Coedwig Law Geltaidd Goultrop Roads, gerllaw Aber-bach
Mae Coedwig Law Geltaidd yn cydio yn y clogwyni uwchben Goultrop Roads. Dyma un o goetiroedd mwyaf gorllewinol Cymru. Mae’r coed derw crablyd a cham wedi’u gorchuddio â rhedyn, mwsogl a chennau. Yn y gwanwyn, mae’r llethrau creigiog dan garped o fwtsias y gog.
Os ydych newydd sganio’r cod QR wrth ymyl maes parcio Strawberry Hill, cerddwch neu edrychwch tua’r gorllewin i weld y coetir. Arhoswch ar y llwybr gan fod y coetir yn serth ac yn agored i aflonyddwch.
Mae Coedwigoedd Glaw Celtaidd yn goetiroedd hynafol ar gyrion gorllewinol Ynysoedd Prydain. Fe’i gelwir hefyd yn Goedwigoedd Glaw Iwerydd neu Goedwigoedd Glaw Tymherus. Maent yn gynefinoedd delfrydol i blanhigion epiffytig (sy’n tyfu ar goed) yn cynnwys cennau, mwsogl, clustiau'r derw a ffyngau.
Mae coetir Goultrop Roads yn gorwedd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) De Porth Sain Ffraid. Credir ei fod yn cynnwys y boblogaeth fwyaf o rai o gennau prinnaf Cymru. Mae rhannau isaf y coetir bron heb eu cyffwrdd gan weithgarwch dynol ac maent yn rhydd o’r llygredd aer sy'n effeithio ar lawer o'n cefn gwlad. Mae parhad hir y gorchudd coed, sy’n darparu amgylchedd llaith, cysgodol, wedi amddiffyn ystod amrywiol o gennau ‘hen goedwig’ sy’n tyfu ar goed a chreigiau arfordirol.
Yn y coetir mae’r gytref fwyaf hysbys o’r cen ffelt Degelia (Pectenia) atlantica. Mae dwy rywogaeth arall o gen Ffelt yn tyfu yma (D. plumbea a D. ligulata). Dyma’r unig safle yng Nghymru lle mae'r tair rhywogaeth i’w gweld o hyd. Mae Clustiau’r Derw Lobaria pulmonaria yn ffynnu yno ac mae’r boblogaeth fwyaf o gen Satin Gwyrdd Lobaria virens yn Sir Benfro i’w gweld yno.
Mae'r llun uchaf yn dangos coeden sy'n gartref i doreth o Glustiau’r Derw ac mae'r llun isaf yn dangos cen Satin Gwyrdd. Mae’r ddau lun trwy garedigrwydd Jon Hudson.
Mae’r cennau yn Goultrop Roads yn ffynnu ac yn dal i allu lledaenu ar draws y safle, yn wahanol i’r rhai mewn llawer o goetiroedd eraill yng Nghymru. Am y rheswm hwn, mae prosiect Lleoedd Lleol ar gyfer Natur a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn clirio Rhododendron a Llawryf estron, sy’n taflu gormod o gysgod, ac yn plannu coed addas ar gyfer cennau mewn lleoliadau cyfagos. Bydd y cennau prin yn gallu lledaenu i ardaloedd newydd, gan greu poblogaethau gwydn ar gyfer y dyfodol.
Hanes yr enw lle:
Ysgrifennwyd Goultrop Roads fel Goldhap yn 1422, Goltopp yn 1602 a Goltop Rode yn 1578 a 1610. Roedd BG Charles, ysgolhaig o Sir Benfro yn meddwl bod yr enw Goldap yn ôl pob tebyg i fod yn Galdhop, gyda’r elfen gyntaf yn dod o’r hen air Sgandinafaidd galti (’baedd’) a -hop sy'n golygu 'bae, cilfach' yn yr Hen Iaith Sgandinafaidd. Awgrymodd efallai bod baeddod gwyllt wedi crwydro’r llethrau. Cafodd “ffordd” y môr ('roads' - llwybr a ddefnyddir gan forwyr) ei henwi ar ôl y gilfach.
Gyda diolch i Jon Hudson am y lluniau. I gael rhagor o wybodaeth gweler: Bosanquet SDS a J Hudson 2021, Arolwg Cen o Goetir Goultrop Roads, Adroddiad Mewnol, Cyfoeth Naturiol Cymru, Bangor.
![]() |
![]() ![]() |