Eglwys Llandinorwig, Deiniolen
Eglwys Llandinorwig, Deiniolen
Ariannwyd gan Thomas Assheton Smith, perchennog chwarel Dinorwig, ac fe’i cysegrwyd ym Medi 1857. Fe’i hadeiladwyd i ddal 600 o bobl ond yn aml roedd llawer mwy yn mynychu. Y pensaer oedd Henry Kennedy o Fangor a dim ond Cymry a’i hadeiladodd. Mrs Assheton Smith wnaeth y gwniadwaith ar yr allor.
Roedd i’r eglwys gôr mawr. Yn Ionawr 1862 fe eisteddodd deugain ohonynt i’w cinio blynyddol o gìg eidion a phwdin plwm a ddaparwyd gan y Parch HG Edwards. Y flwyddyn honno rhoddwyd dillad gaeaf i’r tlodion gwerth £20 (£2,400 heddiw).
Yn 1870 bu bron cael trychineb pan gychwynwyd tân ar Foel Rhiwen, yn uwch i fyny o’r eglwys, gan ddefnyddio hosan yn llawn powdwr du! Ardal wedi ei chau i mewn er mwyn magu grugieir oedd hi. Daeth cannoedd allan i ladd y fflamau gyda ffyn a rhawiau. Gwelwyd y tân o Gaernarfon.
Yn 1892 daeth y Parch James Salt, yn enedigol o Lanllechid, yn ficer. Symudodd i’r ficerdy mawr gyda’i wraig a’i deulu. Dwy flynedd ymhellach cafwyd yr organ, gan yr adeiladwr organau Bishop & Sons, am £300 (pris heddiw fuasai £39,000).
Yn 1899 cafwyd trallod go iawn ar drip Ysgol Sul pan foddodd tri oedolyn a naw o blant pan drodd cwch trosodd ym mae Pwllheli. Aeth y Parch Salt yno’n syth i geisio cysuro’r perthnasau oedd yno i adnabod y cyrff. Dywedir iddo fod wedi ei leddfu a galar. Claddwyd y trueiniaid ym mynwent yr eglwys ac mae carreg yn yr eglwys i’w coffáu.
Cafodd y Parch Salt a’i wraig eu trallodion hwythau o golli eu mab cyntaf, James Thomas, yn 1890 tra ond yn dri mis oed. Yna yn 1910 colli eu merch ieuengaf, Ethel Violet. Roedd wedi llwyddo yn ei hysgoloriaeth Sirol a chychwyn yn yr Ysgol Sirol ym Medi 1909. Ond yn Hydref 1910 daliodd gastro-enteritis mor ddifrifol roedd yn chwydu gwaed. Bu farw yn 14 ac fe’i claddwyd yn y rhan o’r fynwent agosaf i’r rheithordy.
Cafodd y Parch Salt achlysur hapus pan briododd ei ferch hynaf, Dollie, yma yn 1914. Gwasanaethwyd gan ei frawd y Parch George Salt, rheithor Boduan, ger Pwllheli. Addurnwyd yr eglwys yn hardd gyda blodau a phalmwydd.
Darlledwyd gwasanaeth Cymraeg oddi yma yn 1934. Yn 1956 arweiniodd y Parch R Glyndwr Williams wasanaeth yma a ddarlledwyd ar y Gwasanaeth Cartref Cymreig.
Gyda diolch i Dr Hazel Pierce, o The History House, ac i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad
Cod post: LL55 3NG Gweld Map Lleoliad
|
![]() |