg!

Prynwyd y stad yn 1898 gan, Owen Crosby Philipps, gŵr busnes pwerus, perchen llongau ac AS Rhyddfrydol. Gwnaed ef yn Farwn Cilsant yn 1923. Cafodd ddedfryd o ddeuddeng mis yngharchar yn 1931 oherwydd bu’n ymwneud â phrosbectws camarweiniol yn sgil ei swydd, sef cadeirydd y Royal Mail Steam Packet. Creodd le, er mwyn gallu troi ei gar, trwy ddymchwel tafarn ar dir gyferbyn â’r fynedfa. Agorwyd Amroth Arms yn ei le ymhellach i’r gorllewin.

Roedd ei ferch, Nesta Donne, yn byw yng Nghastell Amroth pan briododd â George Coventry. Ymddiddorai George mewn difyrion cefn gwlad ac yn 1920 cyflwynodd gae pêl droed ar ran o ddôl y castell i Amroth Seagulls, clwb a oedd newydd ei ffurfio. Roedd George yn baffiwr dawnus ac weithiau trefnai i fechgyn lleol ddatrus anghydfod trwy wisgo menig paffio! Daeth George yn nawfed Iarll Coventry yn 1930 ac ymadawodd y pâr ag Amroth. Ac yntau’n is-gapten 39 oed yn y fyddin, cafodd ei ladd yn Ffrainc yn 1940.

Atafaelwyd Castell Amroth yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Defnyddiwyd yr hen dwnel i waredu carthion a chladdwyd hanner cant a thri o belenni ffrwydrol yn y cae o flaen y castell. Roedd gwifren yn cysylltu’r pelenni fel bod modd gwneud yn cyfan ohonyn nhw’n ddiogel ar ôl cael hyd i’r cyntaf. Pan ddaeth yn amser i symud y ffrwydron, sut bynnag, roedd y wifren o’r belen gyntaf wedi rhydu. Bu rhaid chwilio amdanyn nhw fesul un. Cafwyd hyd i hanner cant ac un ohonyn nhw’n unig!

Derbyniodd y castell gofnod cofrestri Gradd 1 yn 1951. Wyth mlynedd yn ddiweddarach, cafodd ei brynu er mwyn ei droi’n barc gwyliau. Yn 2013, fe’i pennwyd yn un o wyth safle yn unig yn y byd yn grwn, lle y cafodd clôn Cochwydden Hynafol Ddigymar ei phlannu dros Archif Coed Hynafol Archangel.

Diolch i Mark Harvey

Cod post: SA67 8NN    Gweler y Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button