Gweddillion caer Rufeinig Segontium, Caernarfon

Gweddillion caer Rufeinig Segontium, Caernarfon

Yma mae ffordd yr A4085 yn rhedeg ar draws safle caer gynorthwyol Rufeinig, a enwyd yn Segontium ar ôl yr afon Saiint gerllaw. Mae’r rhan fwyaf o’r safle i’r gogledd, heibio’r amgueddfa – dilynwch y ddolen isod am wybodaeth ymweld.

Mae’n debyg mai Segontium oedd caer fwyaf y Rhufeiniaid yng Ngogledd Cymru. Fe'i sefydlwyd yn 77OC ar ôl i Agricola, llywodraethwr Prydain Rufeinig, atal gwrthryfel gan y llwyth Ordofigaidd lleol.

Gwnaethpwyd y gaer i ddechrau o bren a phridd, a'i huwchraddio'n raddol gan ddefnyddio carrig yn yr 2il ganrif. Roedd pedwar porth. Gallai'r barics ddal 1,000 o filwyr traed.

Cafodd rhai o'r barics eu dymchwel yn yr 2il ganrif. Roedd adeiladau mwy newydd yn eu lle yn cynnwys tŷ mawr ac adeilad baddonau. Gallai hyn adlewyrchu rôl esblygol y gaer fel canolfan weinyddol ar gyfer mwyngloddio’r mwynau defnyddiol oedd yn y rhanbarth, ynghyd ag amddiffyn yr arfordir rhag môr-ladron ac ysbeilwyr. Darganfuwyd llechi o Gilgwyn (i'r de o Gaernarfon) yma – tystiolaeth bod y Rhufeiniaid wedi defnyddio llechi yr ardal.

Mae llawer o wrthrychau Rhufeinig wedi'u darganfod ar y safle. Mae'r darnau arian diweddaraf yn dangos bod milwyr wedi'u lleoli yn Segontium tan 394 OC. Fe'i defnyddiwyd am gyfnod hirach nag unrhyw gaer Rufeinig arall yng Nghymru.

Tyfodd anheddiad y tu allan i'r gaer. Cloddiwyd olion teml a gysegrwyd i Mithras tua 150 metr i'r dwyrain o'r gaer. Pellter tebyg i'r gorllewin roedd caer lai, y cyfeirir ati'n aml fel Henwalia (hen waliau). Mae ei wal orllewinol sydd wedi goroesi yn agos at yr afon, ac mae'n bosibl ei fod yn gysylltiedig â'r porthladd Rhufeinig gerllaw.

Mae Eglwys Sant Peblig, i’r dwyrain o Segontium, wedi’i henwi ar ôl Publicius, mab Macsen Wledig a merch i bennaeth Cymreig, Helen. Mae chwedlau hynafol y Mabinogion yn adrodd sut y cyfarfu’r cwpl – ar ôl i Macsen weld Helen mewn breuddwyd. Roedd Macsen yn rheoli'r ymerodraeth Rufeinig orllewinol o 383 i 388. Mae eitemau a ddarganfuwyd yn y fynwent yn dynodi ei bod ar safle mynwent Rufeinig.

Defnyddiwyd cerrig o Segontium i adeiladu castell canoloesol Caernarfon, ond erys sylfeini helaeth.

Gyda diolch i Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd ac i KF Banholzer, awdur ‘Old Caernarfon - Outside the Town Walls’ 

Cod post: LL55 2LN    Map

Gwybodaeth am Segontium i ymwelwyr – gwefan Cadw

 Tour button link for Caernarfon Transport & Industry tour Navigation previous buttonNavigation next button