Capel Ebeneser, Caernarfon

slate-plaque

Capel Ebeneser, Caernarfon

Dyluniwyd y capel Wesleaidd hwn, a godwyd ym 1826, gan y pensaer lleol John Lloyd, a oedd ei hun yn Wesleaid pybur. Mae'n cael ei anrhydeddu gan yr enw Cymraeg ar stryd Wesley Street - Stryd John Llwyd (sy’n gyfochrog a’r capel)

Cyn codi’r adeilad hwn, cyfarfu Wesleaid mewn capel llai, a adeiladwyd yn 1804 yma yn Nhre’r Gôf. Wrth i'r aelodaeth gynyddu, roedd angen capel mwy. Mae talcen capel 1804 yn dal i sefyll, yng nghefn capel presennol. Yn 1834 codwyd capel y tu ôl i’r prif gapel ar gyfer gwasanaethau Saesneg, ond yn 1877 symudodd y Saeson i gapel newydd yn Stryd y Castell (Capel y Seiri Rhyddion heddiw).

Yr adeilad presennol oedd capel Wesleaidd mwyaf Cymru, a ddyluniwyd i ddal 900. Gallai’r ystafell ysgol gynnwys 400. Costiodd adeiladu’r capel £3,486. Mae'n un o'r ychydig gapeli yng Nghymru sydd â dyluniad Gothig. Gostyngwyd tri drws gwreiddiol John Lloyd i ddau pan ychwanegwyd y porth presennol i ddyluniadau Richard Davies.

Mae gan y capel ffenestr gwydr lliw, yn darlunio’r Seintiau Michael a Martin, er côf am Albert Victor Jones (1887-1914), mab ieuengaf yr ynad John Jones. Graddiodd Albert yng Nghaergrawnt a bu’n gweithio fel cyfreithiwr cyn gwasanaethu fel aelod o’r fyddin. Lladdwyd ef mewn brwydr yng Ngwlad Belg ym mis Tachwedd 1914. Dadorchuddiodd ei fam Jane y ffenestr ym 1918.

Ym 1912, ychwanegwyd ystafell genhadol at y capel ar gyfer tlodion y dref. Fel oedd yn gyffredin mewn llawer o gapeli ar y pryd, darparwyd addoliad ar wahân i bobl na allent fforddio tanysgrifiad capel.

Yn 1921 priododd Gwilym Lloyd George ag Edna Jones yma. Ymhlith y gwesteion roedd ei dad, y Prif Weinidog David Lloyd George, a'i fam, y Fonesig Margaret. Roedd Gwilym yn Uwchgapten yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn ddiweddarach daliodd amryw o swyddi cabinet, gan fod yn Weinidog Tanwydd a Phwer am y rhan fwyaf o'r Ail Ryfel Byd. Ei gyfrifoldeb ef oedd cyhoeddi ym 1955 mai Caerdydd oedd prifddinas swyddogol Cymru - ac nid ei brif wrthwynebydd Caernarfon! Gallwch wylio clip newyddion o'r parti priodas yn gadael y capel ar wefan Pathe yma.

Caeodd Capel Ebeneser yn 2018. Roedd ei 13 gweinidog yn cynnwys y bardd Gwilym R Tilsley.

Gyda diolch i Rhiannon James, o Gymdeithas Ddinesig Caernarfon

Cod post: LL55 2PR    Map