Cyn swyddfeydd yr harbwr, Y Felinheli

Link to French translation

Codwyd rhan hynaf yr adeilad hwn, sydd bellach yn fwyty, tua 1902 fel swyddfeydd ar gyfer yr harbwr llechi oedd newydd ei ehangu. Ar un adeg roedd y tir rhwng yr adeilad a'r cei yn cael ei feddiannu gan draciau rheilffordd ar gyfer y wagenni a ddaeth â llechi yma o chwarel Dinorwig, ger Llanberis.

Mae waliau'r adeilad wedi'u gorchuddio â thafodau llechi, wedi'u trefnu i orgyffwrdd mewn patrwm sy'n edrych fel cen pysgod. Roedd llechi yn ddull o amddiffyn waliau adeiladau rhag glaw mewn lleoliadau agored. Yma, yn y sefyllfa gymharol gysgodol hon, mae'n debyg eu bod yn addurnol. Fyddai dim prinder llechi wedi bod ar gyfer y cladin!

Os edrychwch yn ofalus, fe welwch fod y llechi wedi'u trefnu mewn rhesi o liwiau cynnil gwahanol. Roedd chwareli Dinorwig yn cynhyrchu llechi o wahanol arlliwiau, fel glas, coch, gwyrdd ac eraill.

Roedd staff yn swyddfeydd yr harbwr yn goruchwylio'r angori a llwytho llongau oedd yn cludo llechi Dinorwig i borthladdoedd o amgylch Ynysoedd Prydain. Un o'r prif gyrchfannau ar gyfer y llongau oedd Lerpwl, lle trosglwyddwyd llechi i longau mwy i'w hallforio i wledydd mor bell i ffwrdd ag Awstralia a Gogledd a De America.

Yn 1886 rhoddwyd pwerau newydd i'r harbwr feistr yma i atal llongau rhag angori ar draws llwybr y cychod fferi a oedd yn myned rhwng Y Felinheli a Moel y Don, ar ochr Ynys Môn i Afon Menai. Daeth hyn yn dilyn cwynion bod rhwystro llongau yn achosi "anghyfleustra mawr".

Diolch i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad

Cod post: LL56 4JN    Gweld Map Lleoliad

Gwefan bwyty La Marina

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button