Glencoe House, Crughywel

PWMP logoGlencoe House, Crughywel

crickhowell_leonard_family

Adeiladwyd y tŷ hwn ar ddiwedd y 19eg ganrif i John a Caroline Leonard. Bu farw un o’u meibion o glwyfau a gafodd yn Galipoli yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Bu John a Caroline yn rhedeg Tafarn y Gyfnewidfa Ŷd ar ddechrau’r 1890au. Erbyn 1901, roeddent yn byw yn Glencoe House a phlymer ac addurnwr tai oedd John. Roedd ganddynt naw o blant, un ohonynt yn marw’n faban. Mae’r llun ar y dde (drwy garedigrwydd Canolfan Archifau Crughywel a’r Cylch) yn dangos y pâr yng nghanol eu plant a phlant-yng-nghyfraith.

Bedyddiwyd eu mab, Albert Jeffreys Leonard (yr ail o’r dde yn y rhes gefn) yn Eglwys Sant Edmwnd ym mis Chwefror 1887. Ar ôl gorffen yn yr ysgol, hyfforddodd fel teiliwr ac roedd yn chwaraewr ac yn swyddog yng nghlwb pêl-droed Crughywel. Roedd hefyd yn chwarae rygbi ac yn aelod o Diriogaethwyr Crughywel (milwyr wrth gefn).

Ar ôl ymfudo i Seland Newydd, cafodd waith fel mwynwr ar Ynys y Gogledd ond gadawodd ei swydd i ymuno â Chatrawd Troedfilwyr Wellington ym mis Rhagfyr 1914, ychydig fisoedd ar ôl i’r rhyfel ddechrau. Ar ôl mordaith hir, cyrhaeddodd Galipoli lle’r oedd y Cynghreiriaid yn ceisio goresgyn Twrci. Roedd camgymeriadau wedi’u gwneud pan oedd y Cynghreiriaid angen i’w hymosodiad fod yn ddirybudd. Bu llawer o filwyr o Awstralia a Seland Newydd ymhlith y rhai a laddwyd.

crickhowell_leonard_brothers_in_uniform

Penodwyd Bert yn gogydd ym mis Mai 1915. Fe’i clwyfwyd ar faes y gad 8 Awst a bu farw chwe diwrnod yn ddiweddarach ar long ysbyty oddi ar Limnos, ynys Roegaidd. Fe’i claddwyd ar yr ynys.

Bu brodyr Bert, Charles a Bill, hefyd yn gwasanaethu yn ystod y rhyfel. Daliwyd Charlie yn garcharor rhyfel gan yr Almaenwyr dros chwe mis olaf y rhyfel. Mae’r llun ar y chwith (drwy garedigrwydd Canolfan Archifau Crughywel a’r Cylch) yn dangos, o’r chwith i’r de, Charlie, Bill a Bert (gyda milwr anhysbys yn eistedd) yn Nhiriogaethwyr Crughywel.

Nyrsys oedd ei chwiorydd, Caroline ac Ethel, mewn ysbytai milwrol.

Yn y 1930au bu Glencoe House yn gartref i’r plismon ymddeoledig, Glyn Gabe a’i wraig Edith.  

Gyda diolch i Gasgliad Chris Lewis o Ganolfan Archifau Crughywel a'r Cylch ac i Ryland Wallace

Cod post: NP8 1AY    Map

I barhau’r daith “Crughywel yn y Rhyfel Byd Cyntaf”, cerddwch i fyny’r Ffordd Newydd i Lôn yr Eglwys, lle mae’r codau QR nesaf ger y fynedfa i’r fynwent
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button