Safle chwarel lechi Cilgwyn, Nantlle
Safle chwarel lechi Cilgwyn, Nantlle
Yma mae Llwybr Llechi Eryri yn pasio pen dwyreiniol safle chwarel y Cilgwyn. Mae’n bosibl mai yma y cychwynodd chwarela llechi yng Ngogledd Cymru. Roedd chwarela yn digwydd yma erbyn y 13eg ganrif. Mae llechi o'r ardal hon wedi eu darganfod yn y gaer Rufeinig yng Nghaernarfon.
Roedd amryw o chwareli bychain yng Nghilgwyn cyn oes Fictoria, pan gawsant eu huno. Bu’r cloddio wedyn yn canolbwyntio ar byllau chwarel mwy o faint. Enw’r pwll agosaf i’r fan hon oedd Gloddfa Glytiau. Yn union i'r gorllewin roedd Hen Chwarel Cilgwyn. I'r de roedd y pwll a elwid yn Faingoch neu Veingoch, yn dynodi gwythïen goch o lechi.
Roedd craig wastraff yn cael ei thipio i'r de a'r de orllewin o'r pyllau, o boptu'r inclein a oedd yn cludo'r llechi gwerthadwy i lawr yr allt i Reilffordd Nantlle ger Talysarn. Ymestynnwyd system reilffordd lein gul y chwarel ar ddiwedd y 19eg ganrif i domen oddi ar y safle, fel y gallwch ddarllen ar y dudalen hon.
Roedd y chwarel yn defnyddio dŵr a hyd yn oed ynni gwynt cyn dyfodiad peiriannau stêm. Roeddent yn gyrru pympiau dŵr, trwy wiail hir a oedd yn symud yn ôl ac ymlaen. Roeddent hefyd yn tynnu llechi allan o'r pyllau ac yn gyrru melinau prosesu llechi.
Yn 1902 chwarel Cilgwyn oedd y gyntaf yn yr ardal i ddefnyddio trydan, diolch i'w rheolwr gweledigaethol Alwynne Carter. Cysylltwyd injan stêm â generadur trydan i bweru pwmp a driliau craig, ac yn ddiweddarach cebl drwy’r awyr a fyddai’n codi llechi o'r gweithfeydd.
Gweler y troednodiadau am fanylion rhai o'r damweiniau niferus yn y chwarel. O bryd i'w gilydd roedd ffrwydradau mawr, a wyliwyd gan dyrfa, er mwyn clirio craig folcanig fel y gellid cloddio llechi da. Ar ôl sesiwn Brawdlys Caernarfon ym mis Tachwedd 1902, teithiodd y Barnwr Bucknill i chwarel Cilgwyn i gynnau’r ffiws ar gyfer ffrwydrad a ddaeth â 300 i 400 tunnell o wenithfaen i lawr. Arweiniodd hyn at gyflogaeth i 150 o weithwyr ychwanegol.
Caeodd y chwarel yn 1956 a defnyddiwyd y safle fel tomen sbwriel.
Troednodiadau: Rhai damweiniau yn chwarel y Cilgwyn
Yn 1858 brysiodd Owen Prichard o Landwrog i'r fan lle yr oedd wedi chwythu craig, yn lle aros am ychydig. Syrthiodd craig rydd oddi fry, gan ei ladd.
Yn 1890 taflwyd Owen Hughes, Groeslon, o'r wagen chwarel yr oedd yn gostwng ynddi. Roedd ei dad wedi marw yn yr un lle bron flwyddyn ynghynt. Gadawodd marwolaeth Owen ei fam weddw heb unrhyw gymorth ariannol.
Yn 1896 llithrodd John Jones o Lanllyfni, holltwr llechi, wrth symud llechfaen. Syrthiodd John ar ei fres a thorri asgwrn cefn. Bu farw drannoeth.
Yn 1910 syrthiodd William Evan Jones, Cilgwyn, tua 55 metr (60 llathen) i'w farwolaeth ar ôl i'r platfform symudol yr oedd yn gweithio arno gael ei godi'n sydyn. Roedd bachyn wagen chwarel wedi dal ymyl y platfform.