Hen gartref RT Jones, Caernarfon

slate-plaque

Hen gartref RT Jones, Caernarfon

Ganed RT Jones i deulu chwarelol yn Blaenau Ffestiniog. Gadawodd yr ysgol yn 13 oed i weithio fel ‘rybelwr” (llafurwr) mewn chwarel lechi leol. Yn 29 oed symudodd i Gaernarfon pan gafodd ei benodi’n gyflogai proffesiynol cyntaf Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru a daeth yn Ysgrifennydd Cyffredinol yn fuan.

Portrait of Robert Thomas Jones MP

O fewn pum mlynedd roedd wedi ‘creu undeb llafur ganolog oedd yn welliant mawr i’r hyn a fu oedd, i bob pwrpas, yn ddim mwy grwpiau bychan yn gweithio’n annibynnol’ (R Merfyn Jones - Chwarelwyr Gogledd Cymru, 1874-1922). O fewn 10 mlynedd roedd gan yr undeb aelodaeth bron i 100% yn y chwareli.

Yn 1911, ar ôl rhai anghydfodau diwydiannol, sicrhaodd isafswm cyflog i'r chwarelwyr. Tra parhaodd ei waith yn yr Undeb hyd ei ymddeoliad ym 1933 fel ei gyflawniad mwyaf, bu RT Jones hefyd am flwyddyn (1922-3) yn Aelod Seneddol Llafur dros Sir Caernarfon, gan dorri rheolaeth Ryddfrydol gogledd-orllewin Cymru ar y pryd. Yn ei araith gyntaf, galwodd am gyfraith i ganiatáu i bobl mewn llysoedd ynadon yng Nghymru dystio ar lw yn y Gymraeg.

Yn ddyn o feddwl annibynnol a mewnwelediad craff i bobl, roedd yn genedlaetholwr ymroddedig, yn dadlau dros ‘Home Rule’ a datgysylltiad yr Eglwys yng Nghymru. Yn hunan-addysgedig yn bennaf, cronnodd lyfrgell helaeth a ddyfynnwyd gan Gomisiwn Brenhinol 1910 ar yr Eglwys yng Nghymru fel enghraifft ryfeddol o arferion darllen y chwarewr diwylliedig.

Roedd ei waith ar ystod o gyrff cyhoeddus yn cynnwys y canlynol: llywodraethwr bywyd Coleg y Brifysgol, Bangor; aelod o'r Comisiynau Brenhinol ar Drwyddedu ac ar Fwyngloddiau a Chwareli; aelod o Weithrediaeth y TUC; Comisiynydd ar y Bwrdd Yswiriant Gwladol; Cadeirydd Mainc Ynadon Caernarfon.

Roedd RT Jones yn byw yn Segontium Terrace, Caernarfon, hyd at ei farwolaeth ym 1940. Claddwyd ef yn St Michael’s, Llan Ffestiniog.

Gyda diolch i Lynette Hughes (gor-nith) ac i Gymdeithas Ddinesig Caernarfon

Cod post: LL55 2PN    Map

 Tour button link for Caernarfon Transport & Industry tour Navigation previous buttonNavigation next button