Porthladd Lacharn gynt

Porthladd Lacharn gynt

Erbyn hyn mae’r rhan helaethaf o’r bae hwn dan drwch o lystyfiant. Bu ar un adeg yn borthladd prysur. Tan ddyfodiad y rheilffyrdd ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, byddai nwyddau (a phobl yn aml iawn) yn cyrraedd Lacharn ar fwrdd llong ac yn ymadael oddi yno ar fwrdd llong. Bryste oedd y prif gyrchfan a gellid achub ar y cyfle i fasnachu â gweddill y byd.

Drawing of Laugharne port in 1740

Ni fu cei go iawn yn Lacharn erioed. Byddai rhai llongau’n angori yn y bae ac yn dadlwytho i gychod gwaelod gwastad ar gyfer y daith i fyny’r afon i Sanclêr neu i Gaerfyrddin. 

Byddai llongau heb gilbren yn cael eu gadael ar y mwd a’r llwyth yn cael ei drosglwyddo i whilberi a cheirt. Gwaith anodd oedd hwn fel yr eglurodd un o’r trigolion wrth sôn am ei dadcu. “Dygai lo o Gydweli er mwyn ei werthu yma. Cymerai ddeng niwrnod i’w ddadlwytho mewn basgedi i geirt yn cael eu tynnu gan geffylau a ddaethai draw ar lanw isel. Dywedodd mai dim ond un gannwyll oedd yn goleuo hold y llong a honno’n diffodd yn aml gan fod yr aer yn foglyd dan drwch o lwch glo. Dychwelai’r llong i Gydweli ar benllanw.

Derbyniodd Griffith Jones (1683-1761), y diwygiwr addysg, filoedd o feiblau drwy’r porthladd at ddefnydd yr ysgolion a drefnwyd gan elusen yr ysgolion cylchynnol. Yn ôl llythyr yn 1749 roedd yn disgwyl llwyth o feiblau gyrraedd o Lundain ar y Racehorse. Rhwystrwyd y llong gan wyntoedd cryfion.

Ar y lan roedd stordai i gadw grawn a nwyddau eraill i’w hallforio. Roedd un ohonyn nhw yn y man lle y mae gardd Dylan Thomas ar hyn o bryd, sef pen draw’r maes parcio. Nesaf ato roedd y Capel Morol canoloesol a godwyd er mwyn i’r morwyr weddïo am dywydd teg ar gyfer eu taith neu i ddiolch am ddychwelyd yn ddiogel o fordaith enbydus. Yn y ddeunawfed ganrif defnyddiwyd y capel gan y Morafiaid Methodistaidd. Pregethai un o arweinwyr y Methodistiaid, Peter Williams, yno yn achlysurol.

Ar ben draw’r Strand mae adeilad a fu’n stordy ar un adeg. Adeiladwyd odyn galch o’i flaen yn 1761. Roedd y cynnydd yn y fasnach galch wedi cyfrannu, yn fwy na thebyg, at ffyniant y porthladd. Yn ail hanner yr unfed ganrif ar bymtheg roedd yr arfer o wasgar calch ar y caeau wedi gwella cynnyrch y ffermydd a chaniatáu trin rhagor o dir. Canlyniad hyn oedd allforio rhagor o gynnyrch amaethyddol drwy’r porthladd. Nwyddau trwm yw glo a cherrig calch ac yn hollol angenrheidiol i wneud calch. Y dull rhataf i gludo’r nwyddau hyn oedd ar fwrdd llong, a’r llongau yn eu tro yn dychwelyd yn llwythog o gynnyrch amaethyddol.

Diolch i Peter Stopp o Hanes Cymunedol Lacharn, ac i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad

Cod post: SA33 4TS    Map

Gwefan Laugharne Lines – rhagor o hanes lleol a map ‘tanddaearol’ o’r dref

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button