Hen ysbyty coffa Crughywel

PWMP logoHen ysbyty coffa Crughywel

Adeiladwyd Ivy Tower, y tŷ y tu ôl i’r reilins ar y plot yma ar y gornel, ym 1719  ac mae wedi’i ddefnyddio mewn llawer o wahanol ffyrdd. Yn y 19eg ganrif, ysgol breifat oedd hi i enethod o deuluoedd cyfoethog.

Fe’i henwir ar ôl y tŵr ym mhen dwyreiniol y plot. Fe ddichon fod golwg ganoloesol ar y tŵr ond ffoledd Fictoraidd ydyw.

crickhowell_ivy_tower

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, bu Ivy Tower yn gartref i ganolfan ddosbarthu Ysbyty Rhyfel Crughywel lle byddai merched yn casglu ac yn gwneud eitemau i ysbytai milwrol ym Mhrydain ac mor bell i ffwrdd ag India. Bu’r ganolfan ar waith o 1915 tan 1919. Ar unrhyw adeg, byddai 16 i 20 o ferched yn staffio’r ganolfan, llawer ohonynt yn gwneud gwaith fel gwnïo. Byddai merched eraill yn cynhyrchu pethau gartref i’w hanfon i’r ganolfan.

Ym mis Hydref 1916 adroddodd yr Abergavenny Chronicle fod y merched wedi bod yn eithriadol brysur ers mis Mai a’u bod wedi anfon 2,195 o eitemau gan gynnwys sanau wedi’u gweu â llaw, sanau llawfeddygol, hancesi, rhwymynnau, swabiau, dillad gwely a gobenyddion. Roedd hefyd wedi derbyn dros £160 mewn rhoddion.

crickhowell_ivy_tower_hospital

Ar ôl y rhyfel, cyflwynodd yr Arglwydd Glanwysg yr adeilad fel rhodd i’w drawsnewid yn Ysbyty Coffa Crughywel. Agorodd yr uned 10 gwely yma ym mis Mehefin 1920. Roedd iddo farw-dy yn nhŵr y ffoledd. Mae’r lluniau, drwy garedigrwydd Canolfan Archifau Crughywel a’r Cylch, yn dangos Ivy Tower fel ysbyty gyda choflech ar wal y talcen.

Ar ddiwedd y 1930au, daeth Ivy Tower yn hostel ieuenctid. Bu gwerthu’r adeilad i’r Gymdeithas Hosteli Ieuenctid yn helpu i ariannu ysbyty coffa newydd i’r dwyrain o’r dref, ger y gofeb ryfel bresennol. Caeodd yr hostel ieuenctid ar ddechrau’r 1980au.

Gyda diolch i Gasgliad Chris Lewis o Ganolfan Archifau Crughywel a'r Cylch

Cod post: NP8 1BL    Map

I barhau’r daith “Crughywel yn y Rhyfel Byd Cyntaf”, ewch i lawr y Stryd Fawr, troi i’r dde i Stryd y Bont a dal ymlaen at y bont dros yr afon.
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button