Beddau'r rhai a foddwyd, Deiniolen
Beddau'r rhai a foddwyd, Deiniolen
Yn y fynwent hon ceir beddau deuddeg a gollwyd ar drip cwch. Roeddynt yn rhan o drip mawr Ysgol Sul Eglwys Llandinorwig i Bwllheli ar Sadwrn y cyntaf o Orffennaf 1899 o ardaloedd Llanddeiniolen a Llanberis.
Talodd tri oedolyn a naw o blant i’r cychwr Robert Thomas iddo eu mynd a nhw am drip ar y môr. Fe ddymchwelodd y cwch tua 1.5km o’r traeth. Cewch fwy o wybodaeth o’n tudalen am y ddamwain. Boddwyd pob un ond Robert – gweler manylion isod.
Cymerwyd sawl diwrnod i gael pob corff. Gohiriwyd y cwest pan fu i frawd un a foddwyd torri i lawr yn llwyr gyda sawl aelod o’r rheithgor hefyd. Collodd teulu’r Thomas pum aelod o’u teulu.
Dygwyd y cyrff, mewn archau pin-pyg sgleiniog, i’w cartrefi. Roedd cannoedd o alarwyr tu allan i ddisgwyl amdanynt.
Collodd Jane Hughes, a oedd yn feichiog, ei holl deulu. Dywedodd y rhai a ddygodd corff ei phlentyn saith mlwydd i’r tŷ fel y dasg anoddaf eu bywyd.
Claddwyd un ar ddeg yn y fynwent yma ar y 6ed Orffennaf. Roedd eu cartrefi ar hyd y ffordd o Bron Elidir, ger Blue Peris, i gyffordd Fachwen (lle mae’r caffi Lodge nawr). Ymunodd tua 3000 a’r orymdaith a chafodd weithwyr y chwarel ganiatâd i ymuno, a daeth sawl aelod o’r cwmni i’r angladd hefyd.
Fel yr arfer yn yr oes honno, roedd llenni pob tŷ wedi eu cau fel arwydd o barch, y rhai agosaf i’r cartrefi am rai dyddiau cyn ac wedi’r angladd. Agorwyd chwe bedd. Claddwyd Owen Thomas a’i wraig Ellen gyda’i gilydd yn agos i’w plant. Claddwyd John Hughes yn agos i’w ddau blentyn. Nepell, claddwyd y brodyr Thomas a Richard Hughes gyda’i gilydd. Claddwyd Charlie Davies yr ochr arall i’r fynwent. Dangosir lleoliad y beddau yn y map isod (methwyd a lleoli beddau’r teulu Thomas).
O safle canolog, fe gynhaliodd y Parch James Salt wasanaeth cyfunol gan orffen gyda’r emyn Bydd Myrdd o Ryfeddodau. Ysgrifennodd un gohebydd na welwyd golygfa gyffelyb ym mlwyddnod y rhan hwn o Ogledd Cymru. Wythnos yn ddiweddarach claddwyd John Rowland Hughes gyda’i deulu gan y canfuwyd ei gorff ar draeth Abererch wythnos wedi’r trallod.
Gyda diolch i Dr Hazel Pierce, o The History House. ac i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad
Cod post: LL55 3NG Gweld Map Lleoliad
|
Y rhai a gollwyd ym Mhwllheli
Teulu Hughes o Tŷ Ddewi
- John Hughes, 36. Cyn postfeistr Dinorwig a goruchwyliwr yn chwarel Dinorwig. Gadawodd weddw Jane a mab yn fabi.
- John (Johnny) Rowland Hughes, 12. Mab John a Jane Hughes.
- Catherine (Cassie) Anne Hughes, 11. Merch John a Jane Hughes.
- Ellen (Nellie) Hughes, 6. Merch John a Jane Hughes.
Teulu Thomas o Tŷ’n y Fawnog
- Owen Thomas, 33, chwarelwr. Yn y cwest ym Mhwllheli fe dorrodd ei frawd a sawl un o’r rheithgor i lawr a gohiriwyd yr achos.
- Ellen Thomas, 27. Priod Owen ers ond pedwar mis ar ddeg.
- William (Willie) Edward Williams, 6. Mab Ellen a llysfab Owen.
- Ellen (Nellie) Thomas, 10. Merch Owen a llysferch Ellen.
- Owen Parry Thomas, 3. Mab Owen a llysfab Ellen
Teulu Hughes o Tan y Bwlch
- Richard Hughes, 15. Mab Thomas W Hughes, chwarelwr, a Jane Hughes. Wythnos wedi ei farwolaeth, dylai Richard bod wedi cystadlu am ysgoloriaeth i fyned i Ysgol Sirol Caernarfon efo Charles Davies, isod.
- Thomas Hughes, 12. Mab Thomas a Jane Hughes.
Teulu Davies o Bron Elidir
- Charles (Charlie) Davies, 13. Unig fab Richard Davies, goruchwyliwr yn chwarel Dinorwig, a Jane Davies. Bu farw Richard yn fuan wedyn, ym mis Chwefror 1900, yn dilyn damwain yn y chwarel, gan adael Jane a’i ferch Margaret.