Y Raven Inn, y Trallwng

PWMP logo sign-out

Y Raven Inn, y Trallwng

Bu’r dafarn hon yn atyniad poblogaidd iawn ers tro yn ardal gogledd-orllewin y Trallwng.

Gwelwyd cynnydd yn y busnes ym mis Ebrill 1903 pan agorwyd Rheilffordd Ysgafn y Trallwng a Llanfair, a groesai Raven Square (lle mae’r gylchfan heddiw) i redeg drwy’r strydoedd cefn i’r orsaf derfynol ger y brif orsaf drenau. Galwai trenau teithwyr yn Arhosfa Raven Square. Mae’r rheilffordd, heddiw, sy’n daith boblogaidd â thwristiaid, yn cychwyn o’r orsaf derfynol gerllaw.

Ym mis Medi 1904, daeth John (Jack) Powell a’i gyfaill Herbert Astley i ddiwedd eu sbri yfed o amgylch y tafarnau yn y Raven Inn. Roeddent wedi dod i’r dref i fwynhau sioe geffylau yn y Smithfield. Rhedodd y ddau o’r dafarn pan glywsant drên 7.40pm yn nesáu, cyn neidio i fyny i falconi’r cerbydau wrth i’r trên groesi Raven Square yn araf. Syrthiodd Jack, o Gastell Caereinion, rhwng dau gerbyd a bu farw yn y fan a’r lle.

Richard ac Annie Pryce oedd yn cadw’r Raven Inn ar ddechrau’r 20fed ganrif. Roedd eu mab, George, a oedd yn ei arddegau yn gweithio yma hefyd, cyn ac ar ôl marwolaeth Richard yn 1912. Parhaodd Mrs Pryce fel y trwyddedai.

Ymunodd George â’r fyddin yn 1916. Fel Preifat yn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, dringodd ar fwrdd y llong cludo milwyr Ivernia ym mis Rhagfyr 1916 i ymuno â’r brwydro yn yr Aifft. Suddwyd y llong, a oedd yn hen leiner Cunard, gan long danfor Almaenaidd oddi ar arfordir Groeg ar ddydd Calan 1917. Bu farw o leiaf 120 gan gynnwys George, a oedd yn 21 mlwydd oed. Caiff ei goffau ar Fur Coffa Mikra yng Ngroeg, ac ar fedd y teulu yn Eglwys Crist, y Trallwng.

Cod post: SY12 7LT    Map
 

I barhau â thaith y Trallwng (Powys) yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, trowch i’r dde i Raven Street. Croeswch ac ewch i fyny’r bryn. Croeswch eto a mynd ar i lawr. Trowch i’r dde i Stryd yr Eglwys, sy’n arwain at Eglwys Crist
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button