Cofeb ryfel Aberhonddu
Cofeb ryfel Aberhonddu
Mae’r gofeb hon sydd ar dir Eglwys y Santes Fair yn coffáu’r bobl leol a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd. I ddarllen eu manylion, dewiswch gategori isod.
Cafodd y gofeb ei dadorchuddio ym mis Tachwedd 1920 gan Mrs Best a gollodd dri mab ym mis Chwefror a mis Ebrill 1917. Cafodd pob un ohonynt eu lladd yn Mesopotamia. Roedd ei gŵr, CW Best, yn syrfëwr sir ar gyfer Brycheiniog. Mae’r groes Geltaidd yn coffáu’r sawl a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ac mae’r gwelyau blodau a’r gatiau gerllaw wedi’u cysegru er cof am y sawl a fu farw yn yr Ail Ryfel Byd.
Gyda diolch i Steve Morris o Gymdeithas Hanes Lleol a Theulu Sir Brycheiniog
Cod post: LD3 7DJ Map
Lle y gwelch yr eicon hwn, cliciwch arno am fwy o hanes yr unigolyn
I barhau â’r daith ‘Aberhonddu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf’, cerddwch tua’r gorllewin ar hyd y Stryd Fawr. Mae’r codau QR nesaf y tu allan i’r Guildhall, yr ochr draw i’r ffordd |
Y Rhyfel Byd Cyntaf
- Y Preifat Arthur Waters Barratt, 1668. 23ain Bataliwn, Troedfilwyr Awstralia, Byddin Ymerodrol Awstralia. Lladdwyd mewn brwydr yn Pozières, Ffrainc ar 29 Gorffennaf 1916 yn 24 oed. Cofeb Villers-Bretonneux.
- Y Preifat Charles Edward Bather, 27745. 4ydd Bataliwn, Cyffinwyr De Cymru. Lladdwyd mewn brwydr ar 30 Ebrill 1917 yn 21 oed. Cofeb Ryfel Basra, Irac. Mab Mrs Annie Bather, 73 Y Struet, Aberhonddu.
- Y Lefftenant Arthur S Middleton Best. 71ain Cwmni Maes y Peirianwyr Brenhinol. Lladdwyd mewn brwydr yn Mesopotamia ar 23 Chwefror 1917 yn 32 oed. Mynwent Ryfel Amara. Mab Mr a Mrs CW Best. Brawd Frank a Stephen, isod.
- Y Lefftenant Frank Harrington Best. Bataliwn Brycheiniog, Cyffinwyr De Cymru. Lladdwyd mewn brwydr yn Mesopotamia ar 13 Chwefror 1917 yn 22 oed. Cofeb Ryfel Basra, Irac.
- Y Lefftenant Stephen Wriothesley Best. Bataliwn Brycheiniog, Cyffinwyr De Cymru. Lladdwyd mewn brwydr yn Mesopotamia ar 30 Ebrill 1917 yn 28 oed. Cofeb Ryfel Basra, Irac. Soniwyd amdano mewn adroddiadau.
- Yr Is-gorporal John Bevan, 267423. 1/2il Fataliwn, Catrawd Mynwy. Bu farw o’i anafiadau yn Ffrainc ar 4 Mehefin 1918 yn 20 oed. Mynwent Filwrol Ebblinghem, Ffrainc. Mab James a Mary Bevan, 1 Usk Terrace, Aberhonddu.
- Y Llongwr Abl William Bowen, J/19493. Y Llynges Frenhinol – HMS Defence. Bu farw ar y môr ym Mrwydr Jutland ar 31 Mai 1916. Cofeb Forwrol Plymouth. Ŵyr Martha Bowen, 4 London Row, Aberhonddu.
- Yr Is-gorporal Charles Guest Campion. Brigâd 1af y Troedfilwyr, 4ydd Bataliwn, Troedfilwyr Awstralia. Lladdwyd mewn brwydr ar 15 Ebrill 1917 yn Ffrainc yn 34 oed. Cofeb Villers-Bretonneux, Ffrainc.
- Y Preifat David James Charles, 52450. 1/5ed Bataliwn, Ffiwsilwyr Swydd Gaerhirfryn. Lladdwyd mewn brwydr yn Ffrainc ar 22 Awst 1918 yn 35 oed. Mynwent Filwrol Sucrerie, Colincamps, Ffrainc. Mab Mrs S Charles, 4 Ffordd Sant Ioan, Aberhonddu.
- Yr Is-ringyll William Thomas Clifford, 7975. Bataliwn 1af, Cyffinwyr De Cymru. Lladdwyd mewn brwydr yn Ffrainc ar 18 Medi 1914 yn 21 oed. Cofeb La Ferte-Sous-Jouarre, Seine-et-Marne, Ffrainc. Gŵr Daisy Olive Brooks (Clifford gynt), 12 Hafod St, Abertawe.
