Tŷ Cwrdd y Crynwyr, Llandrindod

PWMP logo

Tŷ Cwrdd y Crynwyr, Llandrindod

Adeiladwyd yr adeilad brics sydd â ffenestri tal yn y fan hyn rhwng 1897 a 1898. Fe’i dyluniwyd fel tŷ cwrdd ar gyfer y Crynwyr, neu Gymdeithas y Cyfeillion, ac mae’n hynod o fawr o’i gymharu ag arddull gyffredinol y Crynwyr. Cafodd yr adeilad ei werthu ym 1985 i Eglwys Bentecostiaid Elim a’i droi’n fflatiau preswyl. Mae’r Crynwyr yn dal i gyfarfod mewn adeilad llai y tu ôl i’r adeilad hwn.

Dechreuodd y Crynwyr gyfarfod yn Llandrindod ym 1893. Erbyn yr adeg honno roedd gan Gymdeithas y Cyfeillion hanes hir o addoli yn Sir Faesyfed. Bu George Fox, a sefydlodd y mudiad, yn ymweld â’r Sir nifer o weithiau yn yr ail ganrif ar bymtheg. Tua’r un adeg sefydlwyd tŷ cwrdd y Pales yn Llandeglau ym 1673, a hwn yw’r adeilad hynaf i gael ei ddefnyddio’n ddi-dor gan y Crynwyr yng Nghymru. Cafodd y Crynwyr cynnar eu herlid o achos eu cred na ddylai addoli gael ei arwain gan offeiriaid. Yn lle hyn fe’u hysbrydoliwyd gan y “golau mewnol” neu’r “Crist oddi mewn”.

Daeth llawer o ddarlithwyr i siarad yn y tŷ cwrdd yn Llandrindod. Ym 1905, dywedodd Miss MC Albright, a hithau o deulu o Crynwyr amlwg yn Birmingham, bod llawer o wirionedd yn y crefyddau Moslemaidd a Bwdaidd. Yn syth ar ôl iddi orffen ei darlith, dyma ymwelydd yn sefyll ar ei draed o flaen y gynulleidfa a’i chyhuddo o fod yn “blentyn y diafol”! Tybiodd pawb ei fod yn swyddog yn Nhŷ’r Cyffredin.

Cynhaliwyd gwasanaeth coffa fan hyn ym 1915 ar gyfer Preifat Harold Page, a oedd wedi mynychu Ysgol Sul y Cyfeillion. Fe’i lladdwyd yn ugain oed yn ymgyrch aflwyddiannus Gallipoli, Twrci. Flwyddyn yn ddiweddarach bu Crynwyr lleol yn galaru dros farwolaeth y Preifat Gilbert Oliver, 24 oed a fu’n addoli fan hyn cyn mynd i weithio mewn banc yn Amwythig. Fe’i lladdwyd ym mrwydr Thiepval, y Somme ym Medi 1916.

Mae gan y tŷ cwrdd Feibl coffa ble gallwch weld enwau un ar ddeg aelod o gynulleidfa’r Ysgol Sul a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf: Lewis Botwood, Harry Birch, Fred Burton, Jack Davies, Llewelyn Elsmere, Ernest Evans, Gilbert J Oliver, William Oliver, David Owen, Harold Page and Walter Walls. Mae’r rhan fwyaf o’r milwyr uchod yn cael eu coffáu ar gofgolofn rhyfel y dref. Mae’r Beibl Coffa hefyd yn rhestru 46 o bobl eraill a fu’n brwydro ac yn byw trwy’r rhyfel.

Pan gyflwynwyd gwasanaeth milwrol gorfodol yn y Rhyfel Byd Cyntaf, daeth rhai Crynwyr yn wrthwynebwyr cydwybodol. Ym mis Mawrth 1916, bu Bernard Bentley, o Gymdeithas y Cyfeillion Llandrindod, o flaen tribiwnlys milwrol. Dywedodd wrthyn nhw fod ei gredau crefyddol yn ei rwystro rhag ymuno â’r lluoedd arfog. Gwrthododd ymuno â Chorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin achos byddai hynny’n golygu tyngu’r llw milwrol.

Hon oedd yr achos gyntaf o’i fath i godi yn Sir Faesyfed. Cafodd Mr Bentley ei esgusodi dros dro rhag y Ddeddf Wasanaeth Filwrol ar yr amod ei fod yn ymuno ag Uned Ambiwlans y Cyfeillion. Ffurfiwyd y Gwasanaeth i alluogi gwrthwynebwyr cydwybodol ddarparu cymorth meddygol ar faes y gad, fel rhai nad oedd yn ymladd neu’n cael eu talu.

Gwasanaethodd y crynwr lleol Douglas H. Binyon gydag Uned Ambiwlans y Cyfeillion yn Ffrainc. Serch hyn cafodd un arall, Walter Shervill, ei anfon i’r adeilad a ddaeth yn garchar Dartmor am wrthod gwasanaethu.

Gyda diolch i Martin Williams, awdur “Quakers in Radnorshire 1860-2000” a gyhoeddwyd gan Raven Books.

Côd Post: LD1 5HF    Map

Gwefan Crynwyr Llandrindod

I barhau â thaith Llandrindod yn y Rhyfel Byd Cyntaf, cerddwch tua’r de ar hyd y brif ffordd at y goleuadau traffig. Mae’r codau QR nesaf ar y drws ar ochr hen neuadd y dref, yr adeilad olaf ar y chwith cyn y gofeb rhyfel
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button