Rheilffordd gynnar, Ceinewydd
Rheilffordd gynnar, Ceinewydd
Yn yr ardal sydd dan wair, y tu hwnt i’r muriau isel, gallwch weld darn byr o rheilffordd haearn cynnar. Mae’n atgof o’r cyfnod pan oedd gan Ceinewydd ei rheilffordd ei hunan er na fu erioed yn rhan o’r rhwydwaith cenedlaethol!
Dywedodd y New Quay Pier and Harbour Company yn 1835 wrth gontractwyr a oedd am wneud cynnig i adeiladu’r Pier Carreg yn Ceinewydd mai y contractwr a gâi ei ddewis fyddai’n gyfrifol am “gloddio, codi, a chludo’r Cerrig, a dod o hyd i’r Calch, y Graean, y Tywod, y Defnyddiau eraill a’r Offer”. Cyfraniad cwmni’r harbwr fyddai gosod rheilffordd o’r chwarel yn Fron Dolau i’r safle adeiladu, pellter o c.600 metr.
O graffu ar y darn o’r rheilffordd sydd wedi goroesi, fe welwch fod y cadeiriau haearn bwrw y mae’r cledrau yn eistedd arnyn nhw, wedi’u bolltio i gerrig unigol, yn hytrach nag i’r trawsliniau pren a gâi eu defnyddio ar reilffyrdd diweddarach. Dibynna’r dull cyntefig hwn ar y cerrig yn aros yn gadarn yn eu lle, neu gallai’r bwlch rhwng y cledrau newid a bwrw’r wagenni oddi ar y cledrau.
Mae ffurf y cledrau yn dangos mai ar y wagenni roedd y cantelau er mwyn eu cadw ar y cledrau. Ar dramffyrdd cynharach ar y trac, fel rheol, roedd y cantel gydag ymylon wedi’u codi ar hyd y cledrau – a’r wagenni heb gantel.
Gerllaw y mae cofeb i Alan Bryant (1922-1997). Ef a’i wraig, Jean, a sefydlodd Ysbyty Adar a Bywyd Gwyllt Ceinewydd, yn bennaf er mwyn achub adar a’u plu wedi’u niweidio gan olew.
Roedd odyn galch yn yr ardal hon ar un adeg. Byddai calchfaen yn cael ei losgi er mwyn cynhyrchu calch. Roedd angen calch ar ffermwyr i wrteithio’u caeau a’u gwneud yn llai asidig. Defnyddid calch yn ogystal wrth adeiladu.
Diolch i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad
Cod post: SA45 9NZ Map