Castell Mawr, Traeth Coch
Un o brif nodweddion y dirwedd i'r gogledd o'r cei ym Mae Traeth Coch yw'r brigiad calchfaen Carbonifferaidd a elwir Castell Mawr. Wrth i chi edrych i'r gogledd o ardal y cei, fe welwch ben cul y brigiad petryal bron.
Nid oedd erioed castell yn yr ardal hon. Roedd y brigiad mor drawiadol fel ei fod yn edrych fel castell!
Mae'r hen gerdyn post yn dangos Castell Mawr gyda Gwesty'r Min-y-don ger ei ben deheuol.
Ehangwyd a gwellwyd y gwesty yn oes Fictoria gan Margaret Roberts, a aned yno. Roedd ganddi 20 o frodyr a chwiorydd ac roedd hi mewn gwasanaeth domestig cyn dychwelyd i Min-y-don a datblygu'r busnes. Helpodd ei dawn entrepreneuraidd i dynnu sylw twristiaid i'r ardal hon, ac roedd hi'n dal i gael ei hadnabod fel "Brenhines Traeth Coch" pan fu farw yn 1905, yn 93 oed.
Pan arwerthwyd y rhydd-ddaliad ym 1881, roedd y gwesty'n cynnwys 15 ystafell wely, bwyty, ystafell arlunio ac ystafelloedd eistedd, bar, toiledau morwynion, gerddi, stablau a lawnt croquet. Cafodd ei "fynychu gan ymwelwyr o Loegr, Iwerddon a chyfandir Ewrop".
Mae hen fapiau OS yn enwi adeilad, ychydig i'r gogledd o'r gwesty, fel Hen Gapel. Cyfarfu'r Methodistiaid Calfinaidd, gan gynnwys Mrs Roberts, yno cyn adeiladu Capel Saron yn y 1830au.
Cloddiwyd pen gogleddol y brig. Cafodd rhai o'r calchfaen ei sgleinio i ffurfio "marmor du" at ddibenion addurniadol. Gwnaed ysgythriad y chwarel gan William Daniell, trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a'i gyhoeddi yn A Voyage Round Great Britain 1814-1825. Mae'r olygfa tua'r dwyrain, tuag at Llanddona. Y bryn pellennig yw Bwrdd Arthur.
Mae'r safle wedi'i farcio fel Hen Chwarel ar fap yr OS 1899, sy'n dangos bod y chwareli wedi dod i ben erbyn hynny.
Gyda diolch i Michael Statham, yr Athro Hywel Wyn Owen a Dr Hazel Pierce, ac i Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyfieithiad gan Gwyndaf Hughes
Cod post: LL75 8RJ Gweld Map Lleoliad
![]() |
![]() ![]() |