Arglawdd rheilffordd chwarel Cilgwyn, Y Fron, Nantlle

sign-out

Arglawdd rheilffordd chwarel Cilgwyn, Y Fron, Nantlle

Mae’r llwybr troed rhwng Y Fron a phen dwyreiniol hen chwarel lechi Cilgwyn yn bennaf ar arglawdd o system reilffordd lein gul y chwarel. Roedd yr arglawdd yn domen ar gyfer craig wastraff yn y 1880au. Yn gynharach roedd gwastraff yn cael ei ollwng ar ochr y bryn i'r de o'r chwarel, ond roedd prinder lle.

Photo of Cilgwyn quarry locomotive Lilla

Estynnwyd y domen newydd yn raddol wrth i fwy o graig gael ei gollwng. Yn y pen draw, ffurfiodd lwybr rheilffordd a oedd yn troelli ar draws y caeau mewn tro S wrth iddi ddringo. Byddai llwybr mwy uniongyrchol wedi bod yn rhy serth i locomotifau stêm y chwarel.

Yn y 1890au cyrhaeddodd y rheilffordd ddarn trionglog o dir i'r de o Deras Bryn-hyfryd a oedd ar gael ar gyfer tipio craig wastraff. Gallwch weld y gwastraff heddiw, i'r gogledd o'r ffordd o'r Fron i Garmel. Yn ôl yr hanesydd lleol Dafydd Glyn Jones, roedd yn cael ei hadnabod fel “Domen Shibby” ar ôl goruchwylydd chwarel â’r llythrennau blaen CB (yngenir “Shibby” gan chwarelwyr) ar ei enwau cyntaf.

Aeth y lein yn segur pan oedd y safle tipio’n llawn ond cafodd fywyd newydd yn 1923, pan gafodd ei hailadeiladu i ddarparu llwybr newydd o’r chwarel ar gyfer llechi gorffenedig. Cyn hynny roedd y llechi'n cael eu gostwng ar inclein o'r chwarel i Reilffordd Nantlle ger Talysarn.

Wedi’r ailadeiladu, roedd y rheilffordd yn y fan yma yn cysylltu â'r traciau rheilffordd a arweiniai at yr inclein hir i'r dwyrain o Fryngwyn. Roedd yr inclein yn cludo llechi o amrywiol chwareli o amgylch Y Fron at y North Wales Narrow Gauge Railway i orsaf Dinas, lle y’i trosglwyddwyd i wagenni’r brif reilffordd. 

Roedd locomotifau stêm chwarel Cilgwyn yn cynnwys Lilla, a adeiladwyd yn 1891. Fe’i cedwir ar Reilffordd Ffestiniog (gweler y llun gan Gwion Clark). Efallai ei fod wedi cymryd gwastraff ar gyfer tipio yma wrth i'r arglawdd dyfu. Ar gyfer y rheilffordd orffenedig, prynodd y chwarel loco mwy pwerus yn 1897 a'i henwi yn Jubilee 1897, gan ddathlu 60 mlynedd ers coroni'r Frenhines Fictoria. Mae'r loco hwn hefyd yn dal i fodoli.

Roedd rhai o'r damweiniau niferus yn y chwarel yn ymwneud â'r system reilffordd. Yn 1909 cerddodd saer maen chwarel, sef John Jones, 54, o'r Groeslon, heibio wagen a dechrau croesi'r trac cyfagos, heb sylwi ar locomotif yn agosau. Cafodd ei daro i lawr a bu farw o’i anafiadau ychydig oriau’n ddiweddarach.

Gyda diolch i Dr Dafydd Gwyn a Gwion Clark. Ymhlith y ffynonellau mae ‘Gazeteer of Slate Quarrying in Wales’ gan Alun John Richards, Llygad Gwalch 2007

Gweld Map y Lleoliad

button-tour-slate-trail previous page in tournext page in tour