Cerflun o Thomas Edward Ellis AS, Bala
Gwaith y cerflunydd Cymreig enwog William Goscombe John yw'r cerflun hwn (gweler isod). Mae'n portreadu Thomas Edward Ellis (1859-99), a etholwyd yn AS Rhyddfrydol Meirionnydd ym 1886. Mae'r llun, trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn dangos y cerflun yn newydd c.1904.
Ganed Thomas yng Nghynlas yng Nghefnddwysarn, ger Y Bala, a’i addysgwyd yn ysgol ramadeg y dref. Aeth i'r brifysgol Aberystwyth a Rhydychen. Fel AS roedd yn gynigydd cynnar i gynulliad Cymreig, dros ganrif cyn i'r Senedd bresennol gael ei sefydlu yn 1999.
Dadleuodd Thomas hefyd y dylid datgysylltu'r eglwys Anglicanaidd yng Nghymru (wedi'i gwahanu oddi wrth Eglwys Loegr), fel y digwyddodd yn 1920. Roedd hefyd ymhlith y cyntaf i ymgyrchu dros Lyfrgell Genedlaethol Cymru, sefydliad arall a ddaeth i fodolaeth (yn 1907) wedi ei farwolaeth.
Gwnaeth enw iddo ‘i hun drwy Gymru a thu hwnt fel amddiffynnwr pobl gyffredin ac yn feirniad ffyrnig o'r pŵer a arferir gan berchnogion ystadau Cymru. Daeth yn Brif Chwip y llywodraeth ym 1894, yn ddyrchafiad rhyfeddol i fab tenant o ffermwr.
Dim ond 40 oed oedd ef pan fu farw yn Cannes, Ffrainc. Dychwelwyd ei gorff i Gefnddwysarn i'w gladdu. Teimlwyd y golled yn ddwfn yng Nghymru, a dadorchuddiwyd y cerflun i'w gof ar 10 o Hydref 1903 mewn seremoni dan arweiniad pwysigion gan gynnwys David Lloyd George, a fyddai'n Brif Weinidog yn ddiweddarach.
Mae plinth pedair ochr y cerflun yn dangos lleoedd allweddol yn ei fywyd: Cynlas, Coleg Aberystwyth, Prifysgol Rhydychen a San Steffan. Gellir cyfieithu'r arysgrif "Amser dyn yw ei gynhysgaeth" fel " A man’s time is his legacy ".
Fel artist ifanc, fe wnaeth William Goscombe John o Gaerdydd, helpu i wneud y Wal Anifeiliaid y tu allan i Gastell Caerdydd. Roedd ei astudiaethau'n cynnwys cyfnod yn stiwdio Auguste Rodin ym Mharis. Roedd ei waith mawr cyhoeddus cyntaf, sef cofeb Catrawd y Brenin yn Lerpwl, yn rhagweld cerflunio nifer o gofebion rhyfel ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Dyluniodd hefyd wrthrychau ar gyfer arwisgiad Tywysog Cymru yn 1911, ac roedd yn un o sylfaenwyr Amgueddfa Cymru.
Diolch i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad
Cod post: LL23 7AG Gweld Map Lleoliad
![]() |