Yr hen bopty, Aberhonddu

button-theme-crimeYr hen bopty, 18 Heol y Defaid, Aberhonddu

Y tu ôl i’r siop yma sy’n dyddio’n ôl i’r 19eg ganrif, ceir adeilad cynharach sydd fwy na thebyg yn dyddio’n ôl i’r 17eg ganrif. Yn wreiddiol roedd muriau cerrig ar gefn ac ochrau’r adeilad a ffrâm bren ar ei du blaen. Gallai rhywfaint o’r strwythur yn y cefn fod yn hŷn, a chredir bod un o’r tyllau ffenestri yn dyddio’n ôl i’r Oesoedd Canol. Mae’r adeilad erbyn hyn yn gartref i Ship Shape Hair.

Yn ystod y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif, roedd yn bopty a oedd yn eiddo i Albert Kettle, a oedd yn berchen ar sawl adeilad yn Aberhonddu. Ernest Hood-Williams oedd y tenant pan fuodd tân yn 1903 yn llosgi am ddwyawr yng nghefn y popty cyn i’r frigâd dân ei ddiffodd. Amcangyfrifwyd bod y tân wedi achosi difrod gwerth £200 (sef dros £23,000 heddiw).

Roedd gan Mr Hood-Williams gontract i gyflenwi bara, blawd a the i’r wyrcws lleol. Buodd yn y llys droeon hefyd. Yn 1913 cafodd ef a’i weithiwr, William Howcroft, ddirwy o 10 swllt yr un am achosi creulondeb i geffyl. Gwelodd un o arolygwyr yr RSPCA y cobyn gwinau’n tynnu cart pobydd, gyda Mr Howcroft yn ei yrru. Roedd gan y ceffyl friwiau neu glwyfau ar ei wddf a’i ysgwyddau, ac nid oedd dim i atal y pwysau ar y mannau poenus wrth i’r ceffyl dynnu’r cart.

Roedd Mr Hood-Williams yn y llys unwaith eto yn 1917 ar ôl gyrru car heb oleuadau ar hyd ffordd y Gwrthglawdd ar ôl iddi dywyllu. Cafodd ddirwy o 10 swllt eto.

Gadawodd Mr Howcroft, a oedd yn un o gyn-filwyr Rhyfel De Affrica (“Rhyfel y Boer”), er mwyn gwasanaethu yn y fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Soniwyd amdano mewn adroddiadau oherwydd ei ddewrder wrth wasanaethu yn y rhyfel yn 1918. Cafodd ei frawd Henry ei ladd ar ddechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf, ym mis Medi 1914 yn Ffrainc, ac mae wedi’i enwi ar gofeb ryfel Aberhonddu.

Ym mis Medi 1918, cafodd Mr Hood-Williams ei gyhuddo o fethu â chyflwyno datganiad pedair wythnos ynghylch gwerthiant siwgr, menyn, lard a marjarîn. Ei amddiffyniad oedd ei fod yn brysur yn mynd o gwmpas yr ardaloedd gwledig ei hun oherwydd nad oedd ganddo weithiwr mwyach i bobi a dosbarthu ei fara. Ym mis Hydref 1918, ychydig cyn i’r rhyfel ddod i ben, cafodd Mr Hood-Williams ei esgusodi rhag gwneud gwasanaeth milwrol am dri mis oherwydd pwysigrwydd ei waith.

Ar ôl y rhyfel roedd gan Mr Hood-Williams gar modur a gweithiwr, Albert Owen, i ddosbarthu bara. Ym mis Mehefin 1919, cafodd Mr Owen ei weld gan arolygydd pwysau a mesurau’r sir yn mynd â bara i siop yn Nhal-y-bont ar Wysg. Gwelwyd bod pob torth yn ysgafnach na phwys neu ddau bwys, roedd rhai ohonynt yn hen ac nid oedd clorian yn y cerbyd i bwyso bara. Cafodd Mr Hood-Williams ddirwy o 3 punt ac 11 swllt (sef dros £170 heddiw).

Cod post : LD3 9AD    Map  

I barhau â’r daith ‘Aberhonddu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf’, ewch i waelod Heol y Defaid, yna croeswch y bont dros yr afon. Mae’r codau QR nesaf yn Heol Dinas, lle mae’r ffordd yn gwahanu oddi wrth Heol y Bont
Brecon war memorial  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button