Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Fochno
Mae'r warchodfa hon, sy'n cwmpasu bron i 7 cilomedr sgwâr, yn cynnwys yr ehangder mwyaf o cyforgors (raised bog) yn iseldiroedd Prydain. Ei enw Cymraeg yw Cors Fochno, ac fe’i cofnodir hefyd fel Cors Vochno a Cors Mochno yn y cyfnod canoloesol cynnar. Mochno yw enw person anhysbys i ni heddiw.
Dechreuodd y gors ffurfio 7,000 o flynyddoedd yn ôl pan dyfodd tafod o raean yn raddol tua'r gogledd o'r lan, gan gadw'r môr allan. Newidiodd yr ardal o gors hallt i dŵr croyw, yna gorstir. Ymddangosodd coedydd gwern (alder), bedw a phîn, yna daeth yr ardal yn gors a ddominyddwyd gan fwsoglau cors a phlu’r gweunydd (cotton grass).
Ar ôl i'r hinsawdd droi'n wlypach tua 3,000 o flynyddoedd yn ôl, roedd math o fwsogl sphagnum, Sphagnum imbricatum, wedi'i ddominyddu am tua 2,500 o flynyddoedd. Mae ei olion sydd wedi'u cadw'n dda yn ffurfio llawer o'r mawn a welwn heddiw. Roedd y mawn hefyd yn cadw boncyffion o goed o 5,000 o flynyddoedd yn ôl.
Ym 1813 awdurdodwyd draeniad a chau Cors Fochno trwy Ddeddf Seneddol, a oedd wedyn yn gorchuddio tua 24 cilomedr sgwâr (6,000 erw). Dynodwyd y gors sydd wedi goroesi yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ym 1954 ond parhaodd adfer draenio tan 1981, pan brynodd y Cyngor Gwarchod Natur ardal gwarchodfa natur heddiw. Mae'r gors bellach yn rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Dyfi, sy'n cael ei rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Gellir ei weld o Lwybr Arfordir Cymru a ffyrdd cyfagos.
Cors Fochno yw un o lochesau olaf imbricatum Sphagnum ym Mhrydain. Mae planhigion eraill yma yn cynnwys Andromeda'r gors (bog rosemary), helygen Mair (bog murtle), chwe rhywogaeth o blanhigion cigysol (sy'n denu ac yn trapio pryfed am fwyd am nad oes digon o elfennau yn y mawn), a Tegeirian llydanwyrdd bach (lesser butterfly-orchid).
Mae infertebratau prin yn cynnwys Gwrid y gors (rosy marsh moth) glöyn byw rhostir mawr (large heath butterfly) gwas y neidr flewog (hairy dragonfly) a mursen fach goch (small red damselfly). Mae'r criciedyn y gors (bog bush-cricket) yn ffynnu yma, fel y mae wiber (adder), neidr ddefaid (slow worm) a Madfall ddŵr balfog (palmate newt). Llyswenod (eels) a Crothell Pymtheg Pigyn (fifteen-spined stickleback) yw'r unig bysgod sy'n gallu goroesi yn y dŵr cors asidig.
Mae ffosydd y gors yn cael eu defnyddio gan ddyfrgwn preswyl, ac mae llygod y dŵr wedi dychwelyd yn ddiweddar ar ôl cael eu dileu gan mincod (mink) anfrodorol yn y 1990au. Ymhlith yr adar a welir yma mae Pibydd coesgoch (redshank), y gïach (snipe), rhegen dŵr (water rail), corhwyaden (teal), Troellwr bach Styan (grasshopper warbler) a bras cyrs (reed bunting). Mae Cudyll bach (merlin), yr hebog tramor (Peregrine) a’r boda (harrier) yn hela yma yn y gaeaf, a barcutiaid coch bob amser o'r flwyddyn.
Gyda diolch am wybodaeth enwau lleoedd i'r Athro Hywel Wyn Owen, o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru. Cyfieithiad gan Gwyndaf Hughes
Gwybodaeth i ymwelwyr Cors Fochno - Gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru
![]() |
![]() ![]() |