Maen Ceti (Carreg Arthur), ger Reynoldston, Gŵyr

Gower-AONB-Full

Maen Ceti (Carreg Arthur), ger Reynoldston, Gŵyr

Ychydig bellter i'r gogledd o'r maes parcio yma saif olion bedd cynhanesyddol, a elwir yn Faen Ceti. Mae'r ardal hon, Comin Cefn Bryn, yn bwysig yn rhyngwladol am fywyd gwyllt – gweler isod.

Photo of Arthur's Stone
© Cyngor Abertawe

Clogfaen rhewlifol yw'r maen pen bryn 25 tunnell hwn, a ddyddodwyd yno yn yr Oes Iâ ddiwethaf gan y llen iâ enciliol. Gelwir hyn yn faen dyfod. Tua 5,000 o flynyddoedd yn ôl, yn Oes y Cerrig Newydd, roedd pobloedd Neolithig wedi cloddio o dan y clogfaen a'i gynnal i greu bedd siambr ddwbl, gyda'r clogfaen yn gapfaen.

Mae'r maen yn gysylltiedig ag amryw o fythau. Yr enwocaf yw bod y Brenin Arthur wedi dod o hyd i gerigyn yn ei esgid pan oedd yn Sir Gaerfyrddin ac wedi'i daflu ar draws Moryd Llwchwr. Glaniodd ar Gomin Cefn Bryn, ar ôl tyfu mewn maint o gael ei gyffwrdd gan law'r brenin.

Lledawgrymodd yr hanesydd David Watkin Jones chwedl arall pan ddisgrifiodd y garreg yn ei lyfr Hanes Morganwg ym 1874 fel Maen Cetti neu Coeten Arthur. Mae coetio'n hen gêm sy'n defnyddio sgiliau taflu ac anelu. Gweler y troednodiadau am ragor o wybodaeth am enwau'r maen.

Chwedl arall yw i'r darn o garreg sy'n gorwedd i'r ochr gael ei dorri ymaith gan Dewi Sant gyda'i gleddyf mewn gwrthwynebiad i bobl a oedd yn parhau ag addoliad derwyddol paganaidd. Mae'n fwy tebygol mai dŵr glaw a achosodd iddo dorri wrth iddo fynd i mewn i graciau, rhewi a dadlaith dro ar ôl tro.

Mae Comin Cefn Bryn yn Ardal Cadwraeth Arbennig ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig oherwydd y cynefinoedd a'r rhywogaethau y mae'n eu cynnal. Wrth i chi gerdded i fyny i Faen Ceti, cadwch lygad am blanhigion blodeuol yn y gwanwyn i ganol yr haf. Maent yn cynnwys gwlithlys, planhigyn cigysol. Mae ei ddail gludiog yn denu pryfed fel ysglyfaeth.

Photos of Gower ponies
© Cyngor Abertawe

Ar ddiwedd yr haf i ddechrau'r hydref, mae'r comin yn fôr o felyn a phorffor – blodau'r eithin orllewinol, grug a rhostir croesddeiliog. Ar noson o haf efallai y byddwch yn ddigon ffodus i weld mursen ddeheuol. Mae Cefn Bryn yn un o lond llaw'n unig o leoliadau ar gyfer y rhywogaeth yn ne Cymru.

Er bod y dirwedd yn gwbl naturiol, mae angen ymyrryd i atal coetiroedd sy'n gorchuddio'r rhan fwyaf o Gefn Bryn a chadw'r amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau. Mae dulliau rheoli traddodiadol yn cynnwys Cominwyr sy'n dod â merlod yma i bori, a llosgi lleiniau bach dan reolaeth.

Gyda diolch i Richard Morgan, o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru am wybodaeth am enwau. Hefyd i Bartneriaeth AoHNE Gŵyr, dan arweiniad Cyngor Abertawe gyda chefnogaeth a chyllid gan Lywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru

Map

Troednodiadau:  Rhagor am enwau'r maen

Ym 1693 dywedodd John Williams, un o ohebwyr yr hynafiaethwr a'r gwyddonydd naturiol Edward Llwyd, fod pobl leol yn priodoli Maen Ceti i'r Arthur chwedlonol oherwydd ei "faint a'i gryfder eithafol". Ystyr Maen Ceti yw "carreg (dyn o'r enw) Ceti" ac mae'n ymddangos mewn ffynonellau diweddarach yn unig. Mae'n ymddangos mai'r awdur teithlyfrau a'r hynafiaethydd Benjamin Heath Malkin (1769-1842) gyfeiriodd ato'n gyntaf yn ysgrifenedig. Ceir yr un enw personol yn Ynys Ceti a Chilgeti/Cilgeti (Sir Benfro) ond does dim yn hysbys am Ceti.