Eglwys Crist, y Trallwng

PWMP logoEglwys Crist, y Trallwng

Cafodd yr eglwys hon, a gaewyd yn 1998 ac sydd bellach yn gartref, ei chysegru yn 1844. Ar y pryd, roedd Anglicaniaeth yng Nghymru yn colli tir i Anghydffurfiaeth, ac un o atyniadau addoli mewn capel oedd y system wresogi! Gobaith awdurdodau’r eglwys oedd y byddai Eglwys Crist, gyda’i gwres, yn denu addolwyr newydd. Fel y digwyddodd, symudodd rhai pobl o Eglwys hanesyddol y Santes Fair ond ni welwyd cynnydd mawr drwyddi draw.

Cafodd y tir ar gyfer yr eglwys newydd ei roi yn anrheg gan y teulu Herbert, ac roedd eu hystâd, Castell Powys, yn terfynu â’r fynwent. Gosodwyd carreg sylfaen yr eglwys gan Edward James Herbert (1818-1891), Is-iarll Clive, pan oedd yn dod i oed.

Ganed pensaer yr eglwys, Thomas Penson, yn Rhiwabon, a oedd yn enwog am ei chynhyrchion terracotta. Efallai mai dyna pam bod gan y tu mewn i Eglwys Crist lawer o nodweddion terracotta, gan gynnwys y bedyddfaen!

Yn 2003 prynwyd Eglwys Crist gan gwpl lleol Natalie Bass a Karl Meredith, a aeth ati i atal ei dirywiad a’i hadfer. Daeth cefn yr adeilad yn gartref teuluol iddynt. Mae’r gweddill ar agor i’r cyhoedd ac mae’n lleoliad ar gyfer cyngherddau a digwyddiadau eraill. Dilynwch y ddolen isod i gael newyddion am y prosiect adnewyddu.

Mae’r teulu wedi cynhyrchu “Llwybr Pabi” o amgylch y beddi a’r cofebion Rhyfel Byd Cyntaf yn yr eglwys a’r fynwent.

Gweler y Troednodiadau isod am wybodaeth am y cofebion rhyfel yn yr eglwys.

Cod post: SY21 7LN    Map

Gwefan Eglwys Crist

I barhau â thaith y Trallwng (Powys) yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ewch i lawr Ffordd yr Eglwys a throi i’r dde wrth y brif ffordd. Y lleoliad nesaf yw’r adeilad 3 llawr rhwng y safle bws a’r Talbot
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button

 

Troednodiadau: Cofebion rhyfel yn Eglwys Crist

Yn 1919 gosodwyd ffenestr liw i goffau Percy Robert Herbert, Is-iarll Clive. Roedd yn Gapten yn y Gwarchodlu Cymreig pan drawyd ef â bwled dryll peiriannol ar Ffrynt y Gorllewin yn Ffrainc ar 16 Medi. Trefnodd ei rieni, Pedwerydd Iarll Powys ac Iarlles Powys, i’w symud i Lundain, lle cafodd dair llawdriniaeth i dynnu’r bwled. Collodd lawer iawn o waed a chael gwenwyn gwaed a bu farw, yn 23 oed, ar 13 Hydref 1916.

Bu ei frawd Mervyn yn gwasanaethu yn yr Awyrlu Brenhinol yn yr Ail Ryfel Byd ac mae wedi’i gladdu mewn bedd rhyfel y tu allan i Eglwys Crist.

Mae plac pres yn yr eglwys i goffau Edwin a Charles Morris, a oedd yn feibion i frethynnwr o’r Trallwng. Ymfudodd Edwin i Ganada a gwasanaethu â Throedfilwyr Canada. Bu farw o’i anafiadau yn Ffrainc ym mis Hydref 1916, yn 34 oed. Ymunodd Charles â’r Corfflu Hedfan Brenhinol ac fe’i collwyd, yn 25 oed, yn ystod ymgyrch rhagchwilio ger Arras ym mis Ebrill 1917.

Ceir plac pres arall sy’n coffau Rex Manford, a oedd yn organydd eglwys ac yn glerc i Ystâd Powys cyn iddo ymuno â’r fyddin. Fe’i lladdwyd yn Ffrainc yn Awst 1918, yn 26 oed. Cewch ragor o fanylion amdano ar ein tudalen am gartref ei febyd yn y Stryd Fawr.