Grîn y Bala

button-theme-bala-700Heddiw mae maes parcio yn meddiannu rhan o'r Grîn, a oedd ar un adeg yn ddarn helaeth o dir comin. Mae ei enw Saesneg yn dyddio o darddiad y dref ar ddechrau'r 14g.

Roedd y Grîn yn ymestyn ar hyd hen gwrs afon Tryweryn, cyn sythu yr afon yn y 1950au. Fe'i defnyddiwyd i gadw anifeiliaid fferm ac ar gyfer ymarferion milwrol ac o dan reolaeth yr hanner cant, fwy neu lai, o fwrdeiswyr Saesnig y dref.

Yn ddiweddarach rheolwyd y Grîn gan fwrdd lleol a’i osod i ffermwr. Y rhent ar gyfer 1875-76 oedd £25 15s. Cynhaliwyd gwerthiant ceffylau, moch a gwartheg ar y Grîn.

Cynhaliwyd gwyliau pregethu awyr agored, a elwir weithiau yn "eisteddfodau crefyddol", ar y Grîn, gan ddenu cynulleidfaoedd o 15,000 hyd at 20,000 weithiau. Ym mis Gorffennaf 1905 pregethodd yr enwog Parch. Evan Roberts yn hwyr i'r nos o lwyfan dros dro ar y Grîn. Sbardunodd ei bregethu ddiwygiad Cristnogol enfawr ledled Cymru a thu hwnt.

Cynhaliwyd archwiliadau o Milisia Brenhinol Meirionnydd ar y Grîn. Yn ystod arolygiad Mehefin 1871, gorchmynnwyd i'r dynion dynnu eu paciau cefn milwrol oherwydd y tywydd cynnes, cyn iddynt saliwtio, gorymdeithio a chyflawni ymarferion a driliau amrywiol.

Yn 1909 fe wnaeth dwy swffragydd (llai milwriaethus na'r swffragetiaid) annerch torf ar y Grîn yn Gymraeg a Saesneg. Roedd y syniad o bleidlais i ferched mewn etholiadau cyffredinol yn dal i fod yn ddadleuol, ac yn fuan fe waeddodd y dorf hwy i lawr gan wthio ymlaen. Fe gamodd yr heddlu i'r adwy a mynd â'r swffragyddion i ffwrdd heb niwed, ond "nid heb ryw ychydig drafferth".

Aerial photo of Bala Green and railway station in 1946Cafodd tenant Grîn y Bala, Jacob Thomas, iawndal o £6 10s yn 1878 am fod Cwmni Rheilffordd Y Bala a Ffestiniog wedi prynu tua hanner y Grîn gan y bwrdd. Roedd llinell Cyffordd y Bala i Flaenau Ffestiniog yn torri'r Grîn, lle adeiladwyd gorsaf reilffordd ac iard nwyddau. Caeodd yr orsaf yn y 1960au ac mae'r safle bellach yn ystâd ddiwydiannol fechan.  

Mae’r llun awyr o 1946, trwy garedigrwydd Llywodraeth Cymru, yn dangos sut roedd yr afon yn dolennu o amgylch y Grîn. Mae'r orsaf ger y gornel chwith uchaf, ac oddi tano mae'r seidings nwyddau a'r sied nwyddau (lle trosglwyddwyd cargo o dan do rhwng cerbydau ffyrdd a’r rheilffyrdd). Ar y chwith mae Tomen y Bala (olion amddiffyniad mwnt a beili) ac ail wyrcws y dref.

Gyda diolch i Lywodraeth Cymru am y llun awyr, ac i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad

Cod post: LL23 7NG    Gweld Map Lleoliad

button-tour-bala-700 previous page in tournext page in tour