Hen gartref T Gwynn Jones, Caernarfon

slate-plaque

Hen gartref T Gwynn Jones, Caernarfon

Ar ddechrau’r 20fed ganrif bu’r tŷ hwn yn gartref i Thomas Gwynn Jones, un o lenorion mwyaf toreithiog ac amlochrog Cymru.

Fe’i ganed yn y Gwyndy Uchaf, Betws-yn-Rhos, ar 10 Hydref 1871. Ac eithrio addysg elfennol a pheth hyfforddiant mewn Lladin, Groeg a mathemateg, fe’i addysgodd ei hun. Bu’n gweithio ar staff Y Faner a’r Cymro cyn dod i Gaernarfon yn 1898 i weithio fel is-olygydd i Daniel Rees ar Yr Herald Cymraeg a’r Carnavon and Denbigh Herald.

Priododd yn 1899 ac wedi hynny bu’n cartrefu yma tan 1905 pan fu’n rhaid iddo fynd i’r Aifft i wella ei iechyd. Dychwelodd i ardal Dinbych yn 1906 ond daeth yn ôl i Gaernarfon yn 1908 lle bu am gyfnod byr yn olygydd Papur Pawb ac yn is-olygydd Y Genedl Gymreig.

Yn Rhagfyr 1909 symudodd i Aberystwyth yn gatalogydd yn y Llyfrgell Genedlaethol ac yn yr ardal honno y treuliodd weddill ei oes. Yn 1913 fe’i penodwyd yn ddarlithydd yn y Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol ac fe’i dyrchafwyd yn Athro mewn Llenyddiaeth Gymraeg yn 1919.  Ymddeolodd yn 1937 a bu farw ar 7 Mawrth 1949.

T Gwynn Jones yw un o feirdd mwyaf Cymru. Enillodd gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith – Bangor 1902 gyda’i awdl Ymadawiad Arthur (oedd yn chwyldroadol yn ei dydd) a Llundain 1909 gyda’i awdl Gwlad y Bryniau – dwy awdl a gyfansoddodd tra roedd yn byw ac yn gweithio yng Nghaernarfon. Yn ddiweddarach cyfansoddodd nifer o gerddi hirion eraill yn cynnwys Madog, Anatiomaros a Cynddilig ynghyd â llawer o gerddi byrion.

Yn ogystal â chyfrolau o farddoniaeth cyhoeddodd gofiannau, dramâu, nofelau a lliaws o gyfeithiadau yn ogystal â nifer sylweddol o weithiau ysgolheigaidd. Yn Llyfryddiaeth Thomas Gwynn Jones gan D Hywel E Roberts (1981) rhestrir 3,322 o’i amrywiol weithiau.

Pan ymddeolodd o’i swydd cafodd radd D. Litt. Honoris causa gan Brifysgolion Cymru ac Iwerddon a gwnaed ef yn CBE yr un flwyddyn.

Gyda diolch i Geraint Jones a Chymdeithas Ddinesig Caernarfon. Daw’r wybodaeth uchod o’r Bywgraffiadur (Llyfrgell Genedlaethol Cymru), ‘Cofiant T. Gwynn Jones’ gan David Jenkins, 1973, a rhifyn coffa 'Y Llenor'. Gweler hefyd gofiant Alan Llwyd, 'Byd Gwynn', 2019.

Cod post: LL55 2RG    Map

Tour button for Caernarfon words and music tour Navigation previous buttonNavigation next button