- Y Preifat Percy Alexander Coombe, 1781. Bataliwn 1af Brycheiniog, Cyffinwyr De Cymru. Lladdwyd mewn brwydr ar 4 Gorffennaf 1915 yn 20 oed. Cofeb Heliopolis (Aden). Mab John ac Ellen Elizabeth Coombe, 2 Heol y Gogledd, Aberhonddu.
- Y Preifat Ernest Cripps, 16250. 2il Fataliwn, Gwarchodlu’r Grenadwyr. Lladdwyd mewn brwydr ar 11 Hydref 1915 yn 21 oed. Mynwent Uwch-orsaf Trin Clwyfau’r Santes Fair, Haisnes, Ffrainc. Mab WG ac Elizabeth Ann Cripps, 2 Harp Terrace, Aberhonddu.
- Y Preifat David Dacey, 267449. 1/2il Fataliwn, Catrawd Mynwy. Bu farw mewn brwydr ar 24 Ebrill 1918 yn 37 oed. Caiff ei goffáu ym Mynwent Filwrol La Kruele, Hazebroucke, Ffrainc.
- Y Preifat Charles Davies, 3600. Bataliwn Brycheiniog, Cyffinwyr De Cymru. Bu farw ar 3 Awst 1916 yn Mhow, India. Mynwent Newydd Mhow.
- Y Preifat D Stanley Davies, 8/4444. Catrawd Troedfilwyr Otago, Byddin Ymgyrchol Seland Newydd. Lladdwyd mewn brwydr yn Ffrainc ar 12 Chwefror 1917 yn 26 oed. Mynwent Filwrol Ration Farm, La Chapelle-d’Armentières, Ffrainc. Mab William a Margaret Gwen Davies, 16 Y Watton, Aberhonddu.
- Yr Is-lefftenant Ifor Garfield Davies. 2il Fataliwn, Catrawd Wiltshire Dug Caeredin. Lladdwyd mewn brwydr yn Ffrainc ar 8 Awst 1918 yn 24 oed. Mynwent Brydeinig Le Vertannoy, Hinges, Ffrainc. Mab Mr DJ a Mrs M Davies, The Green Dragon, Y Stryd Fawr, Aberhonddu.
- Y Lefftenant William J Davies. 70ain Frigâd y Magnelwyr Maes Brenhinol. Lladdwyd mewn brwydr yn Ffrainc ar 5 Tachwedd 1916 yn 39 oed. Mynwent Filwrol Warlencourt, Ffrainc.
- Yr Is-lefftenant William Francis Trevor Dixon. 15fed Bataliwn, Fforestwyr Sherwood (Catrawd Swydd Nottingham a Swydd Derby). Lladdwyd mewn brwydr ar 20 Gorffennaf 1916 yn 18 oed. Cofeb Thiepval, Ffrainc.
- Y Dirprwy Swyddog Cyflenwi Cwmni William Burt Elston, 230006. 10fed Bataliwn, Troedfilwyr Ysgafn y Brenin Swydd Amwythig. Bu farw o’i anafiadau yn Alexandria ar 6 Tachwedd 1917 yn 33 oed. Mynwent Ryfel Beersheba, Palesteina. Mab Mary Elizabeth Elston, 21 Y Stryd Fawr, Aberhonddu.
- Y Preifat Alfred Edward Evans, 9997. 6ed Bataliwn, Cwmni C, Troedfilwyr Ysgafn Gwlad yr Haf. Bu farw ar 30 Hydref 1918 yn 28 oed. Cafodd ei gladdu ym Mynwent Aberhonddu. Mab Charles a Jane Evans, 22 Heol y Gogledd, Aberhonddu.
- Y Preifat William Evans, 12008. Bataliwn 1af, Cyffinwyr De Cymru. Lladdwyd mewn brwydr yng Ngwlad Belg ar 9 Gorffennaf 1917. Cofeb Nieuport, Gorllewin Fflandrys, Gwlad Belg.
- Y Preifat Wilfred Easthope Evans, 235394. 4ydd Bataliwn, Y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Lladdwyd mewn brwydr ar 2 Medi 1917 yng Ngwlad Belg. Cafodd ei gladdu yn Zonnebeke, Gorllewin Fflandrys, Gwlad Belg. Cofeb Tyne Cot. Mab Arthur J ac Emma Barrett Evans, 31 Heol Rydd, Aberhonddu.
- Y Preifat Harry William Finch, 9095. 4ydd Bataliwn, Cyffinwyr De Cymru. Bu farw ar 31 Rhagfyr 1917 yn Baghdad yn 30 oed. Mynwent Baghdad (North Gate). Mab Harry a Bertha Finch, Llundain; gŵr Amy Esther Finch, 13 Heol John, Aberhonddu.
- Yr Is-gorporal Harold John Gibble, A/201705. 10fed Bataliwn, Corfflu Reifflwyr Brenhinol y Brenin. Bu farw o’i anafiadau ar 14 Awst 1917 yn 18 oed. Mynwent Brydeinig Newydd Harlebeke. Brawd Mrs E Healey, Evans St, Barton St, Tewkesbury, Swydd Gaerloyw. Ganwyd yn Nhalgarth, Brycheiniog.
