Cyn gartref y capten llong Robert Thomas, Caernarfon

Cyn gartref y capten llong Robert Thomas, Caernarfon

Roedd y Capten Robert Thomas yn byw yma, yn Segontium Road South, gyda'i wraig a'i ddwy ferch, cyn symud i Lerpwl. Roedd yn enwog am fordeithiau cyflym rhwng Prydain a California.

Ganed Robert yn Llandwrog, ger Caernarfon, a chollodd ei dad yn ifanc. Ar ôl plentyndod o dlodi, erbyn mis Tachwedd 1858 aeth yn brentis ar fwrdd yr Pioneer, lle roedd morwyr yn cael eu trin yn wael. Ar ôl dwy fordaith anodd, gadawodd Robert cyn fordaith nesaf y llong – pan gollwyd hi a phawb ar ei bwrdd.

Erbyn 1864 roedd yn gyflogedig gan deulu Davies o Borthaethwy, lle ennillodd ddyrchafiad cyson. Fel mêt cyntaf y Minnehaha, roedd yn ffodus i oroesi ym 1874 pan darodd y llong greigiau a suddo ger Ynysoedd Scilly.

Daeth Robert yn gapten ym mis Ebrill 1875. Yna yn 1877 priododd Catherine Bruce Jameson, merch capten llong o Lerwick, Shetland.

Photo of the iron barque Afon Alaw
Yr 'Afon Alaw' dan dynnu, trwy garedigrwydd
Llyfrgell Gwladwriaeth De Awstralia, PRG 1373/5/16

Ym 1881 daeth y Capten Thomas yn feistr ar y Meirioneth, un o longau haearn cyntaf fflyd newydd teulu Davies. Ysgrifennodd ei atgofion yn ystod ei flynyddoedd ar fwrdd y llong. Maent, ynghyd â'i lythyrau manwl ac helaeth at ei deulu, yn drysorfa o wybodaeth hanesyddol am fywyd ar y môr yn ystod y cyfnod o newid o longau hwylio pren i longau haearn, ac am straen ac unigrwydd proffesiynol capteiniaid.

Yn mis Hydref 1887 gadawodd y Meirioneth Gaerdydd am San Francisco trwy Cape Horn. Cwblhawyd y fordaith mewn 96 diwrnod, gan dorri’r record. Cymerodd y fordaith adref 95 diwrnod!

Yn ddiweddarach daeth Robert yn gapten ar yr Afon Alaw, barque haearn a adeiladwyd ym 1891 (a suddwyd yn y pen draw gan weithred y gelyn ym 1918). Ar ôl mordaith i San Francisco mewn amodau erchyll ym 1902, aeth Robert yn sâl. Parhaodd ei iechyd i ddirywio yn Ysbyty Sant Luke. Teithiodd ei ferch Catherine i'w nyrsio trwy ei wythnosau olaf. Yn swyddogol priodolwyd ei farwolaeth i heneidd-dra a sglerosis, ond roedd ei deulu a'i gyfoedion yn bendant ei fod wedi marw o ganlyniad i straen ei fordaith olaf. Claddwyd ef ym Mynwent Cypress Lawn, San Francisco, ar 6 Mai 1903.

Gyda diolch i Robert Humphreys, o Gymdeithas Ddinesieg Caernarfon

Cod post: LL55 2PN   Map

 Tour button link for Caernarfon Transport & Industry tour Navigation previous buttonNavigation next button