Pier Ceinewydd

new_quay_wall_with_lifeboat

Adeiladwyd y pier sylweddol o gerrig yng Ngheinewydd yn y 1830au yn lle’r pier cynharach a oedd wedi dirywio erbyn 1810. 

Yn y 1830au sefydlodd masnachwyr lleol y New Quay Pier and Harbour Company a phenodi Daniel Beynon i gynllunio pier newydd. Dewisiwyd Rees William Jones o Gasllwchwr ger Abertawe i’w adeiladu. Codwyd rheilffordd byr i gario’r cerrig at y pier o chwarel Fron Dolau. Nid nepell i ffwrdd, gallwch weld darn o’r trac sydd wedi goroesi.

Cychwynnodd y gwaith adeiladu yn 1836 a’r cwmni yn dechrau casglu tollau gan ddefnyddwyr yr harbwr y flwyddyn ganlynol. 

Mae i’r pier ddwy lefel wedi’u cysylltu gan risiau. Ar yr ochr gysgodol mae llithrfa lydan a adeiladwyd yn y 1860au er mwyn hwyluso codi llongau o’r dŵr ar gawell haearn er mwyn eu trwsio. Mae pedwar llawr i’r hen warws ar ben gorllewinol y pier ac mae hi wedi ei hadeiladu i mewn i’r llethr.

Dinistriwyd y goleudy ar ben y pier gan storom ffyrnig y “Royal Charter” y storom a ddrylliodd y Royal Charter ger Ynys Môn gan golli 400 o fywydau. Nid y goleudy oedd yr unig golled y noson honno; dinistriwyd, yn ogystal, chwech o gychod yn y bae. 

Mae’r llun (gyda chaniatâd yr RNLI) yn dangos y bad achub hunanunioni Frank and Marion yn cael ei lusgo i’r lan ger y pier, cyn i gaban bad achub newydd ynghyd â llithrfa gael eu codi yn 1903. Ceinewydd oedd cartref y bad hwn o 1886 tan 1907. 

Yn ystod oes Fictoria, Edward Sherlock oedd yn rheoli gorsaf gwylwyr y glannau ger y pier a’r offer achub bywyd oedd yno. Yn 1898 barn y Llyngesydd Compton Domville a wnaeth arolwg o’r orsaf a’i staff oedd ei bod mewn cyflwr da. Aeth llawer o bobl allan mewn cychod i gael golwg ei iot a angorwyd ger pen y pier. 

O’r 1890au ymlaen cyhuddwyd cwmni’r harbwr, weithiau gerbron y llys, o gamreolaeth. Yn ôl y beirniaid roedd gwaddodion tywod yn achosi llongddrylliadau ac yn gorfodi agerlongau mawr i ddadlwytho ar y traeth. Yn 1933 gofynnodd gweinidog i’r cwmni wahardd ymdrochi o’r pier a’r cyffiniau ar y Sul er mwyn parchu Dydd yr Arglwydd.

Ffynonellau yn cynnwys: Archifau Ceredigion a Ceredigion Shipwrecks gan William Troughton (Ystwyth Press 2006). Diolch i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad.

Cod post: SA45 9NW    Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button