Chwareli llechi diffaith, Fairbourne
Chwareli llechi diffaith, Fairbourne
Yma mae Llwybr Arfordir Cymru yn pasio ger gweddillion chwarel llechi Goleuwern, a oedd yn adnabyddus yn ddiweddar am ei “Lyn Glas” diarffordd. Roedd chwarel lechi Henddol (neu Hen-ddôl) ychydig ymhellach i'r gorllewin. Caewyd mynediad i'r llyn yn 2019 oherwydd bod ymwelwyr yn parhau i adael sbwriel ar y safle.
Dechreuwyd chwarel Goleuwern yn y 1860au. Roedd y rheilffordd newydd, a elwir bellach yn linell Arfordir y Cambrian, yn darparu cludiant cost-effeithiol o'r lleoliad cymharol anghysbell hwn. Llwythwyd llechi ar wagenni rheilffordd wrth seidin Ynysfaig gerllaw – lle codwyd gorsaf Fairbourne yn ddiweddarach.
Cwblhawyd inclein ym 1873, er mwyn i lechi gael eu gostwng ar wagenni bach o'r chwarel at lawr y dyffryn. Mae'r hen lun (hawlfraint: Gwasanaeth Archifau Gwynedd) yn dangos wagen wedi'i llwytho ar fin disgyn ar ddechrau'r 20fed ganrif, pan oedd Abel Simner (canol) yn berchen ar y chwareli.
Cafodd y llechi o fewn cyrraedd hawdd i ochr y bryn ei dihysbyddu yn y pen draw, felly dilynodd y chwarelwyr y wythïen tuag i lawr. Fe greodd hyn dwll mawr. Roedd twneli newydd yn darparu allanfeydd ar gyfer llechi a dŵr o’r lefelau is. Ar ôl cau’r chwareli, boddwyd rhan isaf y pwll, gan ffurfio'r llyn glas.
Roedd Henddol yn gweithio erbyn 1864, yn eiddo i George Alfred Walker. Roedd wedi ymddeol i'r ardal o'i yrfa fel llawfeddyg yn Llundain. Anfonodd ei chwarelwyr i'r Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth fel trît ym 1865.
Bu un chwarelwr, John H Owen, yn ffodus i oroesi ffrwydrad mewn tŷ peiriant yn chwarel Henddol ym mis Mawrth 1869. Roedd angen nitro-glyserin arno i ffrwydro wyneb y graig ond gwelodd ei fod wedi crisialu yn y tywydd oer a bod angen dadmer arno. Gosododd y can o “olew ffrwydro patent” ar dân y peiriant, yn hytrach nag mewn dŵr poeth fel arfer. Cafwyd hyd iddo yn cerdded “fel fflachlamp” gyda’i ddillad yn llosgi y tu allan i'r adeilad. Bu rhywfaint o ddadl ynghylch a oedd y ffrywdrad wedi ei chwythu allan o'r adeilad trwy'r drws, y ffenestr neu'r to!
Ar ôl marwolaeth George ym 1884 daeth ei chwaer, Mrs HE Smith, yn bartner yn y chwareli. Gweithiwyd y ddwy chwarel gyda'i gilydd, a chyflogwyd tua 80 o chwarelwyr ym 1887. Roedd y ddau wedi cau erbyn 1896, pan wnaeth anghydfodau yn chwarel llechi Penrhyn (mwyaf y byd) ym Methesda wneud chwareli llechi bach yn ddichonol unwaith eto. Y tro hwn daeth Goleuwern a Henddol dan berchnogaeth Abel Simner, o Neuadd Plaseinion gerllaw.
Ym 1900 fe wnaeth cwymp mawr o graig gau'r fynedfa i chwarel Hen-ddol. Diswyddwyd y chwarelwyr ar unwaith. Daeth y chwarela i ben yma ym 1915.
Gwefan Gwasanaeth Archifau Gwynedd
![]() |
![]() ![]() |