- Yr Is-gyrnol Franklin Macaulay Gillespie. 4ydd Bataliwn, Cyffinwyr De Cymru. Lladdwyd mewn brwydr ar 9 Awst 1915 yn Gallipoli, Twrci. Cafodd ei gladdu yn Gallipoli, Canakkale, Twrci. Cofeb Helles. Mab yr Is-gyrnol Franklin Gillespie a Mrs Gillespie, Heath Hollow, Camberley; gŵr Agnes Rose Gillespie, Bromley, Camberley, Surrey.
- Y Preifat Ernest Green. Bataliwn 1af Brycheiniog, Cyffinwyr De Cymru. Lladdwyd mewn brwydr ar 4 Gorffennaf 1915 yn 28 oed. Cafodd ei gladdu ger Aden; caiff ei goffáu ar Gofeb Heliopolis (Aden). Mab Joseph ac M. A. Green, 77 Y Watton, Aberhonddu.
- Y Baner-ringyll Joseph Groom DCM, 9865. 3ydd Bataliwn, Troedfilwyr Ysgafn y Brenin Swydd Amwythig. Bu farw ar 7 Ebrill 1919 yn 25 oed. Mynwent Aberhonddu.
- Yr Is-gorporal Albert Lewis Harding, 22867. 7fed Bataliwn, Troedfilwyr Ysgafn Swydd Rydychen a Swydd Buckingham. Lladdwyd mewn brwydr yn Salonika, Groeg ar 25 Ebrill 1917 yn 29 oed. Kilkis, Macedonia, Groeg. Cofeb Doiran, Groeg. Mab John a Mary Ann Harding, 30 Heol Rydd, Aberhonddu.
- Y Preifat Eustace William Hardinge, 267467. 2il Fataliwn, Catrawd Mynwy (Y Llu Tiriogaethol). Lladdwyd mewn brwydr ar 1 Gorffennaf 1917 yn Ypres yn 19 oed. Mynwent Bard Cot, Gorllewin Fflandrys, Gwlad Belg.
- Y Lefftenant William Emlyn Hardwick (Y Groes a’r Bar Milwrol). 21ain Bataliwn, Troedfilwyr Awstralia, Byddin Ymerodrol Awstralia. Lladdwyd mewn brwydr yn Ffrainc ar 5 Hydref 1918 yn 33 oed. Mynwent Brydeinig Newydd Tincourt yn Ffrainc. Mab Thomas Hardwick a Mrs M Norman, 7 Heol Lygoden.
- Yr Is-gorporal Leonard Augustus Hedge, 2471. 2/Bataliwn 1af, Iwmyn Maldwyn. Bu farw tra oedd yn y lluoedd arfog, ar 16 Mehefin 1915 yn Llanymynech ger Croesoswallt yn 27 oed. Mynwent y Trallwng (Eglwys Crist).
- Y Preifat William Mostyn Hellard. 9fed Bataliwn, Y Gatrawd Gymreig. 58071. Bu farw ar 29 Medi 1918 yn 18 oed. Cafodd ei gladdu ym Mynwent Brydeinig Cabaret-Rouge, Souchez, Ffrainc. Mab Mr a Mrs Hellard, Cock and Horse Inn, Y Watton. Bu’n gweithio fel paentiwr cyn y rhyfel.
- Y Rhingyll Thomas John Hodson. 3ydd Bataliwn, Cyffinwyr De Cymru. Bu farw ar 4 Gorffennaf 1916. Mynwent Dewi Sant, Aberhonddu.
- Y Corporal Richard William Hooper, 5951. 3ydd Bataliwn, Cyffinwyr De Cymru. Bu farw yn Lerpwl ar 29 Mehefin 1915 yn 35 oed. Mynwent Aberhonddu.
- Y Preifat Henry Simpson Howcroft, 8740. Bataliwn 1af, Cyffinwyr De Cymru. Lladdwyd mewn brwydr yn Ffrainc ar 29 Medi 1914. Cofeb La Ferte-Sous-Jouarre. Gŵr Eleanor Jane Howcroft (née Youseman). Bu’n gweithio fel gyrrwr merlod mewn pwll glo yn Swydd Efrog cyn ymuno â Chyffinwyr De Cymru cyn 1911. Soniwyd am ei frawd William, a fu’n gweithio i bopty yn Aberhonddu, mewn adroddiadau yn 1918.
- Yr Uwch-ringyll Cwmni James Irons, 8719. 2il Fataliwn, Cyffinwyr De Cymru. Lladdwyd mewn brwydr ar 20 Tachwedd 1917 yn 32 oed. Mynwent Gymunedol Villers-Plouich, Nord, Ffrainc. Mab James Irons; gŵr Bertha Irons, 31 Y Watton, Aberhonddu.
