Canolfan Gristnogol y Cilgant, Y Drenewydd

PWMP logoCanolfan Gristnogol y Cilgant, Y Drenewydd

Mae'r ganolfan hon yn cyfuno tri chyn gapel anghydffurfiol mewn adeilad a godwyd ym 1878-79. Mae cofebion rhyfel o'r tri chapel yn cael eu harddangos y tu mewn.

Eglwys Bresbyteraidd Saesneg y Crescent oedd yr adeilad yn wreiddiol. Disodlodd gapel Calfinaidd Saesneg cyntaf y dref, a godwyd yn Heol y Capel ym 1845. Costiodd yr eglwys mewn arddull Gothig hon fwy na £3,500 i’w hadeiladu ac roedd yno le i 350 o bobl ar y llawr gwaelod ynghyd â 100 ar hyd yr oriel. Mae'n sefyll ar ddarn o dir ar gornel a roddwyd gan yr Arglwydd Sudeley.

Roedd Edward Parry, gweinidog yr eglwys o 1878 hyd 1919, yn cael ei adnabod fel “Carnegie Cymru” oherwydd iddo sefydlu llyfrgelloedd yr Ysgol Sul mewn rhannau anghysbell o Gymru. (Talodd y diwydiannwr Americanaidd, Andrew Carnegie, am gynnal miloedd o lyfrgelloedd cyhoeddus ledled y byd). Bu farw'r Parch. Parry mewn tân mewn tŷ yn Aelybryn, Y Drenewydd, yn 1919.

Gosodwyd golau trydan a chyflenwad pŵer ar gyfer yr organ ym 1937. Yn yr Ail Ryfel Byd, roedd yn rhaid i'r eglwys gydymffurfio â rheolau blacowt. Costiodd gosod llenni blacowt ar y ffenestri mawr £8 (tua £450 heddiw).

Yn 2002, dinistriodd storm do'r eglwys. Ailagorodd yr eglwys ym mis Medi 2009 fel Canolfan Gristnogol y Cilgant, lle'r ymunodd Capel Presbyteraidd Cymraeg Bethel (ar Ffordd Newydd yn flaenorol) a Chapel Coffa’r Annibynwyr (ar Ffordd Milford yn flaenorol) â Chapel Presbyteraidd Crescent. Cynhelir gwasanaethau Cymraeg a Saesneg ar wahân yn y ganolfan, a ddefnyddir hefyd bron bob dydd ar gyfer gweithgareddau seciwlar.

Mae cofebion rhyfel y tu mewn yn cofnodi aelodau’r tri chapel a wasanaethodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn eu plith roedd Wallace Humphreys, mecanig awyrennau gyda'r Royal Flying Corps ac yn ddiweddarach yr Awyrlu. Roedd yn rhan o gyrch mawr ym mis Mawrth 1918 i ddinistrio meysydd awyr yr Almaen. Wedi iddo oroesi'r rhyfel, bu farw o niwmonia yn Ffrainc ym mis Chwefror 1919, yn 30 oed.

Gyda diolch i David Peate, Capel (Cymdeithas Treftadaeth y Capeli) a Grŵp Hanes Lleol Y Drenewydd

Cod post: SY16 2DZ    Map

I barhau â thaith Y Drenewydd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, croeswch yr afon. Dilynwch Stryd Lydan. Ar ôl pasio'r Stryd Fawr ar y dde, mae Gwesty'r Lion yn y bloc nesaf (ar y dde)
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button