Hen gartref y prifardd William Morris, Caernarfon

slate-plaque

Hen gartref y prifardd William Morris, Caernarfon

Yma yn Lôn Ddewi y bu’r Parchedig William Morris (1899 – 1979) yn byw, Archdderwydd Cymru rhwng 1957 a 1959.

Yn enedigol o Flaenau Ffestiniog, roedd yn gyfaill i’r bardd Hedd Wyn yn ystod ei ieuenctid.

Yn dilyn cyfnodau yn gweinidogaethu gyda’r Methodistiaid Calfinaidd ym Môn a Chonwy, bu’n byw yng Nghaernarfon fel Bugail Eglwys Seilo am 23 mlynedd rhwng 1938 a 1961, ac yna, wedi iddo ymddeol, hyd ei farw yn 1979. Ef gafodd y fraint o agor adeilad newydd Eglwys Seilo yn swyddogol ar 3 Hydref 1976.

Bu’n ffigwr amlwg iawn yn hanes Cymru fel pregethwr, eisteddfodwr, bardd a phrifardd.

Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Castell-nedd yn 1934 am ei awdl Ogof Arthur ac mae’r gadair honno i’w gweld yng Nghapel Seilo. Bu’n feirniad uchel iawn ei barch yn y Genedlaethol droeon.

Bu’n Archdderwydd am dair blynedd a gwnaed ef yn Gymrawd Eisteddfod Genedlaethol Cymru, sef yr anrhydedd uchaf y gall yr Eisteddfod ei rhoi i unrhyw un.

Roedd hefyd yn awdur toreithiog a’i gynnyrch llenyddol yn cynnwys cyfrolau am hanes a beirdd y Brifwyl, yn ogystal â chofiannau am bregethwyr a llenorion Cymreig.

Gyda diolch i Richard Jones, o Gymdeithas Ddinesig Caernarfon

Cod post: LL55 1BH    Map

Tour button for Caernarfon words and music tour Navigation previous buttonNavigation next button