- Y Reifflwr William John Jenkins, 2375. Bataliwn 1af, Catrawd Mynwy. Lladdwyd mewn brwydr ar 8 Mai 1915 yn 32 oed. Caiff ei goffáu ar Gofeb Ypres (Menin Gate). Mab John a Mary Jenkins, 26 Heol Rydd, Aberhonddu.
- Yr Is-lefftenant John Harold Jones, 241978. Bataliwn 1af, Y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Lladdwyd mewn brwydr ar 1 Hydref 1917 yn 28 oed. Cofeb Tyne Cot, Gwlad Belg. Mab Mr BC a Mrs Mary Jones, 16 Sgwâr Alban, Aberaeron, Sir Aberteifi. Bu’n gweithio fel clerc yn y National Provincial Bank yn Aberhonddu cyn listio yn 1916. Brawd Richard, isod.
- Yr Is-lefftenant Richard Alun Jones. Bataliwn D, Corfflu’r Tanciau. Lladdwyd mewn brwydr ar 20/11/1917 yn 20 oed. Cafodd ei gladdu ym Mynwent Brydeinig Flesquières Hill, Ffrainc. Cafodd ei eni a’i fagu yn Sir Gaerfyrddin. Symudodd i Aberhonddu tua 1912 i weithio fel clerc yn y National Provincial Bank.
- Y Preifat William Jones, 54369. 19eg Bataliwn, Y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Bu farw ar 23/11/1917 yn 28 oed. Cofeb Cambrai, Ffrainc. Gŵr Gladys Rose Jones, 44 Heol Hwnt West, Llan-faes, Aberhonddu. Gadawodd ferch, Margaret Elizabeth.
- Y Preifat James Kelly, 45425. 4ydd Bataliwn, Catrawd De Swydd Stafford. Lladdwyd mewn brwydr yn Ffrainc ar 29 Mai 1918 yn 37 oed. Cofeb Soissons, Aisne, Ffrainc. Brawd Thomas Kelly, Dolphin House, Aberhonddu. Ewythr Thomas, isod.
- Y Preifat Thomas John Kelly, 35479. 2il Fataliwn, Catrawd Swydd Efrog. Lladdwyd mewn brwydr yn Ffrainc ar 6 Tachwedd 1918 yn 19 oed. Mynwent Gymunedol Bettrechies, Calais, Ffrainc. Mab Thomas ac Annie Kelly, Dolphin House, Aberhonddu.
- Y Preifat Herbert Wallace Kendall, 23308. 16eg Bataliwn, Y Gatrawd Gymreig. Lladdwyd mewn brwydr yn Ffrainc ar 7 Gorffennaf 1916 yn 42 oed. Cofeb Thiepval, Ffrainc.
- Y Preifat Patrick George Kennedy, 200612. Bataliwn Brycheiniog, Cyffinwyr De Cymru. Bu farw ar 29 Ionawr 1917 yn India yn 22 oed. Cofeb Kirkee, India. Mab James ac Elizabeth Kennedy, 12 Bridge St, Cas-gwent, Gwent.
- Y Preifat John Henry Kingdon, 200135. Bataliwn 1af Brycheiniog, Cyffinwyr De Cymru. Lladdwyd mewn brwydr ar 22 Tachwedd 1918 yn 25 oed. Mynwent Ryfel Tehran, Iran.
- Y Preifat Michael Knight, 2962. 27ain Ambiwlans Maes, Corfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin. Cyffinwyr De Cymru 8486 gynt. Lladdwyd mewn brwydr ar 25 Ebrill 1918 yn 32 oed. Cofeb Tyne Cot. Mab Mr a Mrs Michael Knight, Aberhonddu.
- Y Preifat George Thomas Knowles, 11261. 2il Fataliwn, Cyffinwyr De Cymru. Lladdwyd mewn brwydr ar 11 Mehefin 1915 yn 21 oed. Cofeb Helles, Twrci. Mab Frank a Charlotte Ann Knowles, 10 Grove Rd, Pontardawe. Aberhonddu gynt.
- Y Preifat Benjamin Alec Lane, 27502. Cwmni C, 4ydd Bataliwn, Cyffinwyr De Cymru. Lladdwyd mewn brwydr ar 14 Chwefror 1917. Al Basrah, Irac. Mab Mr a Mrs Allen Lane, Broadmarsh, Kempley, Swydd Gaerloyw; gŵr Rosina Lane, Penoyre, Aberhonddu.
- Yr Uwch-ringyll Cwmni Aaron Letton, 8198. Cwmni “A”, Bataliwn 1af, Cyffinwyr De Cymru. Lladdwyd mewn brwydr ar 10 Tachwedd 1917 yn 32 oed. Cofeb Tyne Cot. Mab Joseph a Catherine Letton, 44 Y Watton, Aberhonddu.
- Y Preifat John Sydney Letton, 2866. 1/ Iwmyn 1af Maldwyn gyda Marchoglu’r Teulu Brenhinol. Bu farw ar 2 Hydref 1916 yn 26 oed. Mynwent Coffáu’r Rhyfel yn Cairo, Yr Aifft. Mab John ac Elizabeth Letton, 92 Y Watton, Aberhonddu.
