Coleg Crist, Aberhonddu

PWMP logoColeg Crist, Aberhonddu

Sefydlwyd Coleg Crist Brycheiniog yma yn 1541 gan y Brenin Harri VIII. Arferai’r safle fod yn gartref i gyn-fynachlog Ddominicaidd. Ar ôl i ysgol ‘gyhoeddus’ gael ei sefydlu yma yn yr 1850au yn dilyn Deddf Seneddol, codwyd adeiladau newydd a chafodd rhai o’r adeiladau canoloesol eu hadfer. Heddiw, mae dros 350 o fechgyn a merched yn cael eu haddysg yma.

Gwasanaethodd bron i 450 o gyn-ddisgyblion yn y lluoedd arfog yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Bu llawer ohonynt farw yn y gwrthdaro. Cafodd athro’r chweched dosbarth, Cecil Hoyle Broadbent, ei ladd yn ddamweiniol yn Ffrainc yn 1916. Bu’r cyn-athro mathemateg, John Stanley Robinson, yn gwasanaethu yn y Llynges Frenhinol a bu farw o’r ffliw yn 1918.

brecon_war_memorial_christ_college

Ymunodd David Cuthbert Thomas â’r fyddin yn syth o Goleg Crist ym mis Awst 1914. Ysgrifennodd Siegfried Sassoon a Robert Graves amdano. Cafodd ei ladd yn 1916 gan fwled saethwr cudd.

Collodd Mr a Mrs Best o Benbryn, Aberhonddu dri mab yn 1917. Roedd y tri ohonynt wedi mynychu Coleg Crist. Cliciwch yma i fynd i’n tudalen sy’n eu coffáu.

Cafodd croes goffa ei dadorchuddio yng Ngholeg Crist yn 1922. Mae’r ysgol wrthi’n ymchwilio i’r cyn-ddisgyblion a fu farw – dilynwch y ddolen gyswllt isod i weld yr ymchwil diweddaraf.

Henri van Emelen oedd athro Ffrangeg Coleg Crist yn 1914. Roedd wedi dianc i’r Gelli o Wlad Belg, a oedd wedi’i meddiannu gan yr Almaen a lle bu’n Athro ym Mhrifysgol Louvain. Roedd ffoaduriaid eraill o Wlad Belg yn byw yn y Watton, mewn hostel a drefnwyd gan bwyllgor codi arian. Derbyniodd dwy fenyw leol fedalau gan Frenin Gwlad Belg yn 1918 am eu gwaith gyda ffoaduriaid yn Aberhonddu. Ym mis Mawrth 1919, rhoddodd ffoadur a oedd yn ymadael ddiolch yn gyhoeddus i drigolion Aberhonddu am eu haelioni a’u lletygarwch am dros bedair blynedd.

Cod post: LD3 8AF     Map

I barhau â’r daith ‘Aberhonddu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf’, croeswch y bont dros yr afon a throwch i’r chwith i mewn i’r Porth Dŵr. Parhewch i gerdded ar hyd Kensington i Gapel Kensington, sef lleoliad y codau QR nesaf
Brecon war memorial  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button