Cofeb ffrwydrad Cwm-y-glo

Dadorchuddiwyd y plac coffa hwn yn 2008 i goffáu'r chwech o bobl a fu farw o ganlyniad i ffrwydrad ger y fan hon ym 1869. Un oedd bachgen yn digwydd bod yn arwain ei dad dall heibio'r pentref ar y pryd.

Yn y prynhawn ar 30 Mehefin 1869, diwrnod hynod o boeth, aeth dau gart allan o Gaernarfon. Roedd pob un yn llawn a thunnell o nitroglyserine, a weithgynhyrchwyd gan Alfred Nobel yn yr Almaen ac a oedd i fod i chwareli llechi Glynrhonwy, Llanberis. Roedd y tuniau yn cynnwys y ffrwydron hylif wedi cael eu pacio'n ofalus i focsys yn cynnwys blawd llif a'u llwytho ar y certiau. Yna gorchuddiwyd y blychau mewn gwellt i atal symudiad yn ystod y daith.

Ffrwydrodd y cargo tua 5.50pm, wedi i’r cartiau newydd fynd heibio sied nwyddau'r orsaf reilffordd y tu allan i Gwm-y-glo (safle iard storio Cyngor Gwynedd erbyn hyn). Mae'n debyg mai'r ffrwydrad oedd y ffrwydrad uchaf a wnaed gan ddyn erioed. Adroddodd y wasg ei fod yn cael ei glywed yng Nghaergybi 37km i ffwrdd.

Lladdwyd y ddau gartiwr, yn ogystal â thri arall. Cafodd wyth o bobl eraill eu hanafu'n ddifrifol a bu farw un ohonyn nhw chwe wythnos yn ddiweddarach o'i anafiadau. Gweler y troednodiadau am eu manylion.

Fe wnaeth y prif gwnstabl yng Nghaernarfon, atafael tri cert arall o nitroglyserine yn gyflym nes bod "rhagofalon pellach" wedi'u cymryd.

Nid oedd unrhyw olion o geffylau na chartiau yn aros ar y safle ond oedd dau grater dwfn tua 3.3 metr (10tr) o ddyfnder. O'r bobl a laddwyd, y chwarelwr Robert Morris oedd yr unig un y gellid adnabod ei weddillion. Roedd rhannau dynol a rhai anifeiliaid wedi'u gwasgaru ymhell ac agos. Cafwyd hyd i rai o'r malurion ym mhentref cyfagos Brynrefail. Casglwyd yr olion dynol a'u cludo i'r tafarn Craig y Don gerllaw i aros am y cwest, a gynhaliwyd y diwrnod canlynol.

Dioddefodd llawer o'r rhai a anafwyd esgyrn wedi torri. Collodd un ei fraich. Prin iawn y dihangodd tŷ yng Nghwm-y-glo ddifrod, gan gynnwys y rhai sy'n uchel ar y bryn uwchben y brif stryd. Malurwyd bron pob ffenestr y pentref.

Crafwyd X ar garreg wal gerrig sych ochr y ffordd yn Clegyr, ar yr hen ffordd o Fryn Bras i Llanberis. Mae’n dangos ble y darganfuwyd olwyn a harnais un o'r certiau, dros 800 metr (dros hanner milltir) i ffwrdd. Yr arfer lleol hyd heddiw ydi defnyddio carreg i lanhau a dyfnhau’r ysgythriad yma.

Cytunodd rheithgor y cwest nad oedd y cartwyr wedi meddwi, er eu bod wedi stopio yn nhafarn y Blue Bell yn y pentref. "Marwolaeth ddamweiniol" oedd y dyfarniad. Roedd y rhesymau dros y ddamwain yn anhysbys, nitroglycerine yn ddeunydd cymharol newydd.

O ganlyniad i'r ffrwydrad, gwaharddodd Deddf Seneddol fewnforio nitroglycerine a rheoleiddio ei gario. O ganlyniad, daeth y chwareli i ddefnyddio deinameit, deunydd mwy sefydlog a weithgynhyrchwyd am y tro cyntaf gan Alfred Nobel ym 1866 (y dyfernir Gwobrau Nobel yn ei enw yn flynyddol). Daeth Nobel ei hun i chwarel Dinorwig i ddangos pa mor ddiogel oedd deinameit.

Gyda diolch i Martin Kressman, a dalodd hefyd am y plac coffa ac fe’i gosodwyd gan Gyngor Plwyf Llanrug a Chwm y Glo. Diolch i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad.

     Gweld Map Lleoliad

 

Troed nodiadau: Y Clwyfedigion

Bu farw'r bobl ganlynol o ganlyniad i'r ffrwydrad yng Nghwm-y-glo yn 1869.

Evan Jones, 20 oed, yn byw yn Nhyddyn Llwydyn.
John James Jones, 11 oed, o Gwm-y-glo.
Robert Morris, chwarelwr, 26 oed, o Gae'r Bronydd, Llanllechid. Newydd ddychwelyd o'r Unol Daleithiau.
Griffith J Prichard, 11 oed, o Benyclegir, Brynrefail. Roedd yn arwain ei dad dall, John, adref ar ôl prynu dafad ym Mryn Bras. Roedd John, a gollodd ei olwg tra'n gweithio yn chwarel Dinorwig, yn ddianaf (fel yr oedd y defaid) ond yn ei adael heb neb i'w dywys.
David Roberts, carter, oedd yn hanu o Sir Ddinbych ac a adawodd nifer o blant.
Owen Roberts, yn 15 oed.