- Y Lefftenant Richard Aveline Maybery. 56fed Sgwadron, Y Corfflu Hedfan Brenhinol. Dyfarnwyd y Groes a’r Bar Milwrol iddo am ei ddewrder yn yr awyr. Lladdwyd mewn brwydr ar 19 Rhagfyr 1917 yn 22 oed. Mynwent Brydeinig Flesquières Hill, Ffrainc. Mab Aveline a Lucy Maybery, The Priory, Aberhonddu.
- Yr Is-fagnelwr Cyril Stuart Moore, 146600. Depo Rhif 2, Y Magnelwyr Garsiwn Brenhinol. Bu farw o’i anafiadau ar 6 Gorffennaf 1918 yn 23 oed. Mynwent Henffordd. Mab George Moore, Llanllieni; gŵr Nellie Tudge (Moore gynt, née Vaughan), 6 Carpenters Yard, Tredegar.
- Y Rhingyll Christmas Morgan, 8014. Bataliwn 1af, Cyffinwyr De Cymru. Lladdwyd mewn brwydr ar 19 Chwefror 1916 yn 32 oed. Cofeb Arras, Ffrainc. Mab Mr a Mrs T Morgan, 7 Montrose Avenue, Kimberley St, Hull; gŵr Kate Morgan, 5 Heol John, Y Watton, Aberhonddu.
- Y Preifat Reginald Tyndall Morgan, 152. Corfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin. Bu farw ym mis Medi 1918 gartref. Mynwent Aberhonddu. Gŵr Louisa Morgan (née Woodbury), 91 Y Struet, Aberhonddu.
- Y Preifat William Edwin Morgan, 27794. 4ydd Bataliwn, Cyffinwyr De Cymru. Lladdwyd mewn brwydr ar 30 Ebrill 1917 yn 19 oed. Caiff ei goffáu ar Gofeb Ryfel Basra, Irac. Mab Mr a Mrs W Morgan, Llys y Goedlan, Aberhonddu.
- Y Preifat George Morris, 29308. 19eg Bataliwn, Y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Lladdwyd mewn brwydr ar 21 Ebrill 1917 yn 19 oed. Cofeb Thiepval, Ffrainc. Mab Mr a Mrs Morgan Morris, 6 Heol y Felin, Aberhonddu.
- Y Rhingyll John Harold Morris, 200521. Bataliwn Brycheiniog, Cyffinwyr De Cymru. Bu farw yn Mhow, India ar 13 Medi 1918 yn 19 oed. Cofeb 1914-18 Kirkee, India. Gŵr Mary F Morris, 3 Teras Lansdowne, Aberhonddu.
- Y Gynnwr David Evan Parry, 3360. 119eg Frigâd, Magnelfa C, Y Magnelwyr Maes Brenhinol. Bu farw o’i anafiadau ar 18 Gorffennaf 1916. Mynwent Gorsaf Heilly, Ffrainc. Mab James a Jane Parry, 9 Heol y Felin, Aberhonddu.
- Y Preifat Charles James Robert Pawley, 123633. 61ain Cwmni, Corfflu’r Gynnau Peiriant (Troedfilwyr). Lladdwyd mewn brwydr ar 22 Mawrth 1918. Cofeb Pozières, Ffrainc. Gŵr Annie Elizabeth Price, Heol Danygaer, Aberhonddu.
- Y Preifat Edgar Pearce, 4/9946. 2il Fataliwn, Troedfilwyr Ysgafn Durham. Bu farw o’i anafiadau ar 19 Rhagfyr 1915 yn 29 oed. Mynwent Hop Store, Gwlad Belg. Mab Charles ac Annie Pearce, Y Struet, Aberhonddu.
- Y Preifat Frederick John Pearce, 15059. 7fed Bataliwn, Troedfilwyr Ysgafn Swydd Rydychen a Swydd Buckingham. Lladdwyd mewn brwydr ar 9 Mai 1917 yn 24 oed. Cofeb Doiran, Groeg. Mab Fred ac Alice Pearce, 71 Y Struet, Aberhonddu.
- Y Preifat George Rhys Phillips, 38925. Bataliwn 1af, Catrawd Swydd Lincoln. Lladdwyd mewn brwydr ar 5 Awst 1918 yn 20 oed. Mynwent Niederzwehren, Yr Almaen. Mab James Henry a Hannah Maria Phillips, 2 Heol y Brenin, Aberhonddu. Ganwyd yng Nghaerloyw.
- Y Preifat Alfred Evan Price, 119961. 18fed Bataliwn, Corfflu’r Gynnau Peiriant (Troedfilwyr). Lladdwyd mewn brwydr ar 4 Ebrill 1918 yn 19 oed. Cofeb Pozières, Ffrainc. Mab Mr a Mrs Edward Price, 55 Y Watton, Aberhonddu.
