Bryn y Bont, Pentre Felin, Betws-y-coed

Adeiladwyd y tŷ mympwyol hwn o gerrig nadd garw tua 1845 gan ystad Gwydir. Mae’n edrych fel fersiwn fwy cynnil o’r Tŷ Hyll, sydd ychydig gilometrau ymhellach i fyny Dyffryn Lledr ac yn enwog am y clogfeini talpiog yn ei waliau. Mae corbelau trwchus Bryn y Bont – y darnau o graig yn ymwthio allan o dan y bondo – yn debyg i’r rhai ar y Tŷ Hyll. Mae’r corn simnai crwn yn nodwedd hynod arall o Fryn y Bont.

Yn y 19eg ganrif, stad Gwydir oedd prif ddaliad tir yr ardal. Yn 1873 roedd yn berchen ar 124 cilomedr sgwâr, yn bennaf yn Sir Gaernarfon ond gyda pheth tir yn Sir Ddinbych. Ffurfiodd afon Conwy y ffin rhwng y siroedd.

Erbyn 1861 roedd Bryn y Bont yn gartref i John Davies, 52 oed. Roedd yn feistr ar ysgol fechgyn Bryn y Bont, a safai drws nesaf (lle gwelwch y Neuadd Goffa heddiw). Cynhaliwyd digwyddiadau cymunedol yn yr ysgol, megis cyngerdd yn 1881 a oedd yn cynnwys canu, llefaru a pherfformiad gan y Rhingyll Roberts a’i “Negro Boys”, y tro cyntaf iddynt ymddangos ar lwyfan yn eu “lliw du”. Yn 1886 cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus ym Mryn y Bont i drafod yr angen am neuadd bentref. Ym 1919 rhoddodd yr Arglwydd Ancaster o stad Gwydir yr ysgol a’r tir cyfagos i bobl Betws-y-coed er mwyn eu galluogi i adeiladu neuadd bentref yno.

Adeiladwyd y neuadd fel cofeb rhyfel y pentref. Mae Bryn y Bont a’r Neuadd Goffa bellach yn eiddo i Gyngor Cymuned Betws-y-coed. Mae Bryn y Bont mewn defnydd preswyl.

Cod post: LL24 0BB    Map