Adeiladau’r Sir, Llandrindod
Adeiladau’r Sir, Llandrindod
Agorwyd yr adeilad hwn ym 1909 fel pencadlys Cyngor Sir Faesyfed. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd dynion yn dod fan hyn i geisio cael eu rhyddhau o wasanaethu yn y lluoedd arfog, neu i sefyll o flaen llys marsial. Yn ddiweddarach daeth yr adeilad yn orsaf heddlu a llys ynadon.
Wrth i chi sefyll y tu allan i’r adeilad, edrychwch i fyny i werthfawrogi’r tâl meini mewn arddull Yr Iseldiroedd a’r meini sydd wedi cael eu mewnosod gyda llythrennau’r sir. Mae’n ymddangos fel pe bai llythyren olaf “County Buildings” (uwchben y fynedfa) wedi cael ei gwasgu i mewn. Mae fel pe bai’r saer maen wedi dechrau gyda’r geiriau “County Building” mewn cof!
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd Corfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin wedi lluestu yn y cylch. Cyhuddwyd rhai milwyr o dramgwyddau ac fe gynhaliodd yr awdurdodau milwrol lys marsial yma. Mewn achos ym mis Awst 1915 eglurodd y Corporal Dros Dro Frank Watson ei fod wedi mynd yn absennol heb ganiatâd er mwyn bod gyda’i dad a oedd yn marw yn ei gartref yn y Wirral.
Eisteddodd tribiwnlys milwrol y dre yn Adeiladau’r Cyngor i glywed ceisiadau gan ddynion lleol i gael eu hesgusodi rhag gorfodaeth filwrol. Ym mis Awst 1916, ar ôl saib o ddau fis, clywodd y tribiwnlys 30 i 40 achos mewn un noson. Roedd y rhan fwyaf o ymgeiswyr yn ddynion tua 40 oed a oedd yn gwneud swyddi busnes cyfrifol, neu roedd ganddynt deuluoedd oedd yn dibynnu arnynt. Mewn un achos cafodd gweinidog Methodistaidd ifanc ei alw i egluro pam nad oedd wedi listio. Cadeiriwyd y tribiwnlys gan y gŵr busnes Tom Norton, perchennog yr Automobile Palace.
Erbyn Rhagfyr 1915 roedd Adeiladau’r Sir yn fan casglu ar gyfer menig i’w hanfon at y milwyr yn y ffosydd, gyda Maesyfed yn cael targed i gasglu pum cant o fenig.
Symudodd y Cyngor Sir i Westy’r Gwalia cynt ym 1950 ac ar ôl hyn daeth Adeiladau’r Sir yn orsaf heddlu’r dref. Parhâi llys yr ynadon yn Adeiladau’r Sir hyd at 2012, pan symudodd i gartref newydd ym Mharc Noyadd. Cafodd yr adeilad hwn ei ddylunio fel canolfan ar y cyd ar gyfer yr heddlu, y gwasanaeth tân, y llysoedd a thribiwnlysoedd.
Côd Post: LD1 6BG Map
I barhau â thaith Llandrindod yn y Rhyfel Byd Cyntaf, croeswch yr heol. Ewch dros bont troed y rheilffordd, yna dilynwch Station Crescent at y brif ffordd. Trowch i’r chwith. Mae’r codau QR nesaf y tu allan i dŷ cwrdd y Crynwyr, ar ochr arall y ffordd ychydig cyn cefn siop Aldi |