- Y Preifat David Richard Price, 15610. 1/2il Fataliwn, Catrawd Mynwy. Lladdwyd mewn brwydr ar 23 Tachwedd 1916 yn 19 oed. Caiff ei goffáu ym Mynwent Byddin Ymerodrol Awstralia, Flers, Somme, Ffrainc. Mab Mrs Frances Price, 14 Heol Charles, Aberhonddu.
- Y Rhingyll Jeffrey Price, 6. Bataliwn Brycheiniog, Cyffinwyr De Cymru. Bu farw ar 30 Medi 1916 yn 31 oed. Mynwent Ryfel Basra, Irac. Mab Jeffery a Margaret Price, Trostre, Aberhonddu.
- Y Preifat Alfred Pritchard, 18783. 4ydd Bataliwn, Cyffinwyr De Cymru. Bu farw ar 25 Rhagfyr 1915 yn 21 oed. Mynwent Filwrol Pieta, Malta. Mab John a Margaret Pritchard, 41 Y Struet, Aberhonddu.
- Y Taniwr Arthur Pritchard, 3649.S. Adfyddin y Llynges Frenhinol – HMS Vivid. Bu farw o afiechyd ar 17 Hydref 1918 yn 34 oed. Mynwent Ford Park (Pennycomequick), Plymouth. Brawd Henry Pritchard, 14 Pedro St, Clapton Park, Llundain.
- Y Preifat Philip Pritchard, 19976. 15fed Bataliwn, Y Gatrawd Gymreig. Lladdwyd mewn brwydr ar 28 Gorffennaf 1917. Mynwent Bard Cottage, Gwlad Belg. Gwasanaethodd dan yr enw Richards.
- Y Preifat Alfred Gordon Quarrell, 10969. 6ed Bataliwn, Catrawd Frenhinol Gorllewin Surrey y Frenhines. Lladdwyd mewn brwydr ar 12 Awst 1918 yn 22 oed. Mynwent Brydeinig Morlancourt Rhif 2, Somme, Ffrainc. Mab Alfred Quarrell, 3 Y Stryd Fawr, Aberhonddu.
- Y Preifat David John Rees, 13188. 2il Fataliwn, Y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Lladdwyd mewn brwydr ar 20 Gorffennaf 1916. Cofeb Thiepval, Somme, Ffrainc. Mab William ac Elizabeth Rees, 1 Maunds Court, Aberhonddu.
- Y Preifat Ivor Rees, 66147. 9fed Bataliwn, Catrawd Swydd Gaer. Lladdwyd mewn brwydr ar 17 Ebrill 1918 yn 37 oed. Cofeb Tyne Cot, Gwlad Belg. Mab Mrs Evan Rees, 70 Y Struet, Aberhonddu.
- Y Capten Willie Ross, 6082. 2il Fataliwn, Cyffinwyr De Cymru. Lladdwyd mewn brwydr ar 8 Awst 1917 yn 38 oed. Mynwent Artillery Wood, Gwlad Belg. Gŵr Mary Caroline Victoria Ross, 19 Y Watton, Aberhonddu.
- Y Preifat Thomas Edward Rowlands, 114207. 30ain Bataliwn, Corfflu’r Gynnau Peiriant (Troedfilwyr). Bu farw ar 17 Tachwedd 1918. Mynwent Gymunedol Tourcoing (Pont-Neuville), Ffrainc. Mab Mrs Mary A Rowlands, 104 Y Struet, Aberhonddu.
- Y Preifat Alfred Thomas Tedstone (gwasanaethodd dan yr enw Thomas), 17976. Fforestwyr Sherwood (Catrawd Swydd Nottingham a Swydd Derby). Lladdwyd mewn brwydr ar 10 Tachwedd 1917. Cofeb Tyne Cot, Gwlad Belg. Mab Lydia Thomas.
- Y Reifflwr James Victor Trevelyan, S/23328. Bataliwn 1af (Y Tywysog Cydweddog Ei Hun), Brigâd y Reifflwyr. Lladdwyd mewn brwydr ar 4 Hydref 1917. Cofeb Tyne Cot, Gwlad Belg.
- Y Preifat Melville George Trew, 235417. 15fed Bataliwn, Ffiwsilwyr Swydd Gaerhirfryn. Lladdwyd mewn brwydr ar 18 Medi 1917 yn 36 oed. Mynwent Filwrol Coxyde, Gwlad Belg. Mab Thomas Edward a Martha Elizabeth Trew, 13 Heol y Defaid, Aberhonddu. Bu’n gweithio ym musnes bwtsiera ei dad cyn listio, ac roedd yn organydd yng Nghapel y Bedyddwyr Kensington, Aberhonddu. Brawd Edwin, isod.
