Cofeb Ellen Edwards, Caernarfon

button-theme-womenCofeb Ellen Edwards, Caernarfon

caernarfon_elen_edwardsMae'r plac llechi ar yr hen marwdy hwn yn coffáu Ellen Edwards (1810-1889), a addysgodd fwy na 1,000 o forwyr sut i fordwyo'r moroedd. Dangosir ei phortread yma trwy garadigrwydd Gwasanaeth Archifau Gwynedd.

Ganwyd Ellen yn Amlwch, Ynys Môn. Rhodded ei thad, Capten William Francis, y gorau i fordeithio ym 1814 ac agorodd ysgol fordwyo yn Amlwch. Cafodd Ellen lawer o'i gwybodaeth am fordwyo o dan ei arweiniad.

Symudodd Ellen i borthladd Caernarfon, a oedd yn tyfu'n gyflym, ym 1830 ac yn fuan agorodd ysgol yn 34 Stryd Newydd lle y cawsai morwyr addysg yn y pynciau hanfodol ar gyfer eu gyrfaoedd. Yn 1833 priododd hi Capten Owen Edwards, a fu farw ar y môr ym 1860.

Daeth ei myfyrwyr o ardal eang, gan gynnwys Caernarfon, Ynys Môn a Phen Llŷn. Bob blwyddyn yn y 1850au, 60au a'r 70au pasiodd tua 30 o'i myfyrwyr arholiadau Byrddau Morol Lloegr, yr Alban ac Iwerddon. Nid oedd bwrdd gan Gymru! Y ganolfan arholi agosaf oedd Dulyn. Cynorthwyodd ei merch, Ellen Francis Edwards, yn yr ysgol (priododd hithau gapten llong hefyd).

Cydnabuwyd Ellen Edwards yn ei hoes fel “dynes glyfar, medrus iawn yn y grefft o fordwyo, a oedd wedi dysgu rhai o’r morwyr gorau i orchymyn llongau mawr”. Pan gyrhaeddodd 70 oed, lobïodd Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon y Llywodraeth am bensiwn anrhydeddus iddi. Fodd bynnag, dim ond £75 y cafodd hi, o'r Royal Bounty Fund.

Bu farw Ellen, yn 79 oed, yn ei chartref, 13 Stryd y Degwm. Adroddodd papur newydd: “Hi oedd athrawes y morwyr mwyaf llwyddiannus yng Ngogledd Cymru am y cyfnod hir o 60 mlynedd.”

Mae plac coffa Ellen ar yr adeilad a fu unwaith yn gartref i farwdy'r dref. Fe'i hadeiladwyd tua'r adeg yr agorwyd Doc Fictoria yn y 1860au. Roedd yn gartref i Amgueddfa Forwrol Seiont II o ganol yr 1980au i'r 2000au, ac yn ddiweddarach cafodd ei addasu ar gyfer defnyddwyr y marina cyfagos.

Gyda diolch i Clive James, o Gymdeithas Ddinesig Caernarfon

Cod post: LL55 1SR    Map

Gwefan Gwasanaeth Archifau Gwynedd

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button
 Tour button link for Caernarfon Transport & Industry tour Navigation previous buttonNavigation next button