Lloches afalans Friog

sign-out

Lloches afalans Friog

O’r traeth gallwch weld lloches afalans ar y llethr serth i'r de. Fe’i hadeiladwyd gan y Great Western Railway yn y 1930au ar ôl i dirlithriadau anfon locomotifau ddwywaith i lawr i lan y môr creigiog. Mae'r lloches yn 56 metr o hyd ac wedi'i gwneud o goncrit wedi'i atgyfnerthu. Mae ei do ar oleddf, er mwyn gwyro malurion i lawr dros y dibyn. Mae’r llun, trwy garedigrwydd Llywodraeth Cymru, yn dangos y lloches ym 1940.

Aerial view of Friog avalanche shelter in 1940Pan adeiladwyd llinell Arfordir y Cambrian o Fachynlleth i Bwllheli yn y 1860au, gwynebai peirianwyr her fawr lle mae'r mynyddoedd yn dod at ymyl y môr yma. Fe wnaethant dorri silff, tua 30 metr uwchben y môr, yn ochr Gallt Ffynnon yr Hydd. Rhed y ffordd bellter tebyg yn uwch na’r rheilffordd.

Yn fuan iawn dechreuodd y rheilffordd ddioddef wrth i erydiad y môr a nentydd tanddaearol darfu ar ochr y bryn. Roedd twnnel rheilffordd, a awgrymwyd i ddargyfeirio'r llwybr, yn rhy ddrud. Atgyfnerthwyd silff y rheilffordd lawer gwaith gyda cherrig a choncrit.

Ar Ddydd Calan 1883, tarodd trên teithwyr o Fachynlleth falurion a oedd wedi cwympo, gan gynnwys carreg o wal gynnal cwympedig y ffordd. Cafodd y locomotif – wedi ei henwi yn Pegasus ar ôl ceffyl chwedlonol a allai hedfan – ei gwyro o’r cledrau a chwympodd i'r lan, gan ladd ei gyrrwr a'i daniwr. Ni chwympodd yr un o'r tri cherbyd na'r fan ar gynffon y trên.

Roedd gwyliwr wedi cerdded y llinell yn ddiweddar, ond efallai bod dirgryniadau wrth i’r trên agosáu wedi sbarduno'r tirlithriad. Roedd yr ymadawedig ill dau o’r enw William Davies ac o Borthmadog. Casglwyd mwy na £122 ar gyfer eu teuluoedd. Roedd y gyrrwr yn ŵr gweddw tua 60 oed a gadawodd dair merch. Roedd y taniwr, tua 25 oed, wedi tyfu i fyny yn Llanegryn gerllaw. Gadawodd weddw a mab bach.

Mewn copi carbon bron, bu farw criw locomotif arall yn yr un lle ar 6 Mawrth 1933 wrth iddynt symud trên post a theithwyr tua'r gogledd. Fe wnaeth malurion cwympedig, gan gynnwys rhan o wal gynnal y ffordd uwchben, ddargyfeirio’r locomotif dros y parapet wrth ochr y trac. Arhosodd y tri cherbyd a'r fan laeth yn y cefn ar y silff.

Y gyrrwr oedd John Humphreys, 58 oed, y taniwr John Price Kenny, 30, y ddau o Fachynlleth. Argymhellodd yr ymchwiliad swyddogol y dylid ystyried terfyn pwysau ar gyfer cerbydau ar y ffordd.

Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button