- Y Preifat Edwin Charles Trew, T/242015. Dyfarnwyd y Fedal Filwrol iddo. Bataliwn 1af, Y Bwffiaid 1af (Catrawd Dwyrain Anglia). Bu fawr o’i anafiadau ar 3 Awst 1918 yn 42 oed. Mynwent Filwrol Esquelbecq, Ffrainc. Mab Thomas Edward a Martha Elizabeth Trew, 13 Heol y Defaid, Aberhonddu. Bu’n gweithio fel clerc banc cyn listio.
- Yr Is-gorporal Ernest Frederick Tricker, 8322. 3ydd Bataliwn, Cyffinwyr De Cymru. Bu farw ar 27 Mai 1916 gartref. Cafodd ei gladdu ym Mynwent Dewi Sant, Aberhonddu.
- Y Rhingyll William Charles Turner, 1022. 38ain Bataliwn Hyfforddi, Y Corfflu Hedfan Brenhinol. Cafodd ei ladd yn ddamweiniol tra oedd ar ddyletswydd ar 3 Mehefin 1917 yn 25 oed. Mynwent Aberhonddu.
- Y Preifat William Samuel Watkins, 5176. 1/6ed Bataliwn (Y Tiriogaethwyr), Catrawd Swydd Dyfnaint. Bu farw ar 30 Rhagfyr 1916 yn 22 oed. Mynwent Ryfel Amara, Irac. Mab Mr a Mrs Samuel Watkins, 12 Priory Row, Aberhonddu.
- Y Rhingyll Albert Webster, 35010. 10fed Bataliwn, Cyffinwyr De Cymru. Bu farw o’i anafiadau ar 6 Mehefin 1918 yn 39 oed. Mynwent Filwrol Varennes, Somme, Ffrainc. Mab George ac Ellen Webster; gŵr Annie M Webster, 49 Heol y Berllan, Llan-faes, Aberhonddu.
- Y Lefftenant Douglas Gordon Webster. Dyfarnwyd y Groes Filwrol iddo. 21ain Bataliwn, Corfflu’r Gynnau Peiriant (Troedfilwyr). Lladdwyd mewn brwydr ar 29 Medi 1918 yn 26 oed. Cofeb Tyne Cot, Gwlad Belg. Mab Mrs Ellen Webster, Aberhonddu; gŵr Mrs EE Webster, King’s House, Caerllion.
- Yr Uwch-ringyll Cwmni Arthur Whatley, 4680. Bataliwn 1af, Cyffinwyr De Cymru. Lladdwyd mewn brwydr ar 31 Hydref 1914 yn 39 oed. Cofeb Ypres (Menin Gate). Mab William Whatley, Heytesbury, Wiltshire; gŵr Mrs CMEA Whatley, 22 Heol John, Y Watton, Aberhonddu.
- Y Preifat James Richard Wheeler, 5280. Bataliwn 1af, Cwmni B, Y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Bu farw ar 16 Mai 1915 yn 19 oed. Cofeb Le Touret, Pas de Calais, Ffrainc. Mab Eli William ac Esther Wheeler, 12 Heol y Felin, Aberhonddu.
- Y Preifat David Thomas Williams, 315646. 10fed Bataliwn, Catrawd Swydd Gaer. Lladdwyd mewn brwydr ar 30 Mai 1918 yn 23 oed. Cofeb Soissons, Ffrainc. Mab David ac Elizabeth Williams, 1 London Row, Aberhonddu.
- Y Preifat Josiah Rees Williams, 2285. Cwmni A, Bataliwn Brycheiniog, Cyffinwyr De Cymru. Bu farw mewn brwydr ar 4 Gorffennaf 1915 yn 22 oed. Caiff ei goffáu ar Gofeb Heliopolis, Aden, Yr Aifft. Mab Mr a Mrs Josiah Williams, Forge Villa, Aberhonddu.
- Y Preifat William Morgan Williams, 9337. 2il Fataliwn, Y Gatrawd Gymreig. Bu farw ar 13 Tachwedd 1914 yn 27 oed. Cofeb Ypres (Menin Gate). Mab John a Hannah Williams, 9 Bethel Terrace, Lion Yard, Aberhonddu.
- Y Preifat Charles William Henry Winstone, 29521. 8fed Bataliwn, Catrawd y Goror. Bu farw ar 16 Awst 1918 yn 19 oed. Mynwent Brydeinig Vendresse, Ffrainc. Mab Henry a Jessie A Winstone, 26 Bowyer Rd, Saltley, Birmingham, gynt o’r Struet, Aberhonddu.
- Y Preifat William Thomas Wood, 115810. 237ain Bataliwn, Corfflu’r Gynnau Peiriant (Troedfilwyr). Bu farw ar 29 Ionawr 1918 yn 19 oed. Estyniad Mynwent St Sever, Ffrainc. Mab Henry a Hannah Wood, 8 London Row, Aberhonddu.
- Y Preifat Leonard Woolford, 3238. Bataliwn Brycheiniog, Cyffinwyr De Cymru. Bu farw ar 19 Gorffennaf 1916 yn 22 oed. Cofeb 1914-18 Kirkee, India.
