Terfyn deheuol y Landsger, Amroth
Castell gwreiddiol Llanrhath a ddynodai terfyn deheuol y Landsger, diffynfa Normanaidd a fwriadwyd i gadw tiroedd bras de Sir Benfro rhag y Cymry.
Cyn dyfodiad y Normaniaid ymsefydlodd ysbeilwyr o Lychlynwyr yma a galw’r lle yn Earwear, sef ‘tafod o dywod’. Hyd yn oed cyn hynny roedd bryngaer yn perthyn i’r Oes Haearn, ychydig i’r gorllewin o’r castell presennol.
Ddiwedd yr unfed ganrif ar ddeg codwyd mwnt gan y Normaniaid, sef Castell Earwear, ar safle’r bryngaer. Gyrrwyd y Cymry o’r iseldir a sefydlwyd cadwyn o amddiffynfeydd yn estyn hyd at gyffniau Niwgwl.
Parhaodd sgileffeithiau diwylliannol hynny am ganrifoedd wedi i rym amddiffynnol y Landsger edwino. Cymry Cymraeg, gan mwyaf, a drigai i’r goglodd o’r ffin. Y Saesneg oedd gryfaf tua’r de, gymaint felly yn wir fel y daethpwyd i alw’r fro honno yn ‘Little England beyond Wales’ – disgrifiad sy’n dal i gorddi’r dyfroedd hyd heddiw.
Mae gwahaniaethau amlwg rhwng Gogledd a De Sir Benfro o ystyried enwau lleoedd, pensaernïaeth, iaith a thafodiaith y sir. Dylanwadwyd ar iaith y de gan y Normaneg, y Fflemeg, y Saesneg a’r Gymraeg ynghyd â dogn sylweddol o ieithwedd Saesneg Gorllewin Lloegr. Yn 1924 lluniwyd geiriadur o ffurfiau De Penfro a hwnnw’n cynnwys saith ar hugain o dudalennau!
Yn y cyfnod pan oedd Amroth ar y ffin rhwng tiriogaeth y Normaniaid a thiriogaeth y Cymry yn Sir Gaerfyrddin, bu brwydro ffyrnig i reoli’r fro hon. Newidiodd perchnogaeth y castell sawl gwaith. Roedd ym meddiant y Cymry yn 1102 ond cafodd ei adfeddianu gan y Normaniaid yn 1115. Roedd dan awdurdod y Cymry yn 1151 a phryd hynny yr arweiniodd yr Arglwydd Rhys ei fyddin yn dawel liw nos ar draws y traeth i ymosod yn ddirybudd ar Ddinbych-y-pysgod, tra’r roedd amddiffynwyr y dref honno yn paratoi am ymosodiad o gyfeiriad y tir.
A’r castell ym meddiant y Norman drachefn, ymosodwyd arno ddwywaith a’i ddinistrio gan y Cymry yn chwarter cyntaf y drydedd ganrif ar ddeg. Erbyn 1350 roedd y sefyllfa’n fwy heddychlon a daeth ystad Earwear yn eiddo i deulu Elliott. Nhw a adeiladodd y plasdy a elwir bellach yn Gastell Amroth i’r dwyrain o’r hen gastell.
Ar awgrym John Elliott, Earwear, defnyddiwyd cerrig o’r hen gastell i adeiladu Eglwys Sant Elidyr.
Diolch i Mark Harvey