Cyn gartref y Parch JE Hughes, Caernarfon
Cyn gartref y Parch JE Hughes, Caernarfon
Rhwng 1904 a 1932, roedd Bryn Peris yn gartref i'r gweinidog Methodistaidd John Evan Hughes, a olygodd gyfnodolyn llenyddol am fwy nag 20 mlynedd.
Fe'i ganed yng Nghaernarfon ym 1865. Astudiodd mewn prifysgolion yn Aberystwyth a Chaergrawnt, gan ennill ei MA yng Ngholeg St John's, Caergrawnt, ym 1896.
Ym 1892 dechreuodd bregethu yng Nghapel Siloh, lle cafodd ei fedyddio. Daeth yn weinidog y capel ym 1894. Fel rheol, symudodd gweinidogion anghydffurfiol i wahanol gapeli yn ystod eu hoes, ond arhosodd John wrth y llyw yn Siloh tan 1926, pan orfododd afiechyd ef i ymddiswyddo. Yna bu'n addoli yno hyd ei farwolaeth ym 1932.
Fel gweinidog ifanc, fe’i disgrifiwyd fel un o’r pregethwyr Methodistaidd mwyaf talentog yng Nghymru. Wrth i'r aelodaeth dyfu, disodlwyd y capel gan un mwy, yn eistedd 850 o bobl, ar yr un safle. Cynhaliwyd gwasanaethau am ddwy flynedd yn neuadd y dref yn ystod yr ailadeiladu. Ar ddiwedd 1900, roedd gan Siloh 512 o aelodau, 31 yn fwy ar brawf a 218 o blant.
Priododd John â Lilly Davies o Cwrt Mawr, Aberystwyth, ym 1903. Symudodd y cwpl i Bryn Peris ym 1904. Arhosodd John yno am weddill ei oes. Nid oedd yn gryf ei iechyd. Yn 1906 cynghorodd arbenigwr meddygol ef i orffwys. Aeth i'r Swistir ond penderfynodd y byddai'r hinsawdd yn well yn Llandrindod! Roedd yno erbyn mis Tachwedd 1906, a dychwelodd i Gaernarfon ym mis Ebrill 1907.
Daeth yn olygydd Y Traethodydd ym 1905, yn fuan ar ôl symud y cyhoeddi o Dreffynnon i Gaernarfon. Roedd ei bedwar rhifyn y flwyddyn yn cynnwys traethodau ar amrywiaeth o bynciau. Arhosodd yn olygydd tan 1928, yna cadeiriodd fwrdd golygyddion newydd y cyfnodolyn.
Diolch i Rhiannon James am y cyfieithiad
Cod post: LL55 2HP Map
![]() |
![]() ![]() |