Yr Ail Ryfel Byd
- Blake, Stanley Claude. Rhingyll 3909536. Bu farw ar 08/07/1944 yn 24 oed. 2il Fataliwn, Cyffinwyr De Cymru. Mynwent Ryfel Bayeux. Mab Edward George ac Elizabeth Blake; gŵr Annie Blake, Aberhonddu.
- Capper, Jack. Signalwr 2342708. Bu farw ar 12/02/1942 yn 26 oed. Corfflu Brenhinol y Signalwyr/11fed Adran Signalwyr India. Cofeb Singapôr. Mab Albert Capper ac Emma Capper, Aberhonddu.
- Cracknell, George Henry, Morwr. Bu farw ar 02/09/1940 yn 31 oed. Y Llynges Fasnachol – SS Bibury. Cofeb Tower Hill. Gŵr Gladys Olwen Cracknell, Llan-faes, Aberhonddu.
- Davies, Kenneth Roger. Preifat 14270864. Bu farw ar 14/04/1944 yn 20 oed. 4ydd Bataliwn, Catrawd Frenhinol Gorllewin Caint y Frenhines Ei Hun. Cofeb Rangoon. Mab Hugh a Hilda Davies, Llan-faes.
- Davies, Vernon David. Preifat 4081487. Bu farw ar 04/07/1942 yn 27 oed. Cyffinwyr De Cymru. Mynwent Aberhonddu. Gŵr Margery Davies, Rhymni.
- Evans, John Francis. Ffiwsilwr 4189981. Bu farw ar 11/04/1945 yn 35 oed. Bataliwn 1af, Y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Cofeb Dunkirk. Mab William ac Emma Louise Evans, Aberhonddu.
- Fenn, Thomas Cyril. Llongwr Abl P/JX 130362. Dyfarnwyd y Fedal Gwasanaeth Neilltuol iddo. Soniwyd amdano mewn adroddiadau. Bu farw ar 24/09/1942 yn 31 oed. Y Llynges Frenhinol – HMS Somali. Cofeb Forwrol Portsmouth. Mab David John ac Annie Mabel Fenn, Aberhonddu.
- Matthews, Albert Edward Anderson. Awyr-lefftenant (Awyr-beiriannydd) 156039. Dyfarnwyd y Groes Hedfan Neilltuol iddo. Bu farw ar 22/06/1944 yn 30 oed. 49ain Sgwadron, Adfyddin Gwirfoddolwyr y Llu Awyr Brenhinol. Mynwent Ryfel Rheinberg. Mab Albert Edward a Gertrude Sarah Matthews; gŵr Edith Mary Matthews, Aberhonddu.
- Morris, Albert Owen. Preifat 7590288. Bu farw ar 13/02/1942 yn 37 oed. Uwch-weithdy ‘Z’, Corfflu Ordnans Brenhinol y Fyddin. Cofeb Singapôr. Mab Mary Ann Morris; gŵr E. Audry Morris, Aberhonddu.
- Niblett, James. Prif Daniwr D/X 61908. Bu farw ar 27/04/1941 yn 37 oed. Y Llynges Frenhinol – HMS Diamond. Cofeb Forwrol Plymouth. Mab Mr a Mrs L Niblett; gŵr Edith Ellen Niblett, Aberhonddu.
- Phillips, Raymond Edward. Signalwr D/JX154709. Bu farw ar 24/11/1942 yn 20 oed. Y Llynges Frenhinol – HMS Excellent II. Mynwent Ryfel Dely Ibrahim. Mab Edward a Florence Violet Phillips, Aberhonddu.
- Rowberry, John James. Rhingyll 6345884. Bu farw rhwng 03/09 a 04/09/1942 yn 28 oed. 5ed Bataliwn, Catrawd Frenhinol Gorllewin Caint y Frenhines Ei Hun. Mynwent Ryfel El Alamein. Mab Francis George a Mabel Louise Rowberry, Coventry; gŵr Gwyneth Elizabeth Mary Rowberry, Aberhonddu. Bu ei frawd, Geoffrey Douglas Rowberry, farw hefyd tra oedd yn y lluoedd arfog.
- Smith, A C. Preifat 3911175. Bu farw ar 06/11/1944 yn 27 oed. Bataliwn 1af, Cyffinwyr De Cymru. Mynwent Ryfel Prague. Mab Alfred Charles a May Smith; gŵr Gwyneth Muriel Smith, Aberhonddu.
- Taylor, William. Ffiwsilwr 7888872. Bu farw ar 18/03/1943 yn 21 oed. Bataliwn 1af, Y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Cofeb Rangoon. Gŵr Doreen Taylor, Llan-faes, Aberhonddu.
- Williams, Rees Davies. Awyr-ringyll 547160. Bu farw ar 15/10/1942 yn 24 oed. 21ain Sgwadron, Y Llu Awyr Brenhinol. Mynwent Aberhonddu. Mab Thomas George a Gertrude Williams, Aberhonddu.