Porth De Castell Caerdydd, Parc Bute
Porth De Castell Caerdydd, Parc Bute

Porth y De ar y chwith tua 1880
Dyma fynedfa ddeheuol Castell Caerdydd, sydd â’i gwreiddiau yn nyddiau’r Rhufeiniaid yn y ganrif gyntaf Oed Crist.
Sylweddolon nhw fod gan y safle bosibiliadau strategol a'i ddefnyddio fel caer a man masnachu. Mae castell heddiw wedi’i ffinio gan waliau Rhufeinig wedi’u hailgodi, gan gynnwys rhan fawr o’r gwaith carreg gwreiddiol.
Gadawodd y Rhufeiniaid yn y bedwaredd ganrif a ni wyddom lawer am y safle nes i’r Normaniaid gyrraedd ar ddiwedd yr 11eg ganrif. Cododd Robert Fitzhamon fwnt tua 1090. Carcharwyd Robert Normandi, Brenin Harri’r I, yn y castell o 1126 nes ei farwolaeth ym 1134. Ychwanegwyd gorthwr carreg trawiadol tua 1135.
Ymwelodd Gerallt Gymro ac Archesgob Caergaint â Chastell Caerdydd ar 14 Mawrth 1188 yn ystod taith trwy Gymru yn ricriwtio ar gyfer y drydedd groesgad. Mae dyddiadur Gerallt yn dweud wrthym sut y dringodd Ifor Bach dros furiau uchel y castell (yn 1158) er mwyn cipio Iarll Caerloyw. Nododd hefyd fod y Brenin Harri’r II wedi mynychu offeren yng Nghaerdydd mewn capel wedi’i gysegru i Sant Piran (yn 1172). Cafodd y brenin ei rybuddio yn Saesneg gan ddyn tonsuredig mewn abid gwyn i wahardd masnachu neu weithio ar y Sul. Onid e, byddai’n dioddef anffawd. Anwybyddodd y brenin y cyngor ac yn fuan wedyn cododd ei feibion ef ei hun yn ei erbyn yn Ffrainc. Ystyriai Gerallt mai cosb ar y brenin oedd hynny.
Arferai nifer o deuluoedd pendefig fod yn berchen ar y castell. Fe’i trosglwyddwyd drwy briodas o deulu De Clares i deulu Despenser ym 1399, ac yn ddiweddarach i deulu Beauchamps. Roedd eu hadeilad newydd yng nghanol y tŷ presennol. Aeth priodas arall â’r castell i ddwylo teulu Neville, ac yn y pen draw drwy Anne Neville, gwraig Rhisiart III, i feddiant y Goron.
Dyfarnwyd Castell Caerdydd i deulu Herbert, Ieirll Penfro, gan y Goron ym 1550. Gwnaeth y teulu pendefig olaf i fod yn berchen arno, teulu Bute, hefyd ei feddiannu drwy briodas, ym 1776. Manteisiodd teulu Bute ar gronfeydd mwynau ystadau Morgannwg.

Hen lun o borth y de tua 1900
Erbyn y 1860au, gallai Trydydd Ardalydd Bute (1847-1900), gŵr cyfoethog ac ysgolheigaidd, weddnewid y Castell i arddull ganoloesol fawreddog. Dechreuwyd y project 60 mlynedd ym 1866. Creodd ei bensaer, William Burges, un o’r adeiladau mwyaf rhyfeddol ym Mhrydain Oes Fictoria, gyda’r muriau mewnol disglair yn llawn metel euro, cerfluniau, murluniau a gwydr lliw.
Mae’r lluniau’n dangos Porth y De a’r adeiladau wedi’u clystyru o’i gwmpas tua 1880 (llun uchaf) a gyda thraciau tram a bws ceffylau tua 1900, ar ôl dymchwel yr adeiladau.
Rhoddodd teulu Bute y castell a’r tir i Ddinas Caerdydd ym 1947. Ar ôl cyfnod fel Coleg Cerdd a Drama Caerdydd, mae’r castell bellach yn un o brif atyniadau ymwelwyr Cymru.
Côd Post: CF10 3RB Map
I barhau â thaith Parc Bute, cerddwch i’r gorllewin ar hyd Stryd y Castell tuag at dŵr cloc y castell, lle mae côd QR a bwrdd dehongli am Y Mur Anifeiliaid (dyma HiPoint1 y daith) | ![]() |
![]() |
![]() ![]() |