Hen gartref IB Griffith

slate-plaque

Hen gartref IB Griffith

Photo of I B Griffith writing at his desk

Roedd ‘IB’ yn un o gymeriadau mawr Caernarfon y ganrif ddiwethaf. Bu’n faer sawl tro a phan ymwelodd yr Eisiteddfod Genedlaethol â Chaernarfon yn 1959 a 1979, IB oedd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith ddwywaith. Mae hyn yn dysteb diamheuol i boblogrwydd ei gymeriad.

Ar Ionawr 22, 1907, y ganwyd Ifor Bowen Griffith yn Nhy'n Clawdd, Tregarth, tyddyn ar stad y Penrhyn. Bu darn o'r tŷ yn gapel Wesla yn y 19ed ganrif a phan oedd IB yn blentyn cadwai'r meddyg lleol ei syrjeri yn y parlwr bach.

O ysgol y pentre aeth i'r Ysgol Sir ym Methesda ac yna i Goleg Prifysgol Bangor, lle'r astudiodd y Gymraeg o dan oruchwyliaeth yr Athro Ifor Williams.

Ym 1930 fe'i penodwyd yn athro mewn ysgol i fechgyn yn Lewisham, Llundain. Bu yno am saith mlynedd ac yn ystod y cyfnod hwnnw priododd â Mary Rowena Cadwalader o Borthmadog.

Ym 1937 fe'i penodwyd yn brifathro ar Ysgol y Sarnau, Meirionnydd. Ymgartrefodd o a Wena yn Nhy'r Ysgol ac yno ganwyd eu mab a'u merch. Buont yn hapus eithriadol yn y Sarnau - ardal gymdeithasol, ddiwylliedig a phrysur, a'r ysgol yn ganolfan pob gweithgaredd.

Portrait of I B Griffith

Ym 1944, pan ddaeth y gwasanaeth ieuenctid i fodolaeth, penodwyd I.B. yn Drefnydd Ieuenctid Sir Drefaldwyn a symudodd y teulu i'r Drenewydd. Byr fu'r arhosiad yno ac ym 1946 daeth y teulu i Gaernarfon pan ei penodwyd  yn Drefnydd Ieuenctid y Sir.

Rhaid oedd llenydda. Enillodd goron Eisteddfod y Plant ym Methesda a medal yr Eisteddfod Genedlaethol pan oedd yn yr Ysgol Sir, a choron Eisteddfod Coleg Bangor yn ddiweddarach. Bu'n olygydd a chyfrannwr i gylchgrawn y coleg, ac yn ysgol Lewisham cynhyrchodd gylchgrawn i'r disgyblion. Bu'n gyfrannwr i'r Montgomeryshire Express, Y Cymro, Y Gwyliedydd, Yr Herald Cymraeg a phapurau eraill. Bu'n feirniad adrodd a llenyddiaeth ac yn arweinydd eisteddfodau bach a mawr.

Camodd i fyd teledu a bu'n darlledu'n gyson drwy'r cyfrwng hwnnw, ond roedd darlledu radio'n fwy at ei ddant. Ymfalchïai mai fo ddarlledodd y sylwebaeth gyntaf ar gêm griced yn y Gymraeg! Ym 1970 darlledwyd Rhwng Gwyl a Gwaith, rhaglen ddogfen o dan ofal John Roberts Williams ac IB yn cyflwyno, a hynny bob nos Sul am ugain mlynedd.

Yn ifanc, fe'i swynwyd gan huodledd Lloyd George ac ymunodd a'r Blaid Ryddfrydol. Yn ddiweddarach ymunodd a'r Blaid Lafur a bu'n aelod o'r blaid honno hyd y diwedd. Bu'n aelod o Gyngor Tref Caernarfon ac yn Gynghorydd Sir gan gadeirio amryw o bwyllgorau. Ymddiddorai yn arbennig yng ngwaith Pwyllgor Tai a pharhaodd y diddordeb hwnnw pan ddaeth yn aelod o'r Cyngor Sir.

Ar Ionawr 5 1925, yn 17 oed, pregethodd am y tro cyntaf yng Nghapel Peniel, Mynydd Llandegai a bu'n pregethu'n gyson a gydag arddeliad hyd ddydd ei farwolaeth. Hon oedd y fraint fwyaf un.

Bu farw'n ddisymwth ar Fai 5 1990 a'i gladdu ym mynwent Llanbeblig mewn bedd a roddwyd iddo yn anrheg penblwydd gan ffrind teuluol. Ar y garreg coffeir amdano fel a ganlyn: Pregethwr, Darlledwr, Diddanwr - Yr annwyl I.B.

Gyda diolch i Sara Oliver (merch IB) ac i Gymdeithas Ddinesig Caernarfon

Cod post: LL55 2RG    Map

Tour button for Caernarfon words and music tour Navigation previous buttonNavigation next button