Pont Crughywel

button-theme-powPont Crughywel

Dyma’r bont gerrig hiraf yng Nghymru. Mae ganddi 12 neu 13 o fwâu, gan ddibynnu ar ba ochr rydych yn edrych! Efallai fod hynny i’w weld yn ormod braidd o dan amodau arferol, ond mae’r agoriadau bob ochr i afon Wysg yn hanfodol pan fydd yr afon yn gorlifo ar ôl glaw trwm.

Mae pont dros yr afon yma ers yr Oesoedd Canol. Fwy na thebyg, o bren y gwnaethpwyd y bont gyntaf a gâi ei thrwsio neu ei hadnewyddu ar ôl llifogydd. Ym 1706, codwyd pont gerrig a gostiodd £400 a llwyddodd i wrthsefyll grymoedd yr afon nes y llifogydd ym 1808. Yn ystod yr atgyweiriadau ar ôl hynny, achubwyd ar y cyfle i ledu’r ffordd.

Yn y 19eg ganrif, byddai teithwyr yn stopio i dalu tollau wrth dolldy ar ochr y dref i’r bont – bellach yn rhan o Dafarn y Bridge End.

Pam y nifer gwahanol o fwâu ar bob ochr? Yn y 1820au, cafodd bwa lletach – a gymerai le dau fwa cynharach – ei ychwanegu ar yr ochr i fyny’r afon ym mhen Crughywel i’r bont. Roedd hynny’n cyd-ddigwydd ag adeiladu’r hyn yw’r A4077 heddiw, ffordd i osgoi troadau a thagfeydd ar hyd y ffordd wreiddiol i fyny o’r bont, drwy Stryd y Bont a’r Stryd Fawr.

Randolph Morgan wnaeth un o’r siwrneiau mwyaf anarferol dros y bont ym mis Ionawr 1919 – wrth gael ei gludo ar ysgwyddau’r dorf! Fel Preifat yng Nghorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin, roedd wedi goroesi Brwydr Mons - brwydr fawr gyntaf Prydain yn y Rhyfel Byd Cyntaf - a dianc o gaethiwed yr Almaenwyr fwy nag unwaith. Fe’i hailgipiwyd ym mis Mai 1918 a’i ryddhau ar ddiwedd y rhyfel. Wrth gamu oddi ar y bws yng Nghrucywel, fe’i cyfarchwyd gyda bonllefau ac areithiau. Arweiniodd band biwglau yr orymdaith a’i cludodd i Hillside, Llangatwg, lle roedd ei dad, Lewis Morgan, yn byw.

Gwyliadwriaeth a gwaith cynnal a chadw ataliol wrth i dechnegau peirianyddol wella sy’n gyfrifol am oroesiad y bont am fwy na 200 mlynedd. Ym 1852, er enghraifft, adnewyddwyd y gwaith cerrig ar ochr Llangatwg i’r bont am gost o £10 10s. Ym 1867 cyhoeddodd syrfëwr y sir fod angen adnewyddu rhai o byst sylfaen y bont gyda physt rhwng 7 a 9 troedfedd o hyd (rhwng 2.1 a 2.7 metr). Gosodwyd y gored i lawr yr afon o’r bont i atal dŵr yr afon gan leihau sgwrio sylfeini’r bont gan ddŵr a silt.

Roedd angen gwaith pellach yn yr 20fed ganrif er mwyn i’r bont wrthsefyll gofynion cynyddol cerbydau modur. Daeth craciau i’r golwg ym 1979 a rhoddwyd pont dros dro yn ei lle wrth ei hymyl wrth i’r bont gael ei hatgyweirio. Yn 2011 difrodwyd rhan o’r canllaw mewn damwain wrth i gar heddlu erlid rhywrai oedd o dan amheuaeth o ddwyn ceir.

Map

I barhau’r daith “Crughywel yn y Rhyfel Byd Cyntaf”, cefnwch ar y bont a dilyn y Ffordd Newydd at y lleoliad nesaf, Glencoe House, ar y chwith ar ôl y siopau
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button
I barhau’r daith “Llangatwg yn y Rhyfel Byd Cyntaf”, croeswch y briffordd, troi i’r dde a dilyn Hillside Road at Dafarn y Bedol
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button