Gorsaf reilffordd Dinas

sign-out

Heddiw mae Dinas yn orsaf rhwng Caernarfon a Phorthmadog ar Reilffordd gul Ucheldir Cymru (RhUC). Fe'i gelwid unwaith yn Dinas Junction, gan mai dyna lle daeth yr RhUC gwreiddiol i ben, ochr yn ochr â llwybr y Rheilffordd genedlaethol Llundain a'r Gogledd Orllewin (London and North West Railway- LNWR) rhwng Caernarfon ac Afonwen, ger Pwllheli. 

Derbyniodd Cwmni Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru (a agorodd adran ogleddol RhUC ym 1877) bwerau cyfreithiol i ymestyn ei lwybr i Gaernarfon yn 1885, ond ni chawsant eu defnyddio erioed. Yn hytrach, trosglwyddwyd nwyddau a thwristiaid i'r LNWR yng Nghyffordd Dinas. Daeth trenau RhUC i ben yn 1937, ac yn fuan wedyn cafodd "Cyffordd" ei ollwng o enw'r orsaf. Caeodd y llinell genedlaethol mesur safonol yn 1964. 

Ail agorodd gorsaf Dinas ym mis Hydref 1997 fel terfynfa dros dro ar drac lled cul newydd RhUC o Gaernarfon. Roedd hen draciau LNWR wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer Lôn Eifion, llwybr beicio a cherdded, yn yr 1980au. Bellach yn rhan o Lwybr 8 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, cafodd y llwybr beicio ei osod ochr yn ochr â'r rheilffordd newydd. Cafodd yr RhUC ei ymestyn yn ddiweddarach mewn camau i Borthmadog. Mae trenau a choetsis RhUC yn dal i gael eu cynnal a chadw yn Dinas. 

Mae dau adeilad carreg yn dal i fod o'r orsaf wreiddiol. Roedd un yn darparu cyfleusterau aros i deithwyr. Enillodd ei hadferiad gan wirfoddolwyr Wobr Treftadaeth Rheilffordd Genedlaethol Ian Allan ym mis Rhagfyr 2000. Roedd yr adeilad arall yn sied nwyddau, lle roedd trac cul yn pasio drwyddo tra bod trac mesur safonol yn mynd i mewn o ben Caernarfon. Darparwyd platfform y tu mewn ar gyfer trosglwyddo nwyddau rhwng wagenni, neu i gerbydau ffordd. Mae hwn bellach yn weithdy i’r RhUC.

Diolch i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad

Cod post: LL54 5UP    Gweld Map Lleoliad

Rheilffordd Ffestiniog ar HistoryPoints.org

Gwefan Rheilffordd Ucheldir Cymru

National Cycle Network Label Navigation previous buttonNavigation next button