Pont Abermaw

sign-out button-theme-history-for-all-W

BSL-USED-HERE---logoMae Llwybr Arfordir Cymru a Lôn Las Cymru (Llwybr Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol 8) yn croesi aber afon Mawddach ar y draphont bren hir hon. Mae golygfeydd gwych o Eryri o'r llwybr.

Cwblhawyd y strwythur yn 1867 er mwyn i Reilffyrdd y Cambrian fedru cludo pobl a nwyddau ar hyd yr arfordir rhwng Pwllheli a Machynlleth. Mae trenau teithwyr yn parhau i redeg ar y llinell trac sengl, heb y dargyfeiriad hir i ddefnyddwyr y heolydd.

barmouth_bridge

Ym mis Rhagfyr 1892, aeth rhan o'r bont ar dân. Adroddodd papurau newydd fod bachgen o’r enw Owens, a welodd y tân wrth groesi’r bont, wedi rhedeg at y tollborth i godi’r larwm. Diffoddwyd y tân, gan osgoi “yr hyn a fyddai wedi bod yn drychineb difrifol”, ac argymhellwyd y llanc i Fwrdd Rheilffyrdd y Cambrian am wobr.

Mae’r draphont bron i 900 metr o hyd. Mae'n cynnwys 113 o rychwantau pren ac, yn y pen agosaf at Abermaw, pedwar rhychwant metel. Haearn oedd y rhai yna yn wreiddiol, fel y gwelwch yng nghanol yr hen lun. Byddai rhan yn agor pryd bynnag roedd angen i long basio. Gosodwyd rhychwantau dur yma ym 1899.

Caewyd y strwythur i drenau rhwng 1980 a 1986 ar gyfer gwaith atgyweirio. Roedd rhywogaeth o fwydyn morol wedi creu tyllau yn llawer o’r stanciau yn sylfeini’r bont, sydd bellach yn cael eu hamddiffyn gan goncrit a ffibr gwydr.

Yn 2020 dechreuodd Network Rail (sydd bellach yn berchen ar y draphont) ar waith uwchraddio gwerth £25m, gan gynnwys ailosod y rhychwantau metel a llawer o ddarnau pren, gyda’r nod o sicrhau dyfodol y strwythur a lleihau’r gwaith cynnal a chadw sydd ei angen. Cynlluniwyd yr uwchraddio i osgoi newid golwg y draphont, gyda'r mecanwaith ar gyfer y rhychwant siglen yn parhau yn ei le.

I'r de o'r draphont mae gorsaf Morfa Mawddach, lle bu trenau i Ddolgellau, Llangollen a Rhiwabon yn gwyro oddi wrth reilffordd Arfordir y Cambrian hyd 1965. Mae'r hen lwybr rheilffordd bellach yn rhan o Lwybr Mawddach rhwng Abermaw a Dolgellau, yn ogystal â rhan o Lôn Las Cymru.

Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button
National Cycle Network Label Navigation previous buttonNavigation next button