Safle claddu hynaf Prydain, Paviland, Gŵyr
Gwasgwch y triongl i wrando ar y testun. Cliciwch yma am fwy o ddarlleniadau
Ogof ger yma yw'r safle claddu ffurfiol hynaf y gwyddys amdano yng ngorllewin Ewrop. Arhoswch ar y llwybr troed a pheidiwch â cheisio mynd i lawr i'r ogof – mae'r clogwyni yma yn beryglus.
Enwyd y dyn cyn hanesyddol y daethpwyd o hyd i'w weddillion yma yn "Arglwyddes Goch Paviland" ar ôl iddo gael ei ddarganfod ym 1823. Cafodd yr esgyrn eu darganfod yn Goat's Hole Cave gan Dr William Buckland, oedd yn meddwl mai Rhufeiniaid oedden nhw. Mae gwyddonwyr wedi dyddio'r esgyrn i tua 33,000 o flynyddoedd yn ôl.
Cedwir yr esgyrn yn Amgueddfa Hanes Naturiol Prifysgol Rhydychen ac maent yn weddillion dyn ifanc, yn ei 20au cynnar. Cawsant eu lliwio gan ocr coch, cyfansoddyn sy'n digwydd yn naturiol sydd wedi'i ddarganfod mewn llawer o safleoedd claddu cyn hanesyddol yn Ewrop.
Roedd yn byw cyn yr Oes Iâ ddiwethaf, a gyrhaeddodd uchafbwynt tua 20,000 o flynyddoedd yn ôl ac a wnaeth Cymru yn ardal anghyfannedd. Dychwelodd pobl yma tua 15,000 o flynyddoedd yn ôl.
Roedd Dr Buckland yn cofio bod ffermwyr eisoes yn gwybod bod esgyrn yn y pâr o ogofâu yn Paviland, a bod curad a llawfeddyg wedi dod o hyd i ddannedd eliffant a rhan o'r ysgithr (tusk) yno yn 1822. Cofnododd ei fod wedi dod o hyd i bron holl ochr chwith y dyn, er bod y benglog a'r fertebrau ar goll, a bod yr esgyrn wedi'u staenio "fel brics coch". Roeddent o dan 15cm (chwe modfedd) o'r ddaear pan ddaeth o hyd iddynt.
Roedd Dr Buckland (1784-1856) yn offeiriad Anglicanaidd ac, o 1813, yn athro mwynoleg ym Mhrifysgol Rhydychen.
Diolch i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad
Gwefan Amgueddfa Hanes Naturiol Prifysgol Rhydychen
![]() |
![]() ![]() |