Plas Dolerw, Y Drenewydd

PWMP logoPlas Dolerw, Y Drenewydd

Ar un adeg roedd y plasty hwn, a elwid yn wreiddiol yn Dolerw, yn eiddo i'r gwneuthurwr gwlanen Pryce Jones (1834-1920), y person cyntaf yn y byd i sicrhau bod ei nwyddau ar gael i gwsmeriaid drwy archeb bost. Mae mwy am ei fusnes ar ein tudalen am Warws y ‘Royal Welsh’.

Adeiladwyd y tŷ ym 1826 ar gyfer yr ynad William Lutener, a fu farw yn 1868. Prynodd Pryce Jones ef yn 1879 a gwnaeth rai newidiadau, gan ychwanegu llythrennau cyntaf ei enw a'r dyddiad 1882 at rai cerfiadau.

Roedd Dolerw yn lle bwyta i swyddogion yn yr Ail Ryfel Byd. O 1949 fe'i defnyddiwyd fel ysgol Gatholig hyd nes i ysgol newydd gael ei hadeiladu. Arhosodd y lleianod a oedd yn athrawon yn Nolerw tan ddiwedd yr 1990au.

Prynwyd y tŷ a'i dir coediog yn 2000 gan Gymdeithas Adfywio Cymunedol Sir Drefaldwyn a chafodd ei agor fel canolfan ar gyfer elusennau, grwpiau cymunedol a chynadleddau. Mae llawer o ffitiadau gwreiddiol yn y plasty, gan gynnwys paneli pren gydag adar a blodau cerfiedig arnynt.

Astudiodd mab Syr Pryce Jones, Albert, ym Mhrifysgol Caergrawnt ac roedd yn bêl-droediwr nodedig, a chwaraeodd dros Gymru ym 1895. Ar ôl ymfudo i Ganada i gynnal cangen o Warws y ‘Royal Welsh’, ymatebodd i achos y Rhyfel Byd Cyntaf trwy sefydlu’r Lethbridge (Calgary) Highlanders, y bu’n eu harwain yn ddiweddarach yn Ffrynt y Gorllewin. Crybwyllwyd ef mewn ‘dispatches’ ym mis Mawrth 1918.

Ymfudodd mab Albert, Reginald (Rex) i Ganada am yr un rheswm. Ymunodd â'r Troedfilwyr yng Nghanada a chrybwyllwyd ef mewn ‘dispatches’. Cafodd ei ladd gan siel yn rhanbarth Somme, Ffrainc ym mis Tachwedd 1916, yn 20 oed.

Collodd Syr Pryce fab-yng-nghyfraith yn y rhyfel hefyd. Lladdwyd yr Is-gyrnol Frank Macaulay Gillespie o Gyffinwyr De Cymru yn Gallipoli, Twrci, ym 1915. Ei wraig, Agnes, oedd merch ieuengaf Syr Pryce. Yn Nolerw, trefnodd gasgliadau menyg ar gyfer milwyr SWB.

Ymunodd Alfred Morris, garddwr Syr Pryce, â'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a dechreuodd ei hyfforddiant milwrol ym 1916 ond bu farw o niwmonia dair wythnos yn ddiweddarach, yn 28 oed. Ef oedd unig fodd cynhaliaeth ei fam weddw ar ôl marwolaeth ei dad Richard, coetsmon i Syr Pryce.

Gyda diolch i Sally Rackham a David Hall

Cod post: SY16 2EH    Map

Gwefan Plas Dolerw

I barhau â thaith Y Drenewydd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, cerddwch tua'r gogledd-ddwyrain drwy'r parcdir at yr allanfa gyferbyn â Lôn y Fron. Trowch i'r dde a dilynwch Ffordd Milford at yr eglwys wrth y gylchfan
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button